Llysgenhadon Uwchradd

Mae’n cynllun Llysgenhadon Uwchradd, sy’n hyrwyddo hawliau plant, Comisiynydd Plant Cymru a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn ysgolion.

Ymunwch am ddim

Athrawon: Pecyn gwybodaeth cynllun llysgenhadon

Plant a phobl ifanc: Pecyn gwybodaeth llysgenhadon

Y Cynllun

Gallwch chi redeg y cynllun yn y ffordd sy’n gweithio orau i’ch ysgol!

Gallwch chi ddefnyddio grŵp sydd eisoes yn bodoli fel eich cyngor ysgol, criw lles neu grŵp hawliau i arwain y cynllun neu ddechrau grŵp newydd. Mae rhai ysgolion yn dewis enwebu dau lysgennad hawliau tra bo’ eraill yn dewis gweithio gyda grŵp cyfan.

Mae gan Lysgenhadon Gwych dair swydd, sef:

Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw:

  • Dweud wrth disgyblion yn eu hysgol am rôl y Comisiynydd
  • Gwneud yn siŵr bod plant yn eu hysgol yn gwybod am hawliau plant a’r CCUHP
  • Annog disgyblion yn eu hysgol i gymryd rhan mewn ‘Mater y mis’ a gweithgareddau hawliau arall

Mae Mater y mis yn helpu ein swyddfa, ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith ac ar hawliau plant yng Nghymru.

5 rheswm i ymuno

  • Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith; mae gan ein Llysgenhadon effaith go iawn ar hawliau plant yng Nghymru
  • Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Pwrpas cwricwlwm newydd Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion datblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n medru cyfrannu at eu cymunedau ysgol, a’u cymuned cenedlaethol fel dinasyddion moesegol a deallus
  • Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu y ffyrdd mae nhw’n ymdrin â Lles, a Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad, sy’n ffurfio elfennau Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn 2022.
  • Does dim cost!

Peidiwch ag anghofio rydym wedi mapio’r cwricwlwm yn erbyn y CCUHP a’r CCUHPA.

Rhestr o gwestiynau cyffredin

Cynlluniau i bawb

Mae ein cynlluniau Llysgenhadon yn gallu gweithio i bob ysgol; nid ysgolion prif ffrwd yn unig.

Rydyn ni’n creu adnoddau hygyrch, ac mae gennym staff yn ein digwyddiadau blynyddol sy’n cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn y fideo hwn, mae athrawon o ysgolion arbennig yng Nghymru yn trafod buddion ymuno gyda’n cynlluniau.

Os oes gennych gwestiwn am yr hyn rydyn ni’n darparu, neu awgrymiadau i wella, plis cysylltwch â ni.