Adroddiad Comisiynwyr Plant y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Bob 5 mlynedd, mae Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cydweithio i lunio adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Gwaith y Pwyllgor yw barnu i ba raddau mae hawliau plant yn cael eu parchu ar draws y byd.

Pan fydd y Comisiynwyr yn ysgrifennu at y Pwyllgor, byddan nhw’n dweud wrthyn nhw i ba raddau mae’r Llywodraethau yn eu gwledydd yn llwyddo i ddiogelu hawliau plant.

Rydyn ni eisiau i’r Pwyllgor glywed yn uniongyrchol gan blant hefyd – dyna pam rydyn ni wedi ysgrifennu’r adroddiad profiadau Plant a Phobl Ifanc.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Darllenwch annex yr adroddiad

Darllenwch adroddiad profiadau pobl ifanc

Darllenwch y fersiwn symbolau 

Fersiwn Plant a Phobl Ifanc

Fe fuon ni’n siarad â phlant a phobl ifanc ar draws Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, i ofyn ydyn nhw’n derbyn eu holl hawliau fel dylen nhw.

Mae rhai pethau da wedi bod yn digwydd ym mhob gwlad. Er enghraifft:

  • Mae bellach yn anghyfreithlon i rieni smacio’u plant yng Nghymru a’r Alban
  • Mae cynlluniau ar waith i wella gofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn Lloegr
  • Yng Ngogledd Iwerddon mae cyfraith newydd i wneud yn siŵr bod gwahanol bobl sy’n gweithio i’r Llywodraeth yn cydweithio i roi gwell cefnogaeth i blant
  • Yn yr Alban mae cyfraith newydd sy’n dweud, pan fydd penderfyniadau sy’n effeithio ar blant yn cael eu gwneud, bod rhaid i’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny feddwl am hawliau plant.

Ond mae angen i lawer mwy ddigwydd o hyd.

Mae’r adroddiad yma’n trafod beth ddywedodd plant a phobl ifanc wrthyn ni ddylai fod yn well o ran diogelu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Gallwch chi ddarllen mwy am CCUHP yma.

Y prif negeseuon gan blant a phobl ifanc

Ydy plant a phobl ifanc yn gwybod am eu Hawliau? Ydy oedolion yn cymryd hawliau plant o ddifri?

  • Dyw llawer o bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig ddim yn gwybod nac yn deall beth yw CCUHP.
  • Dylai plant gael eu dysgu am eu hawliau o’r adeg pan maen nhw’n blant ifanc, yr holl ffordd trwy’r ysgol, a nes eu bod nhw’n dod yn oedolion.
  • Dywedodd pobl ifanc y dylai llunwyr penderfyniadau wneud yn siŵr eu bod nhw’n meddwl yn iawn am sut bydd pethau’n effeithio ar hawliau plant trwy ddefnyddio Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant (CRIAs).

“Dylai fod mwy o ymwybyddiaeth o hawliau plant fel bod pobl ifanc yn gallu gwybod ydyn nhw’n cael eu hamddifadu o’u hawliau, dylid dilyn ymlaen gyda’r hawliau ym mywyd y cartref, ac integreiddio mwy o hawliau ym mywyd yr ysgol”. – Person ifanc, Llysgennad Myfyrwyr, Cymru

Ydy pob plentyn yn cael eu trin yn gyfartal? Ydyn nhw’n gallu cael mynediad cyfartal i’w hawliau?

  • Dywedodd plant a phobl ifanc wrthyn ni fod plant mewn rhai grwpiau, gan gynnwys plant Du ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME), plant ag anghenion cefnogi ychwanegol, a phlant LHDTQRh+, ddim yn cael eu trin yn deg a ddim yn derbyn eu holl hawliau.

“Cadw popeth yn gyfartal – hyd yn oed os yw’r plentyn neu’r person ifanc mewn gofal, yn anabl neu’n iawn, dylai pawb gael yr un hawliau.”
Person ifanc, Gogledd Iwerddon

Ydy barn plant a phobl ifanc yn cael ei pharchu’n briodol?

Mae plant yn aml yn cael eu hanwybyddu neu ddim yn cael eu cymryd o ddifri.

“… jyst siarad â’r plant yn lle’r oedolion. Yn ein llygaid ni, dyw’r oedolion ond yn gwybod beth sydd wedi cael ei ddweud wrthyn nhw, tra bod y plant yn gwybod beth sy wir yn digwydd.” – Gwryw ifanc mewn gofal, Lloegr

Ar draws y Deyrnas Unedig, aeth degau o filoedd o bobl ifanc allan i’r strydoedd i brotestio yn erbyn diffyg gweithredu’r llywodraeth yn wyneb Argyfwng yr Hinsawdd. Mae angen i lywodraethau wrando a gweithredu.

