#EinCymru / #OurWales

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni rydyn ni’n gofyn i ysgolion, clybiau ieuenctid a sefydliadau ledled Cymru ymuno â ni i ddathlu amrywiaeth a gwahaniaeth.

Byddwn ni’n defnyddio’r hashnod #EinCymru i rannu negeseuon sy’n hybu ac yn dathlu’r gwerthoedd hyn, ac rydyn ni’n gwahodd eraill i wneud yr un peth.

Ynghyd â negeseuon sy’n dathlu amrywiaeth, byddwn ni’n defnyddio’r hashnod #EinCymru i rannu adnoddau a allai helpu plant a phobl ifanc ledled Cymru i archwilio a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cefndir

Yn ddiweddar fe wnaethon ni greu adnodd oedd yn ceisio mynd i’r afael ag Islamoffobia ac yn amlygu hawl pob plentyn i gael eu trin yn gyfartal.

Ar ddydd Gŵyl Dewi, rydyn ni eisiau i ysgolion a sefydliadau ymuno â ni i ddathlu’r hawl hon.

Chwarae rhan

Y cyfan mae angen i chi wneud yw anfon trydariad ar 1 Mawrth gan ddefnyddio’r hashnod #EinCymru, neu #OurWales yn Saesneg.

Os oes gennych chi adnoddau neu ddeunyddiau i’w rhannu a allai helpu ysgolion i hybu amrywiaeth, pwysleisio cydraddoldeb, neu ddathlu gwahaniaethau, bydden ni wrth ein bodd petaech chi’n defnyddio’r un hashnod i rannu’r rheiny.

Enghreifftiau o negeseuon trydar

Rydyn ni eisiau i #EinCymru fod yn rhywle lle mae pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod y gorau gallan nhw fod.

Dylai #EinCymru fod yn rhywle lle mae gan bawb hawl i fyw bywyd llawn, heb ystyried oed, rhywedd, rhywioldeb na hil.

Rydyn ni wedi creu adnoddau i gefnogi ysgolion i herio stereoteipiau negyddol #EinCymru – DOLEN

Cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am #EinCymru, cysylltwch â ni ar 01792 765600 neu post@complantcymru.org.uk