Paid â Phoeni, rydw i yma i ti: profiadau plant a phobl ifanc Cymru o seiberfwlio

Darllenwch yr adroddiad

Lawrlwythwch ein hadnodd gwrth-seiberfwlio Ysgolion Cynradd

Lawrlwythwch ein hadnodd gwrth-seiberfwlio Ysgolion Uwchradd yma

Lawrlwythwch ein hadnodd hygyrch gwrth-seiberfwlio yma

Prif Negeseuon

  • Mae plant a phobl ifanc yn gallu nodi ystod eang o brofiadau ar-lein negyddol, gan gynnwys agweddau negyddol at edrychiad a hunaniaeth, cael eu rhewi allan o’r grwpiau ‘poblogaidd’ a bygythiadau trais. Bydden nhw’n hoffi cael mwy o gyfleoedd i rannu eu profiadau o fwlio ar-lein a thrafod strategaethau ymdopi mewn mannau diogel, anfeirniadol.
  • Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gosod gwerth ar strategaethau ac ymyriadau sy’n cael eu harwain gan gyfoedion.
  • Yn aml mae athrawon heb wybodaeth am dechnoleg newydd a sut mae plant a phobl ifanc yn ei defnyddio, ac mae llawer ohonynt yn teimlo bod y mater yma’n eu llethu. Mae angen yn aml iddyn nhw ddelio gyda chanlyniadau bwlio sy’n digwydd dros nos ac ar ôl oriau ysgol, yn ogystal ag effaith hynny ar allu plant i ddysgu.
  • Gall rhai athrawon deimlo bod ymddygiad rhieni yn eu tanseilio os byddan nhw’n ymyrryd yn amhriodol ar-lein ar ôl i’w plant gael eu bwlio, neu os na fyddan nhw’n cyfyngu ar fynediad plant i apiau a gêmau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer pobl ifanc hŷn neu oedolion.
  • Mae pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod rhieni’n ansicr beth i’w wneud am fwlio ar-lein, a’u bod yn aml heb ddeall bywydau ar-lein eu plant. Gallan nhw deimlo’n siomedig os na fydd ysgolion yn gweithredu mewn ymateb i fwlio ar-lein.

Ein camau gweithredu ar unwaith

  • Rhannu canfyddiadau’r gwaith yma gyda’r rhai yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr ymgyrch Rhianta Cadarnhaol ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’, y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer diogelwch ar-lein, ac ailddrafftio’r canllawiau gwrthfwlio cenedlaethol, ‘Parchu Eraill’, i sicrhau bod y safbwyntiau a gasglwyd yma yn helpu i lywio eu gwaith yn y dyfodol.
  • Darparu pecynnau gweithredu ac adnoddau i alluogi cefnogaeth rhwng cyfoedion trwy weithio gyda channoedd o ysgolion ledled Cymru sy’n aelodau gweithredol o’n cynlluniau Llysgenhadon i sefydlu grwpiau/paneli mewn ysgolion a allai arwain cefnogaeth rhwng cyfoedion.
  • Archwilio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd Cymru pa rôl sydd gan heddluoedd wrth amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein, a sut gallwn ni gyfleu hynny i blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol.
  • Archwilio’r negeseuon allweddol am seiberfwlio mewn hyfforddiant i athrawon a gyflwynir gan ein swyddfa, a fydd yn cynnwys hyfforddiant i’n rhwydwaith o ysgolion Llysgenhadon trwy ein rhaglen o ddigwyddiadau blynyddol.
  •  

Ein camau gweithredu tymor canolig

  • Parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad y Cwricwlwm newydd yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod hawliau dynol ac addysg hawliau plant yn ganolog iddo. Drwy wneud hynny, bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i ddefnyddio hawliau i ddeall a disgrifio’u perthnasoedd ag eraill, a bydd yn eu hannog i edrych yn feirniadol ar eu hagweddau a’u hymddygiad eu hunain.
  • Parhau i ddylanwadu ar ddatblygiad dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â llesiant, gan gynnwys polisi gwrthfwlio sy’n eiddo i gymuned gyfan yr ysgol (disgyblion, rhieni a staff yr ysgol), ac y mae pawb ohonyn nhw wedi ymrwymo iddo, gan gynnwys dealltwriaeth gyffredin o’r dull o ymateb i seiberfwlio.
  • Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysg, a’r consortia addysg rhanbarthol er mwyn datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon wella’u dealltwriaeth o ddulliau effeithiol o weithredu yn erbyn bwlio.
  • Gweithio gyda Chomisiynydd Plant Lloegr i gefnogi ei hymdrechion wrth iddi ofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ffaith bod plant o dan 13 oed yn rheolaidd yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a luniwyd ar gyfer plant hŷn.
  • Cefnogi gwaith ein cymheiriaid rhyngwladol i ddatblygu Sylw Cyffredinol newydd gan y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Digidol Plant a Phobl Ifanc yn 2019. Bydd hyn yn darparu canllawiau rhyngwladol ynghylch sut mae amddiffyn hawliau dynol plant yn y byd digidol.

Ein huchelgais tymor hir

Rydyn ni eisiau gweld Cymru sy’n amddiffyn hawliau plant, ble bynnag maen nhw, gan gynnwys ar-lein.

Rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru barhau i weithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol, consortia addysg rhanbarthol, Estyn a’n swyddfa ni, er mwyn datblygu camau gweithredu ar sail y negeseuon cryf sydd yn yr adroddiad hwn. Mae’n eglur, yn ôl y plant a’r bobl ifanc, oni bai bod achosion o fwlio, gan gynnwys seiberfwlio, yn cael eu cofnodi ac yn destun gweithredu fel mater o drefn, bod newid sylweddol ym mhrofiadau plant ledled Cymru yn annhebygol.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â’r sefydliadau hyn i wireddu’r uchelgais honno o amddiffyn hawliau plant ble bynnag y maent.