Mater y Mis – Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r ddogfen yma’n disgrifio sut rydyn ni’n gweithio o fewn y gyfraith i ddiogelu’r holl wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni trwy ein gwaith ‘Mater y Mis’. Mae hefyd yn esbonio sut byddwn ni’n cadw’r wybodaeth yn ddiogel, a sut byddwn ni’n ei defnyddio.

Beth rydyn ni’n ceisio ei gyflawni gyda ‘Mater y Mis’

Cynllun gwaith newydd sydd ar gael i’n Llysgenhadon yw ‘Mater y mis’. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc rannu eu meddyliau a’u barn ar bwnc gwahanol bob mis. Trwy fod yn rhan o sesiwn ‘Mater y Mis’, bydd plant a phobl ifanc yn helpu i ddylanwadu ar waith Comisiynydd Plant Cymru. Rydyn ni hefyd eisiau amlygu beth yw barn plant a phobl ifanc am faterion sy’n effeithio ar eu bywydau.

Gwybodaeth bwysig am ‘Mater y Mis’ a’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu gennych chi

Mae’r gwaith yma yn rhywbeth gwirfoddol. Does dim rhaid i chi gymryd rhan. Gallwch chi dynnu allan unrhyw bryd, heb roi rheswm. Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi. Dydyn ni ddim yn casglu mwy o wybodaeth nag sydd angen, a fyddwn ni ddim yn cadw’r wybodaeth yn hirach nag sydd angen.

Sut byddwn ni’n defnyddio ac yn storio gwybodaeth ‘Mater y Mis’

Pan fyddwch chi’n rhoi eich gwybodaeth i ni, mae rhaid i ni ddilyn rheolau o’r enw cyfreithiau Diogelu Data. Mae’r cyfreithiau yma’n dweud wrthyn ni bod rhaid i ni, Comisiynydd Plant Cymru, gadw eich gwybodaeth chi yn ddiogel. Ni sy’n rheoli’r data, sy’n golygu bod rhaid i ni wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. I’n helpu ni i gasglu gwybodaeth, rydyn ni’n defnyddio cwmni o’r enw Snap Surveys. Nhw sy’n prosesu’r data, sy’n golygu eu bod nhw’n helpu ni i gasglu’r wybodaeth ac yn helpu i gadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn ddiogel. Mae ganddyn nhw eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain, sydd ar gael i’w ddarllen yma (Saesneg yn unig), yn dweud sut maen nhw’n helpu i gadw gwybodaeth pobl yn ddiogel. O dan y gyfraith, mae rhaid bod gennym ni reswm da (yr enw ar hynny yw ‘sail gyfreithiol’) i gasglu a defnyddio eich gwybodaeth. Ein sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith yma yw: Sail tasg gyhoeddus (Erthygl 6 (1) (e) o’r GDPR, sy’n rhoi caniatâd i ni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny er mwyn cyflawni ein tasgau cyhoeddus. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n prosesu eich barn, eich safbwynt neu’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi er mwyn llywio ein gwaith ac amlygu barn plant a phobl ifanc am faterion sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu byddwn ni weithiau yn defnyddio y wybodaeth i ddylanwadu ar eraill, fel Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau lleol, er mwyn newid pethau i wella bywydau plant yng Nghymru. Pan rydyn ni’n gwneud hyn, fyddwn ni byth yn rhannu gwybodaeth mewn ffordd sy’n galluogi rhywun arall i wybod atebion personol unrhyw un sydd wedi rhannu gwybodaeth gydda ni. Efallai byddwn ni’n cyhoeddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni, ond fyddwn ni byth yn cyhoeddi gwybodaeth fyddai’n golygu bod modd eich adnabod chi. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth, dydyn ni ddim yn cyhoeddi enwau, felly fydd neb yn gwybod bod yr wybodaeth amdanoch chi.

Pwy fydd yn gallu gweld yr wybodaeth?

Staff sy’n gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru fydd yn gallu gweld yr wybodaeth. Pan byddwn ni’n defnyddio y wybodaeth yn allanol, fyddwn ni byth yn cyhoeddi gwybodaeth fyddai’n golygu bod modd eich adnabod chi.

Ble bydd yr wybodaeth yn cael ei storio?

Rydyn ni’n defnyddio cwmni o’r enw Snap Surveys i’n helpu ni i gasglu’r wybodaeth. Mae hynny’n golygu bydd yr wybodaeth rydych chi neu eich athro neu eich gweithiwr cefnogi yn ei rhoi ar y ffurflen yn cael ei chasglu i ni gan Snap Surveys a’i storio yn y Deyrnas Unedig. Gallwch chi ddarllen mwy am ble caiff yr wybodaeth ei storio’n ddiogel yn Hysbysiad Preifatrwydd (Saesneg yn unig) Snap Surveys. Yna byddwn ni’n gallu darllen yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i Snap Surveys. Byddwn ni’n storio’r wybodaeth ar ein gweinydd diogel.

Pa mor hir byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Mae hysbysiad preifatrwydd (Saesneg yn unig) Snap Surveys yn nodi pa mor hir byddan nhw’n cadw eich gwybodaeth. Byddwn ni’n cadw’r wybodaeth mae pobl yn ei rhannu gyda ni am 7 mlynedd ar ein systemau TG diogel, gan ddilyn ein polisi cadw dogfennau.

Eich diogelwch

Os bydd rhywun yn gwneud datgeliad penodol mewn unrhyw ymateb sy’n gwneud i ni bryderu am eich diogelwch (trwy ysgrifennu am eu sefyllfa bresennol a rhoi manylion sut gallen ni gysylltu â nhw), bydd un o’n Swyddogion Ymchwiliadau a Chyngor profiadol yn edrych ar yr wybodaeth ac yn penderfynu a ddylen ni gysylltu â’r unigolyn, gan ddilyn ein Polisi Diogelu. Bydd y swyddfa’n cysylltu â nhw lle mae hynny’n bosibl, ond dim ond os byddwn ni’n pryderu am ddiogelwch plentyn/plant.

Ein manylion cyswllt

  • Enw: Comisiynydd Plant Cymru
  • Rhif ffôn: 01792 765600
  • E-bost: post@childcomwales.org.uk

Eich Hawliau

Mae gennych chi’r hawliau canlynol ar gyfer yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi:

  • Yr hawl i gael gwybod sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio
  • Yr hawl i weld copïau o’ch gwybodaeth bersonol
  • Yr hawl i newid eich gwybodaeth os yw’n anghywir
  • Yr hawl i ddileu eich gwybodaeth bersonol
  • Yr hawl i gyfyngu ar ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol
  • Yr hawl i gael fersiwn electronig hygyrch o’ch data personol
  • Yr hawl i stopio defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Os hoffech chi ddefnyddio unrhyw un o’r hawliau yma, gofyn cwestiwn neu wneud cwyn am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data trwy e-bostio: post@childcomwales.org.uk neu ffonio 01792 765600.

Sut mae cwyno

Gallwch chi gwyno wrth ein Swyddog Diogelu Data os ydych chi’n anfodlon ar sut rydyn ni wedi defnyddio eich data. Byddan nhw’n ceisio datrys unrhyw anawsterau neu bryderon sydd gennych chi. Os ydych chi’n dal yn anhapus ar ôl i ni ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, neu’r ICO, fel mae’n cael ei alw. Dyma sut gallwch chi gysylltu â’r ICO: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF // llinell gymorth – 0303 123 1113 // https://www.ico.org.uk