Dadleuon am ariannu yn cael ‘effaith ofnadwy’ ar blant bregus, medd Comisiynydd Plant Cymru

8 Mawrth 2022

Dydy plant gydag anghenion cymhleth iechyd a gofal cymdeithasol ddim yn  derbyn y gefnogaeth maen nhw angen yn ddigon cyflym oherwydd dadleuon am bwy sy’n gyfrifol am ariannu eu gofal parhaus, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiynydd Plant.

Mae gofal parhaus plant yn cyfeirio at y gofal mae plant gydag anghenion iechyd cymhleth yn derbyn gan sawl gwasanaeth gwahanol. Mae hyn yn gallu cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal cymdeithasol, a darpariaeth addysg. Dylai’r gwasanaethau  yma gweithio gyda’i gilydd i gynnig cefnogaeth glir sy’n helpu plant unigol.

Ond yn rhy aml dydy hyn ddim yn digwydd yn effeithiol, medd y Comisiynydd, sy’n golygu bod dadleuon rhwng gwasanaethau am ariannu a darpariaeth yn achosi oediadau i blant a’u teuluoedd i dderbyn yr help maen nhw angen. Mae hi hefyd yn gallu golygu bod plant ddim yn derbyn yr help hynny o gwbl.

Dywedodd y Comisiynydd bod angen arweiniad llawer mwy cryf gan y Llywodraeth i sicrhau bod Byrddau Partneriaeth Ranbarthol, a chafodd eu creu i wella’r ffordd mae gwasanaethau gwahanol yn cydweithio yn eu hardaloedd nhw, yn gwybod sut i gydlynu’r gofal yma mewn ffordd gyflym a theg. Mae’n rhaid bod hyn yn cael ei gefnogi gyda fframwaith ariannu clir, yn nôl y Comisiynydd.

Dywedodd yr Athro Sally Holland:

“Mae hwn yn fater enfawr sy’n cael effaith ofnadwy ar rhai o’n plant mwyaf bregus – plant sydd angen help sbesiffig iawn yn gyflym.

“Dwi’n gwybod bod cyllidebau yn dynn ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, ac felly dwi’n deall bod elfen o geisio diogelu’r cyllidebau hynny, ond os nad ydyn ni’n gweld gwelliannau clir iawn yn y maes yma, bydd plant yn parhau i golli mas ar y gofal maen nhw angen.

“Pan rydw i’n cwrdd gyda’r saith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, sy’n gyfrifol am gydlynu’r gofal yma yn eu hardaloedd nhw, maen nhw i gyd yn gydnabod bod hyn yn broblem, a bod angen newid. Mae’n cymryd rhy hir i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gytuno ar ariannu, sy’n gadael plant a theuluoedd heb y gefnogaeth maen nhw angen. Mae’n anghyffredin i weld darparwyr gwasanaeth rhanbarthol yn edrych am gyfarwyddyd mwy cryf gan y Llywodraeth ar ariannu, ond dyna beth maen nhw eisiau – maen nhw’n gwybod ar hyn o bryd bod teuluoedd yn cael eu methu.”

Mae’r materion yn yr adroddiad yn effeithio ar blant gydag ystod eang o anghenion, ac yn derbyn gofal mewn llefydd gwahanol, yn cynnwys plant yn byw gartre gyda’u teuluoedd, mewn gofal preswyl, ac yn derbyn gofal diwedd oes.

Yn ymateb i’r adroddiad, dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr hosbis plant Tŷ Gobaith:

“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad yr adroddiad yma – sy’n tanlinellu materion sy’n gyfarwydd iawn i Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan. Rydyn ni’n aml yn gweld asiantaethau yn dadlau am ofal y plant mwyaf bregus, yn gwrthod cyfrifoldeb ariannol am eu gofal, sy’n gadael teuluoedd heb gefnogaeth.

“Mae Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan yn gweithio i wella ein hymgysylltiad gyda Byrddau Partneriaeth Ranbarthol Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio bydd mwy o weithio ac ariannu integredig yn helpu plant gydag anghenion cymhleth iechyd a meddygol, a’u teuluoedd. Rydyn ni angen datrysiad ariannol cynaliadwy o ran gofal seibiant, ac yr unig ffordd i wneud hyn yw trwy ddull rhanbarthol, integredig, sy’n gwerthfawrogi gofal iechyd a chymdeithasol yn gyfartal.”

Mae’r alwad yn rhan o adroddiad newydd gan y Comisiynydd Plant, sy’n ystyried y gwelliannau mae’r rhanbarthau gwahanol yn gwneud ar ofal amlsiantaeth i blant a phobl ifanc.

Hefyd yn yr adroddiad:

  • Mae plant a phobl ifanc yn dal i glywed, bob dydd yng Nghymru, eu bod wedi dod i’r drws anghywir wrthiddyn nhw estyn allan am gymorth
  • Mae’r amserau aros ar gyfer asesiad o gyflwr niwroddatblygiadol (yn achos plant yr amheuir bodganddynt Awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau eraill tebyg) yn eithriadol o hir, ac yn y cyfamser gall plant a’uteuluoedd dderbyn ychydig iawn o gefnogaeth, os o gwbl
  • Mae’r rhan fwyaf o letyau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth dim ond yn cynnig cefnogaeth byr-dymor. Mae angen mwy o ddarpariaeth hirdymor

Roedd yna hefyd esiamplau positif o waith ar draws 7 Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cymru, yn cynnwys:

  • Mae gan rhai Byrddau cynlluniau ar gyfer canolfannau newydd ar gyfer plant sy’n profi argyfwng iechyd meddwl, ac i wneud eu timoedd argyfwng yn fwy hygyrch
  • Mae gan bob Bwrdd grŵp sy’n edrych yn sbesiffig ar faterion plant
  • Mae gan y rhan fwyaf o Fyrddau systemau newydd i gefnogi plant gydag anableddau dysgu sy’n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • Mae gan bob Bwrdd Partnertiarh Rhanbarthol cynllun i gymryd Dull Dim Drws Anghywir, lle mae pobl ifanc yn derbyn yr help maen nhw angen lle bynnag maen nhw’n gofyn amdano fe, a ddim yn clywed bod nhw wedi dod i’r ‘drws anghywir’