Tasg Hydref 2021: dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Roedd y dasg ar gael ar gyfer Llysgenhadon mewn ysgolion a grwpiau cymunedol rhwng mis Medi – Rhagfyr 2021. Cynhalion ni sesiynau hyfforddi gyda’r Comisiynydd ar gyfer ein Llysgenhadon Gwych (ysgolion cynradd) ym mis Hydref 2021. Roedd 6 sesiwn Saesneg, 2 sesiwn Gymraeg ac 1 sesiwn wedi’i theilwra ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Cymrodd tua 750 o ddisgyblion ledled Cymru rhan yn y sesiynau.

Derbynion ni 47 ymateb i’r dasg o ysgolion cynradd, 2 o ysgolion uwchradd a 2 o grwpiau cymunedol. Mae’n debygol gwnaeth mwy o leoliadau cwblhau’r dasg heb rannu eu gwaith gyda ni. Roedd Hydref 2021 yn dymor heriol iawn ar gyfer ysgolion oherwydd y sialensiau parhaus roedden nhw’n wynebu o ganlyniad i Covid-19, felly roedd e’n galonogol i weld cymaint o ysgolion yn dod o hyd i’r amser i wneud y dasg. Mae’r dasg ar gael o hyd i ysgolion ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yma (Cynradd / Uwchradd)

Roedd 3 cam i’r dasg:

  1. Defnyddio templed i feddwl am sut mae’ch ysgol yn cefnogi eich llesiant ac i drafod unrhyw syniadau newydd.
  2. Trefnwch gyfarfod rhwng y Llysgenhadon a’r Tîm Rheoli Uwch ac/neu lywodraethwyr yr ysgol. Rhannodd swyddfa’r Comisiynydd Plant esiamplau o gwestiynau i helpu’r disgyblion.
  3. Crëwch rywbeth i ddweud wrth bob plentyn yn eich ysgol sut mae’r ysgol yn cefnogi eich llesiant ac am unrhyw gynlluniau newydd sydd gan yr ysgol.

Crynodeb o’r ymatebion

Sut mae’ch ysgol yn cefnogi eich llesiant yn barod? (Mwyaf i leiaf cyffredin)

  1. Ymarfer corff a chwaraeon (gan gynnwys bikeability a gwersi nofio)
  2. Dysgu yn yr awyr agored/Ysgol Goedwig
  3. Cymorth gan athrawon/staff
  4. Grwpiau ysgol/llais y disgybl
  5. Gwersi lles (e.e. meddylfryd o dwf, ACaR, Jigsaw, hawliau)
  6. Bwyta’n iach
  7. Yoga/tai chi
  8. Ardal dawel yn yr ysgol
  9. Ymwelwyr (e.e. elusennau, therapydd chwarae, Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion, hyfforddwyr ffitrwydd)
  10. Clybiau ysgol
  11. Milltir y dydd
  12. Gweithgareddau meddwlgarwch (e.e. lliwio, myfyrdod)
  13. Cyfleoedd i chwarae
  14. Dathlu diwrnodau/achlysuron (Plant mewn Angen, Dydd Gŵyl Dewi, Wythnos Gwrth-Fwlio)
  15. Cyfleoedd i siarad am deimladau (amser cylch, ‘check ins’)
  16. Amser gyda ffrindiau a gweithgareddau adeiladu tîm
  17. Creadigrwydd a chelfyddydau mynegiannol (cerddoriaeth, dawnsio gwerin, canu, celf)
  18. Darllen
  19. Bocs becso
  20. Anifeiliaid therapi (cwn, ieir, moch cwta)
  21. Gwobr am ymddygiad da
  22. Gweithgareddau cynhesu (GoNoodle/Joe Wicks)
  23. Sesiynau ELSA/Thrive
  24. Tripiau ysgol
  25. Therapi Lego
  26. Addoli ar y cyd/gwasanaethau
  27. KiVa
  28. Diwrnodau lles
  29. Dysgu ieithoedd
  30. Cynllun cyfeillio
  31. Arddangosfeydd am les a hawliau
  32. Arall – ymgysylltiad teuluol, ymgyrch gwrth-ysmygu, diogelwch Covid, ailgylchu, gwaith pren, cynllun cyfeillio staff

Beth arall gall eich ysgol gwneud i gefnogi eich llesiant? (Mwyaf i leiaf cyffredin)

  • Strategaethau ymlacio (e.e. ystafell ymlacio, myfyrdod, therapi)
  • Bwyd iach yn yr ysgol a gwersi coginio
  • Mwy o ymarfer corff (e.e. mwy o offer, milltir y dydd, gwersi nofio)
  • Mwy o’r celfyddydau ac ieithoedd
  • Clybiau sy’n cael eu rhedeg gan athrawon neu ddisgyblion
  • Mwy o ddigwyddiadau a diwrnodau ysgol gyfan
  • Gwella’r ardaloedd tu allan
  • Cyfeillgarwch
  • Bocsys becso
  • Arall (mwy o ailgylchu, mwy o gymorth gan athrawon, cymorth gydag asesiadau, ci therapi)

Beth ydy llesiant yn golygu i chi? (Esiamplau isod)

  • “Cadw’n hapus, iach ac yn ddiogel”
  • “Dysgu am ein hunain”
  • “Pryd mae’ch corff cyfan yn iach”
  • “Pob agwedd o’ch hapusrwydd a’ch anghenion”
  • “Meddylfryd o dwf”
  • “Byw mewn ffordd iach sy’n bositif i chi ac eraill”