“Mae’n bwysig dangos i bawb bod rhaid gwrando arnon ni, achos ein dyfodol ni yw e, ac mae colli un awr yr wythnos yn werth ei wneud. Mae angen i ni sefyll i fyny a gadael i’r bobl sy’n gyfrifol wybod bod y blaned yn werth ei hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a bywyd gwyllt.” – Benyw ifanc, yr Alban

Ydy plant yn cael eu cadw’n ddiogel rhag trais a chamdriniaeth?

  • Mae angen i lywodraethau a phobl eraill wneud mwy i stopio trais yn erbyn plant.
  • Rydyn ni’n pryderu bod trais yn erbyn plant yn cynyddu yn ystod pandemig y coronafeirws.
  • Rydyn ni hefyd yn gwybod bod atal plant yn gorfforol a/neu eu cadw ar eu pen eu hun yn gallu digwydd mewn lleoedd fel unedau iechyd meddwl, lleoliadau troseddau ieuenctid, ac mewn ysgolion.

“Bydden nhw’n gafael ynof fi, ac ar unwaith byddwn i’n dechrau sgrechian nerth fy mhen achos wi’n syth nôl i’r lle dydw i ddim eisiau bod. Maen nhw’n gafael ynoch chi, ac mae’n cymryd lot o bobl i atal fi… dydw i ddim hyd yn oed yn cofio hanner o beth sy’n digwydd. Mae jyst yn dod drosta i” – Benyw ifanc, Lloegr

Ydy plant sy’n byw mewn gofal yn derbyn eu hawliau?

  • Dywedodd rhai pobl ifanc eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel a’u bod nhw’n cael eu hamddiffyn mewn gofal, ond roedden nhw’n dweud hefyd bod hynny ddim yn wir am bob person ifanc mewn gofal.
  • Mae plant yn dweud wrthyn ni ei fod yn anodd iddyn nhw pan fydd eu gweithwyr cymdeithasol yn newid yn aml. Mae’n golygu bod datblygu perthynas gyda rhywun yn anodd, a bod dim teimlad o gael eu parchu.

“Gweithwyr cymdeithasol yn newid drwy’r amser, gorfod adrodd fy stori drosodd a throsodd.” – Benyw ifanc, Lloegr

Ydy gofalwyr ifanc yn derbyn eu hawliau?

  • Er ein bod ni’n pryderu bod gofalwyr ifanc ddim bob amser yn gallu derbyn eu hawliau oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, fe sonion nhw wrthyn ni eu bod nhw’n aml yn teimlo’n fwy positif na negyddol am y cyfrifoldebau yna. Mae hynny’n dangos bod gofalu yn gallu rhoi ymdeimlad o werth a chryfder i rai.

Oes digon yn cael ei wneud i helpu plant ag anableddau, plant sydd angen help gyda’u hiechyd meddwl, neu blant sy’n byw mewn tlodi?

  • Anabledd: Roedd pobl ifanc anabl yn teimlo eu bod nhw ddim bob amser yn cael eu gwrando na’u cymryd o ddifri. Roedd rhai yn teimlo, os oedd gennych chi anabledd dysgu, eich bod chi hyd yn oed yn llai tebygol o gael eich cymryd o ddifri neu gael oedolion yn gwrando arnoch chi. Dywedson nhw fod plant anabl ddim yn cael digon o gefnogaeth a bod hynny ddim yn iawn. Dylai pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys plant a phobl ifanc anabl, gael cyfle cyfartal i gyflawni eu potensial llawn.

“Mae pobl ag anableddau i fod i gael eu trin yn gyfartal. Mae athrawon i fod i adnabod arwyddion awtistiaeth a chael hyd i’r ffyrdd gorau o gefnogi a helpu eu disgyblion.” – Person ifanc, yr Alban

  • Iechyd Meddwl: Iechyd meddwl oedd un o’r problemau mwyaf roedd pobl ifanc yn pryderu amdano. Roedden nhw eisiau mwy o gefnogaeth a gwell gofal.

“Tase CAMHS wedi bod yno nôl bryd hynny, fyddai neb ohonon ni yma.”- Benyw ifanc ar ward iechyd meddwl, Lloegr

  • Tlodi: Mae plant sy’n byw mewn tlodi yn colli cyfleoedd mae plant eraill yn cael. Plant sy’n byw mewn teuluoedd mawr sydd wedi dioddef fwyaf, yn rhannol oherwydd newidiadau i daliadau budd-dal. Mae rhaid i fwy o blant nag erioed ddefnyddio banciau bwyd nawr i gael y bwyd mae arnyn nhw ei angen.

