Llysgenhadon Gwych

Mae Llysgenhadon Gwych yn cynllun sy’n hyrwyddo hawliau plant, Comisiynydd Plant Cymru a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn ysgolion.

Ymunwch yma â’n cynllun am ddim

Athrawon: Pecyn gwybodaeth cynllun llysgenhadon

Plant: Pecyn gwybodaeth llysgenhadon

Y cynllun

Gallwch chi redeg y cynllun yn y ffordd sy’n gweithio orau i’ch ysgol!

Gallwch chi ddefnyddio grŵp sydd eisoes yn bodoli fel eich cyngor ysgol, criw lles neu grŵp hawliau i arwain y cynllun neu ddechrau grŵp newydd. Mae rhai ysgolion yn dewis enwebu dau lysgennad hawliau tra bo’ eraill yn dewis gweithio gyda grŵp cyfan.

Mae gan Lysgenhadon Gwych dair swydd, sef:

Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw:

  • Dweud wrth blant yn eu hysgol am y Comisiynydd Plant a’u swyddi
  • Gwneud yn siŵr bod plant yn eu hysgol yn gwybod am hawliau plant a’r CCUHP
  • Annog disgyblion yn eu hysgol i gymryd rhan mewn ‘Mater y mis’ a gweithgareddau hawliau eraill

Mae Mater y mis yn helpu ein swyddfa, ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith ac ar hawliau plant yng Nghymru.

5 rheswm i ymuno

  • Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy Mater y mis yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith.
  • Mae’r cynllun yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau a’r Confensiwn sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Pwrpas cwricwlwm newydd Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion datblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n medru cyfrannu at eu cymunedau ysgol, a’u cymuned cenedlaethol fel dinasyddion moesegol a deallus
  • Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu y ffyrdd mae nhw’n ymdrin â Lles a Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad sy’n ffurfio elfennau Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn 2022.
  • Does dim cost!

Peidiwch ag anghofio rydym wedi mapio’r cwricwlwm yn erbyn y CCUHP a’r CCUHPA. 

Darllenwch am gwestiynau cyffredin i’n Cynllun Llysgenhadon

Cynlluniau i bawb

Mae ein cynlluniau Llysgenhadon yn gallu gweithio i bob ysgol; nid ysgolion prif ffrwd yn unig.

Rydyn ni’n creu adnoddau hygyrch, ac mae gennym staff yn ein digwyddiadau blynyddol sy’n cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn y fideo hwn, mae athrawon o ysgolion arbennig yng Nghymru yn trafod buddion ymuno gyda’n cynlluniau.

Os oes gennych gwestiwn am yr hyn rydyn ni’n darparu, neu awgrymiadau i wella, plis cysylltwch â ni.