Dulliau

Penderfynodd ysgolion i wneud y dasg mewn sawl ffordd wahanol. Mae rhai wedi’u cynnwys isod:

  • Creu arddangosfa yn y coridor/dosbarth sy’n dangos sut mae’r ysgol yn cefnogi llesiant
  • Cyfweliadau gyda’r pennaeth/tîm rheoli uwch
  • Cyfweliadau gyda llywodraethwyr
  • Pob dosbarth yn cael gwers i drafod llesiant
  • Cyngor ysgol/Llysgenhadon yn cydweithio i restru sut mae’r ysgol yn cefnogi llesiant
  • Tasg gwaith cartref i lenwi cwestiynau ar lesiant
  • Arwain gwasanaeth
  • Cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r awdurdod lleol
  • Gweithio ar y cyd rhwng pwyllgorau/grwpiau llais y disgybl ar draws yr ysgol

Canlyniadau

Dyma rhai o’r canlyniadau o gymryd rhan yn y dasg:

  • Ar ôl siarad â’r Llysgenhadon, trefnodd y tîm rheoli cwrs yoga a sesiynau myfyrdod ar gyfer disgyblion
  • Pennaeth yn siarad â’r llywodraethwyr i gyflwyno llywodraethwr sy’n gyfrifol am les
  • Sawl ysgol yn cynnwys tudalennau we ar lesiant a sut gall yr ysgol cefnogi disgyblion ar wefan yr ysgol
  • Sesiynau wedi’u harwain gan gyfoedion
  • Wedi dechrau ‘Wellbeing Wednesdays’
  • Archwilio ‘mannau diogel’ ar draws yr ysgol
  • Cyflwyno bocsys becso

 Astudiaethau achos

Ysgol gynradd  1

Cyfwelodd y cyngor ysgol gyda’r pennaeth a’r athro gyda chyfrifoldeb am lesiant a threuliodd pob dosbarth gwers ar lesiant. Trafododd y cyngor ysgol y pethau mae’r ysgol yn barod yn ei wneud i gefnogi’u llesiant ac unrhyw syniadau newydd. Creodd y cyngor ysgol cynllun gweithredu er mwyn gwella eu hardal awyr agored a’u hoffer chwarae.

Ysgol gynradd 2

Creodd y Llysgenhadon a’u hathrawes cynllun gweithredu ar gyfer y Dasg Arbennig. Yn ogystal â sicrhau fod bob dosbarth, y pennaeth a’r llywodraethwr lles yn rhan o’r dasg, archwiliodd y Llysgenhadon ardaloedd diogel yn yr ysgol.

Ysgol gynradd 3

Mae gan yr ysgol sawl cynllun lles e.e. therapi Lego, ELSA, Worry Wizard ac yn ehangu ethos yr ysgol allan yn y gymuned trwy gysylltu â theuluoedd – trwy foreau coffi, clybiau cerdded a’u Grŵp Tadau.

Ysgol gynradd 4

Mae’r ysgol yn treulio cyfwerth â diwrnod cyfan yn gwneud gweithgareddau lles bob wythnos, wedi’u cysylltu â’r 5 ffynnon lles (emosiynol, corfforol, ysbrydol, deallusrwydd a chreadigol). Mewn holiadur gyda disgyblion, darganfyddon nhw fod gwersi lles yn boblogaidd. Mae disgyblion hefyd yn gwario llawer o amser tu allan, trwy wersi awyr agored, tai chi/yoga, gweithgareddau adeiladu tîm, adeiladu lloches ac ymlacio yn y goedwig.

Ysgol gynradd 5

Mae gan yr ysgol dull ysgol gyfan ar gyfer dysgu sgiliau newydd ac yn cael prynhawn bob wythnos ar gyfer dysgu sgil newydd. Mae gan staff yr ysgol cynllun cyfeillio i fodelu cyfeillgarwch a charedigrwydd.

Ysgol gyfun 1

Mae gan yr ysgol cynllun mentora wedi’i arwain gan gyfoedion. Mae’r mentoriaid yn cynnal sesiynau amser cinio ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7, lle byddan nhw’n trafod llesiant a pherthnasau, gan gynnwys sut i fod yn ffrind da. Bydd Pwyllgor Lles yr ysgol yn defnyddio holiaduron yn ystod amser cofrestru er mwyn cynllunio eu camau nesaf. Mae gan yr ysgol sawl lle, gydag aelodau staff ymroddedig, lle gall disgyblion fynd os ydyn nhw’n poeni am rywbeth.

Ysgol gyfun 2

Derbyniodd y Llysgenhadon Lles hyfforddiant gan elusen iechyd meddwl, wedyn creodd y Llysgenhadon holiadur ar gyfer disgyblion arall yn yr ysgol seiliedig ar les.  Cyflwynodd y Llysgenhadon Lles eu canfyddiadau a rhannu eu syniadau er mwyn hybu lles y disgybl o fewn yr ysgol.

Adborth ar y Dasg

“Maen nhw’n mwynhau’r gwaith ac yn mwynhau cymryd rhan”

“Mae ein Llysgenhadon wrth eu boddau yn cymryd rhan yn eu tasg gyntaf”

“Fel arfer, diolch am y cyfle gwych i gefnogi ein plant wrth ffocysu ar hawliau allweddol ac am roi platfform a llais er mwyn rhannu eu barn”

“Diolch am bob dim rydych chi’n gwneud i ni.”

“Diolch am dasg hyfryd, rydyn ni methu aros am yr un nesaf!”