Ymateb Comisiynydd Plant i ffigyrau adolygiadau ymarfer plant

Yn ymateb i stori BBC Cymru ar nifer adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Rydyn ni angen hyder llawn yn y system sydd yna i ddysgu gwersi yn dilyn y digwyddiadau erchyll yma. Ar hyn o bryd mae yna cwestiynau mawr ynglyn â sut mae argymhellion yn dilyn adolygiadau ymarfer plant yn cael eu defnyddio yn cenedlaethol i gadw plant yn ddiogel. Dydyn ni ddim eisiau parhau i weld yr un materion yn codi; mae angen bod y system mor effeithiol a chryf a sy’n bosib.

“Mae angen ffocws cryfach ar lywodraethu ac atebolrwydd o fewn ein system diogelu plant. Dyw hi ddim yn glir sut mae byrddau diogelu rhanbarthol yn cael eu dal yn atebol am gwblhau’r argymhellion mewn adolygiadau ymarfer plant a dyw hi ddim yn glir sut mae gwersi o un adolygiad i’r llall yn cael eu gweithredu’n genedlaethol i sicrhau fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel. Dwi’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu systemau llywodraethu ac atebolrwydd system amddiffyn plant Cymru i weld sut medrwn ni eu cryfhau i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o bobl adolygiad ymarfer plant a’u bod nhw’n cael eu gweithredu’n effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol.”