“Mae angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at gartref diogel, digon o fwyd, a dillad cynnes, addas. Nid galwadau anweddus yw’r rhain; dyma’r hanfodion o ran hawliau!!” – Benyw ifanc, Gogledd Iwerddon

Ydy pob plentyn yn cael addysg gyfartal?

  • Mae’n destun pryder bod rhai plant ddim yn gwneud cystal yn yr ysgol â phlant eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • plant sy’n derbyn gofal
    • plant sydd â gweithwyr cymdeithasol
    • plant teithwyr
    • plant o leiafrifoedd ethnig
    • plant anabl
    • plant ag anghenion ychwanegol
    • plant o gefndir difreintiedig (e.e. plant ar brydau ysgol am ddim).

“Does gen i ddim swydd ond byddwn i wrth fy modd yn cael swydd a chael fy nhalu, yn hytrach na phobl yn dweud, o, mae rhaid i ti wneud gwaith gwirfoddol, byddai’n well gen i gael fy nhalu ac yna cael fy nhalu unwaith yr wythnos i wneud siopa, byddai’n well gen i gael fy nhalu na bod pobl yn dweud mae rhaid i ti wneud gwaith gwirfoddol, byddwn i’n dwlu cael fy nhalu.” – Person ifanc â SEND, Lloegr

• Dywedodd plant wrthyn ni am brofiadau o gamwahaniaethu (cael eich trin yn wahanol oherwydd pwy ydych chi) yn yr ysgol:

“Beth sy’n cael ei wneud i addysgu myfyrwyr ynghylch materion LHDTQ? Yn aml mae geiriau garw, jôcs agored a rhagfarn noeth yn cael eu gadael yn llonydd a’u taflu o gwmpas oherwydd bod plant yn cael honni bod pethau felly’n “jôcs diniwed” a “bach o hwyl” tra bod y dioddefwyr yn cael eu hystyried yn rhy sensitif.” – Person ifanc o grŵp LHDTQ Ieuenctid Cymru

Ydy pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn gweithgareddau?

Mae plant wedi dweud wrthyn ni mor bwysig yw e iddyn nhw fedru chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Ond mae pa mor hawdd yw cymryd rhan yn dibynnu ar ble mae plant yn byw, ydyn nhw’n gallu cyrraedd yno’n ddiogel, a weithiau oes ganddyn nhw ddigon o arian.

“Does dim byd ar gael i ni’r rhai hŷn. Mae’r cyngor yn gwerthu pethau mlaen achos bod nhw’n methu eu fforddio.” – Person ifanc, Adroddiad Siarter ar gyfer Newid, Cymru

Ydy plant sy’n ceisio lloches, plant ffoaduriaid a phlant mudol yn derbyn eu hawliau?

  • Mae plant a phobl ifanc sy’n newydd-ddyfodiaid, p’un a ydyn nhw’n ceisio lloches, yn ffoaduriaid neu’n mudo, yn wynebu llawer o heriau wrth gael mynediad i’w hawliau, gan gynnwys mynediad at wasanaethau sylfaenol.

“Rydw i’n teimlo’n anfforddiadwy […] dydw i ddim yn teimlo mod i’n blentyn normal, achos rydw i mewn sefyllfa lle dydw i ddim yn gallu bod yn blentyn”. – Benyw ifanc â chefndir ymfudo, Lloegr

Sut mae Brexit yn effeithio ar hawliau plant a phobl ifanc?

  • Bydd rhaid i blant a phobl ifanc fyw gyda chanlyniadau Brexit am gyfnod hwy na grwpiau oed eraill, ond chawson nhw ddim cyfle i bleidleisio na lleisio barn yn y refferendwm i adael yr UE.
  • I lawer o bobl ifanc, roedd llunwyr penderfyniadau yn teimlo’n bell iawn o ddeall realiti eu bywydau a sut gallai penderfyniadau gael effaith real iawn ar eu bywydau yn awr ac yn bell i’r dyfodol.

“Mae’r UE yn darian warchodol i grwpiau lleiafrifol. Ar ôl Brexit gallen ni weld colli hawliau a chaniatáu camwahaniaethu.”
Person ifanc, Gogledd Iwerddon

Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar hawliau plant a phobl ifanc?

  • Yn rhy aml, mae plant yn teimlo bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau ddim yn meddwl bod lleisiau plant yn bwysig. Dywedodd plant a phobl ifanc wrthyn ni eu bod nhw eisiau cyfrannu at sut bydd cymdeithas yn symud ymlaen ar ôl y pandemig, ac y dylen nhw fedru rhannu eu syniadau, eu pryderon a’u hatebion gyda llunwyr penderfyniadau.

