‘Ydyn ni yna eto?’ – Adroddiad Comisiynwyr Plant y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

18 Rhagfyr 2020

Mae pedwar comisiynydd plant y Deyrnas Unedig yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i fynd i’r afael â’r anfanteision systemig sy’n wynebu plant a phobl ifanc ledled y pedair gwlad.

Mewn adroddiad ar y cyd i’r Cenhedloedd Unedig, mae’r Comisiynwyr yn dod i’r casgliad bod pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r anfanteision systemig sy’n wynebu miloedd, ac yn tynnu sylw at wasanaethau sydd wedi diodde’n ddifrifol.

Yn yr adroddiad – sy’n asesu perfformiad y Deyrnas Unedig o ran amddiffyn hawliau plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf – maen nhw’n galw am fabwysiadu agwedd ‘dim drws anghywir’ tuag at wasanaethau iechyd meddwl, fyddai’n golygu na fyddai’r un plentyn na pherson ifanc sydd angen cymorth yn cael eu troi i ffwrdd heb ddim cefnogaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar y pedair gwlad i ganolbwyntio ar godi llawer mwy allan o dlodi drwy ddad-wneud elfennau mwyaf niweidiol y mesurau diwygio lles, a thrwy gynlluniau gweithredu clir a brys ar gyfer dod â thlodi plant i ben.

Wrth siarad ar ran y pedwar Comisiynydd, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Dyw ein hasesiad ni o ble mae ein Llywodraethau arni o ran amddiffyn hawliau dynol plant ddim yn syndod. Mae’r Deyrnas Unedig yn lle cymharol gyfoethog, ond eto i gyd mae nifer y plant sy’n byw mewn tlodi yn dal i gynyddu, a gydag effaith Covid-19 yn ehangu anghydraddoldeb mae pethau’n fwyfwy anodd i deuluoedd. Does dim digon o adnoddau gan wasanaethau iechyd meddwl a dydyn nhw ddim ar gael yn ddigon hawdd i blant sydd angen help.

“Materion hawliau dynol sylfaenol yw’r rhain ac rydyn ni wedi adrodd arnyn nhw dro ar ôl tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er ein bod ni wedi gweld ambell ddatblygiad cadarnhaol yma ac acw, yn y pen draw, dewisiadau polisi sy’n cael eu gwneud gan y pedair gwlad yw’r rhain, ac mae’r pandemig yma wedi tynnu sylw at yr angen i bob lluniwr polisi roi budd gorau plant a’u hawliau dynol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. O wneud hynny’n effeithiol, rydyn ni wedi gweld canlyniadau hynod gadarnhaol i blant, gan gynnwys cael gwared ar amddiffyniad ‘ymosodiad y gellir ei gyfiawnhau’ yn yr Alban ac ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen i hyn ddod yn ffordd systematig o weithio ledled y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi diwedd ar yr anfanteision parhaus sy’n wynebu rhai o’n plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed.”

Mae pedwar Comisiynydd Plant y DU yn gytun y dylai pob gwlad ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant yn eu cyfreithiau domestig. Mi fyddai hyn yn creu dull systematic o weithio ar draws y DU, gan sicrhau diwedd i’r anfanteision parhaus mae rhai o’n plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn wynebu a gwella’u bywydau yn y pendraw.

Darllenwch mwy am yr adroddiad yma

NODIADAU

Bob pum mlynedd, mae’n ofynnol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i llywodraethau datganoledig adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar eu cynnydd ar hawliau plant. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella – sef ei Sylwadau Terfynol – ar sail y wybodaeth mae’n ei derbyn. Mae sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol, fel comisiynwyr plant y Deyrnas Unedig, hefyd yn gwneud cyflwyniadau i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig fel sail i’w drafodaethau.