Llesiant yn eich Ysgol (Uwchradd)

Os ydych chi’n gweithio â disgyblion sydd ag ADY, efallai hoffech chi ddefnyddio’r adnodd hwn i’w cefnogi.

Gweithgaredd Hawliau

Mae’r arolygon gynhalion ni ym mis Mai 2020 a mis Ionawr 2021 wedi dangos bod y pandemig wedi cael effaith ar lesiant llawer iawn o blant. Mae Sally hefyd yn gwybod bod ysgolion yng Nghymru yn gwneud llawer o waith i ofalu am eu disgyblion a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n mwynhau eu hawliau i fod yn iach ac yn ddiogel.

Eich gwethgaredd chi yw darganfod sut yn union mae eich ysgol yn cefnogi llesiant disgyblion, a rhannu hynny gyda disgyblion eraill yn eich ysgol.

Cam 1

Defnyddiwch y templed yma i feddwl am beth mae eich ysgol eisoes yn gwneud ac i drafod unrhyw syniadau eraill sydd gennych chi. Gall eich athro ddewis gwneud hyn fel tasg ystafell ddosbarth gyfan neu fel tasg i’r Llysgenhadon yn unig.

Cam 2

Gofynnwch i’ch athro drefnu cyfarfod i chi gyda Thîm Arweinwyr Uwch eich ysgol a/neu lywodraethwyr yr ysgol. Bydd eich athro’n gallu dweud wrthych chi pwy yw arweinwyr uwch eich ysgol. Mae hwn yn gyfle i ddysgu mwy am gynlluniau eich ysgol i gefnogi eich llesiant, ac i rannu eich syniadau.

Gallech chi ddefnyddio’r cwestiynau yma  sydd wedi cael eu paratoi gan dîm Sally, i’ch helpu chi.

Cam 3

Crewch rywbeth i ddweud wrth yr holl ddisgyblion sut mae eich ysgol chi yn cefnogi eu llesiant a beth arall mae eich ysgol yn bwriadu ei wneud. Dyma rai ffyrdd posibl i chi wneud hyn:

  • Powerpoint
  • fideo
  • arddangosfa mewn dosbarth neu goridor
  • erthygl ar wefan eich ysgol
  • gwasanaeth ysgol neu wasanaeth rhithwir

Gwybodaeth i Athrawon a Llywodraethwyr