Ymateb i ‘Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant – canfyddiadau interim’

Yn ymateb i adroddiad ‘Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant – canfyddiadau interim’ gan Arolygiaeth Gofal Cymru, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Rwy’n croesawu ffocws yr adroddiad ar sicrhau cysondebledled Cymru a gwneud yn siŵr bod hawliau plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau yn cael eu cryfhau. Er bod yr adroddiad yn nodi rhai elfennau positif ac enghreifftiau o arfer da, mae’n glir bod mwy o waith i sicrhau bod y systemau hyn yn gweithio’n effeithiol i blant a’u teuluoedd. Ni allaf helpu ond teimlo’n rhwystredig o weld adroddiad arall sy’n dangos fod amddiffyniad plant effeithiol yn cael ei rwystro gan rannu gwybodaeth aneffeithio a diffyg ymgysylltu â’r plant eu hunain i ddeall eu profiad bywyd.

“Rwy’n parhau i godi’r pryderon hyn gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid bod gweithredu yn y maees yna yn flaenoriaeth r mwyn mynd i’r afael â’r heriau sylfaenol hyn. Rwyf hefyd yn gwneud darn o waith yn i wthio am ffocws cryfach ar wella’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd o fewn y system amddiffyn plant fel y gallwn fod yn sicr fod arfer yn cael ei newid o ganlyniad i’r adolygiadau a’r adroddiadau hyn.”