Angen ‘ymdrech mawr’ i sicrhau bod gan bobl ifanc y wybodaeth, cyngor, a chefnogaeth ar arholiadau

26 Ionawr 2022

Mae’r Comisiynydd Plant wedi pwylseisio pwysigrwydd gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth i bobl ifanc ar arholiadau dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Comisiynydd:

“Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau eto wythnos yma bod arholiadau yn digwydd yn yr haf. Mae nawr angen ymdrech mawr i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc y wybodaeth, cyngor, a chefnogaeth maen nhw angen dros y misoedd nesaf.

“Mae ysgolion a cholegau wedi gweithio’n ddi-baid i drio rhoi profiad addysg lawn i ymgeiswyr arholiadau, ond mae hyn wedi bod yn her enfawr, er yr addasiadau sydd wedi cael ei wneud i arholiadau eleni.

“Rydw i wir yn croesawu’r pecyn cefnogaeth sydd wedi cael ei ariannu gan y Llywodraeth. Ond bydd y gefnogaeth yma ond yn buddio pobl ifanc yn llawn os oes ganddyn nhw, a’r oedolion sy’n eu cefnogi nhw, gwybodaeth glir am yr opsiynau llawn sydd ganddyn nhw am eu camau nesaf. Mae’n rhaid i bobl ifanc i wybod bod yna opsiynau eraill ar gael i’r rhai sydd ddim yn teimlo’n barod i sefyll eu harholiadau i gyd yn yr haf.

“Mae’n rhaid i’r sgyrsiau yma am yr opsiynau gorau i unigolion i ddigwydd nawr. Dylai’r cyngor gwneud yn glir i bobl ifanc y bydden nhw’n cael eu cefnogi gyda chyfleoedd i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, gwaith, neu hyfforddi, beth bynnag yw eu graddau yn yr haf. Mae yna lawer o gyrsiau gall pobl ifanc ei gymryd heb gyflawni eu TGAU craidd, a bydd colegau a Gyrfa Cymru yn gallu cefnogi pobl ifanc i ffeindio’r opsiwn gorau iddyn nhw.

“Mae pobl ifanc yn aml yn rhannu eu pryderon gyda fi ynglŷn ag arholiadau, ac mae’n rhaid i ni gyd, fel cenedl, i sicrhau bod y grŵp yma o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus bod ni yma i’w cefnogi nhw trwy’r misoedd nesaf.

“Mae yna gwybodaeth ar fy hwb gwybodaeth i rieni a phobl ifanc i wybodaeth defnyddiol, a chefnogaeth iechyd meddwl.”