“Erthygl 12, yr hawl i gael fy nghlywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnaf fi. Dyna rywbeth gafodd pobl ifanc ddim llawer o gyfle i roi eu barn arno, canslo’r arholiadau.” – Benyw ifanc, yr Alban

  • Roedd plant a phobl ifanc yn cydnabod pwysigrwydd mesurau’r cyfnod clo, ond roedden nhw’n effeithio ar hawliau plant i gwrdd ac ymgynnull yn rhydd gyda ffrindiau a theulu, ac maen nhw wedi dweud wrthyn ni fod hynny’n bwysig iawn iddyn nhw.
  • Er bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel gartre, maen nhw wedi cael llai o fynediad at help sydd i fod i’w cadw nhw’n ddiogel, a dyw rhai plant ddim wedi gallu dianc rhag trais yn y cartref.
  • Mae plant a phobl ifanc yn pryderu am eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain a phobl eraill yn ystod y cyfnod yma.
  • Fe wnaeth llawer o blant a phobl ifanc weld eisiau’r ysgol neu’r coleg tra’u bod nhw ar gau, ac roedden nhw’n cael trafferth gweithio gartre a gwneud gwaith ysgol ar-lein.

“Mae fy nghwrs yn ymarferol, rydw i i fod yn dysgu am arlunio a phethau eraill rydych chi’n methu gwneud ar-lein, fe ges i drafferthion mawr.” – Person ifanc, MENCAP Gogledd Iwerddon

  • Roedd rhai yn cael bod gweithio gartre yn brofiad cadarnhaol mewn rhai ffyrdd:

“Rydw i wedi dysgu darllen, fues i’n stryglan oherwydd fy ADHD ac ASD, ond mae Mam wedi helpu fi a nawr rydw i ar lefel 6 o ‘Oxford owl’” – Person ifanc, ymateb i’r arolwg Coronafeirws a Fi, Cymru

  • Teimlai rhai pobl ifanc fod y cyfnod clo wedi cael effaith wael iawn ar eu hawl i chwarae a gwneud gweithgareddau hamdden oherwydd eu bod nhw wedi methu gweld eu ffrindiau. Serch hynny, dywedodd rhai pobl ifanc ei fod yn brofiad cadarnhaol oherwydd eu bod nhw’n treulio mwy o amser gyda’u teulu, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn mwynhau’r awyr agored mewn gerddi ac yn ystod ymarfer corff dyddiol.

“Rwy’n gwybod bod e’n hollol berthnasol achos mae’n gyfnod clo ac mae angen i ni gadw pobl yn ddiogel, ond ar yr un pryd mae ychydig fel… dwy ddim yn gwybod… rwy’n teimlo ychydig fel ci mewn caets i fod yn deg.” – Person ifanc, Lloegr

Beth byddwn ni’n ei wneud â phopeth rydych chi wedi’i ddweud wrthyn ni?

Mae’r dudalen yma ar y we yn grynodeb o adroddiad mawr rydyn ni wedi’i anfon at y Cenhedloedd Unedig. Bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn darllen yr adroddiad yma ac adroddiad arall gan holl Gomisiynwyr Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yna byddan nhw’n penderfynu pa bethau mae angen i lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eu gwneud am y pethau rydyn ni ac eraill wedi dweud eu bod nhw ddim yn ddigon da. Bydd Pwyllgor y CU yn gofyn i lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb iddyn nhw yn 2021.

Diffiniadau

Brexit: Ystyr Brexit yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

CRIA: Mae oedolion sydd â phŵer yn aml yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl – cyfreithiau a pholisïau, er enghraifft. Wrth wneud hynny, dydyn nhw ddim bob amser yn meddwl am effaith y penderfyniadau hynny ar blant a phobl ifanc. Mae Asesiad Effaith ar Hawliau Plant, neu CRIA, yn ffordd o gynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniad. Mae’n edrych ar sut gallai’r penderfyniad effeithio ar hawliau plant a phobl ifanc – yn gadarnhaol ac yn negyddol. Trwy wneud hynny, mae’n golygu bod pobl yn gwybod pa effaith mae’r penderfyniad yn debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc.

LHDTQRh+: Plant a phobl ifanc sy’n uniaethu fel pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, ‘queer’, rhyngryw neu arall.

Tlodi: Ystyr tlodi yw bod heb ddigon o arian ar gyfer y pethau mae arnoch chi eu hangen.

Y Cenhedloedd Unedig: Mae’r Cenhedloedd Unedig yn sefydliad o 193 o wledydd ar draws y byd. Un o brif ddyletswyddau’r CU yw gwneud yn siŵr bod pawb ohonon ni’n cael ein hawliau dynol.

CCUHP: Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel arfer yn cael ei ysgrifennu fel CCUHP. Rhestr o 54 o hawliau plant yw CCUHP. Mae’r rhestr yno i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu tyfu i fyny’n teimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.