Mae Mater Mis Gorffennaf ac Awst yn ymwneud â faint o amser i ni’n treulio ar ein sgrin neu ar ein dyfais.
Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried cyfyngu (limit) ar faint o amser y gall plant a phobl ifanc dreulio ar gyfryngau cymdeithasol.
Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu hystyried:
- 2 awr ar ddefnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol unigol
- Cyfyngiad amser tan 10yh ar bob ap i’r rhai o dan 18 oed.
Ydych chi’n meddwl bod hyn yn syniad da?
Pa reolau sydd gennych chi am eich amser sgrin?
Rydyn ni wedi cyhoeddi popeth sydd angen ar gyfer bob oedran yn y lincs isod:
Argraffiad o’r Sleidiau a’r Nodiadau (Agor fel PDF)
Fersiwn Symbolau
Fersiwn symbolau i gefnogi trafodaethau (agor fel PDF)
Linc i’r holiadur
Dyma ddolen yr holiadur os ydych chi’n dymuno rhannu’n uniongyrchol â’ch grŵp trwy google classrooms neu Microsoft Teams:
https://online1.snapsurveys.com/twihag
Dylai’r sleidiau cynnwys popeth sydd angen arnoch chi. Ond os oes cwestiwn gennych, yna cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.