Gorffennaf ac Awst 2025 – Amser sgrin ar ddyfeisiau

Mae Mater Mis Gorffennaf ac Awst yn ymwneud â faint o amser i ni’n treulio ar ein sgrin neu ar ein dyfeisiau.​

Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried cyfyngu (limit) ar faint o amser y gall plant a phobl ifanc dreulio ar gyfryngau cymdeithasol.​

Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu hystyried:

  • ​2 awr ar ddefnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol unigol
  • Cyfyngiad amser tan 10yh ar bob ap i’r rhai o dan 18 oed.

Ydych chi’n meddwl bod hyn yn syniad da?

​Pa reolau sydd gennych chi am eich amser sgrin?​

Rydyn ni wedi cyhoeddi popeth sydd angen ar gyfer bob oedran yn y lincs isod:

Sleidiau Powerpoint

Argraffiad o’r Sleidiau a’r Nodiadau (Agor fel PDF)

Sleidiau Google

Fersiwn Symbolau

Fersiwn symbolau i gefnogi trafodaethau (agor fel PDF)

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Linc i’r holiadur

Dyma ddolen yr holiadur os ydych chi’n dymuno rhannu’n uniongyrchol â’ch grŵp trwy google classrooms neu Microsoft Teams:

https://online1.snapsurveys.com/twihag

Dylai’r sleidiau cynnwys popeth sydd angen arnoch chi. Ond os oes cwestiwn gennych, yna cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.