‘Dylid dod â gwaharddiadau i ben ar gyfer y plant ieuengaf’ – Comisiynydd Plant

2 Rhagfyr 2020

Mae gwahardd o’r ysgol yn ‘ddi-fudd’ i blant a’u teuluoedd, a dylid dod â’r arfer yma i ben ar gyfer plant 3-7 oed, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd yr Athro Sally Holland y dylai plant, yn lle cael eu cosbi trwy eu gwahardd, dderbyn y cymorth arbenigol mae arnyn nhw ei angen, ar yr adeg briodol, cyn i’w problemau waethygu.

Yn ôl gwaith ymchwil y Comisiynydd, a gyhoeddwyd fel rhan o adroddiad newydd, cafwyd 768 o waharddiadau cyfnod penodol ar draws Cymru i blant 3-7 oed yn ystod blwyddyn academaidd 2018-19, er bod y ffigur hwn yn debygol o fod yn uwch gan na chyflwynodd pob awdurdod lleol eu hystadegau.

Ar gyfartaledd, roedd 9 plentyn fesul awdurdod lleol wedi cael eu gwahardd fwy nag unwaith.

Cafodd un plentyn 18 o waharddiadau mewn un flwyddyn academaidd.

Roedd yr holl blant hyn yn y cyfnod sylfaen, sy’n cwmpasu plant 3-7 oed.

Gall gwaharddiad fod am nifer penodol o ddiwrnodau, sef gwaharddiad ‘cyfnod penodol’, neu’n waharddiad parhaol.

Ni chafodd unrhyw blant eu gwahardd yn barhaol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Sicrhau gofal a chefnogaeth

Meddai Geraint Jones, Pennaeth Ysgol Bryn Teg, Llanelli, sy’n cael ei henwi yn adroddiad y Comisiynydd fel enghraifft o waith da:

“Mae’r Corff Llywodraethu a’r staff yn fy ysgol i wedi gweithio’n eithriadol o galed fel tîm i ddatblygu arferion cynhwysol, meithringar ar draws yr ysgol. Mae hynny’n sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael cynnig y gofal a’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion. Rydyn ni’n ymdrechu i adnabod anghenion ein holl ddisgyblion yn gynnar, ac ymateb iddynt. Mae hynny’n her wirioneddol, ac yn galw am ymdrechu i’r eithaf yn gyson, ynghyd â datblygu ein gweithlu yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu darparu’r addysg orau sy’n bosibl i’n holl ddysgwyr.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod. Rydyn ni hefyd yn defnyddio cyllid arall dros dro fel ein grant datblygiad Disgyblion. Mae’r llifoedd ariannu hyn, ynghyd â’n rheolaeth ofalus ar gyllideb yr ysgol ar draws yr ysgol, wedi golygu bod modd i ni ddarparu’r strategaethau hanfodol mae ar ein dysgwyr eu hangen. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth ac arweiniad gweithwyr proffesiynol fel Helen Davies, Uwch Seicolegydd Addysg Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cyflwyno hyfforddiant ac annog staff eraill yr ysgol i edrych ar ein darpariaeth lesol.

“Mae pob dosbarth ar draws yr ysgol gyfan yn derbyn cefnogaeth wedi’i theilwra sy’n caniatáu i ni gynnal ymyriadau ychwanegol, fel ein cynnig Meithrin llwyddiannus. Ein pryder yw gallu cynnal a pharhau i gynnig y gwasanaethau hollbwysig hyn, sy’n cael eu hadolygu’n barhaus, gan fod newidiadau’n digwydd yn fynych ar lefel Llywodraeth Cymru. Fe hoffwn ddefnyddio’r cyfle hwn i bledio am anfon y cyllid hanfodol yn uniongyrchol i bob ysgol, ar gynifer o lefelau â phosib. Os gall Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg i gyd gael yr uchafswm cyllid sy’n ofynnol i ddarparu’r lefelau staffio angenrheidiol i weithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd a disgyblion, gallen ni weld pob disgybl yn cael y lefelau angenrheidiol o gefnogaeth i lwyddo. Gallai lleihau biwrocratiaeth ddiangen olygu ein bod yn gallu rheoli, arwain a gwella ymhellach y strategaethau a’r gefnogaeth mae modd eu rhoi ar waith er mwyn i ddysgwyr gyflawni a llwyddo. Dylai darpariaethau fel ein grŵp Meithrin fod yn rhywbeth i’w hawlio, nid yn ychwanegiad y mae’n ansicr a fydd yn parhau yn y tymor hir oherwydd cyllid dros dro.”

‘Y system yn methu’n llwyr yn achos rhai plant’

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Y cyfnod sylfaen yw’r adeg pan fydd plant yn gosod sylfeini bywydau hapus a iach, lle maen nhw’n cael y profiadau dysgu cywir a chefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau a chyflawni eu potensial. Mae angen mwy o gefnogaeth ar rai nag eraill i osod y sylfeini hynny’n llwyddiannus, ac ar hyn o bryd mae’r system yn methu’n llwyr yn achos rhai plant.

“All sefyllfa lle mae plentyn yn cael gwaharddiad 18 o weithiau mewn un flwyddyn academaidd ddim bod yn iawn. Allwn ni ddim mynd ymlaen fel yna.

“Yn wir, beth rwyf fi eisiau gweld yw Cymru’n symud i sefyllfa lle dyw plant y cyfnod sylfaen byth yn cael eu gwahardd. Bydd y plant yma’n wynebu problemau y mae arnyn nhw angen cefnogaeth a chariad i’w trechu. Nid plant ‘drwg’ mohonyn nhw, ac mae eu gwahardd yn gwbl ddi-fudd, oherwydd dyw hynny’n gwneud dim byd i ymdrin ag achosion gwaelodol y broblem. Mae angen dull gwahanol o ymateb iddyn nhw, ac yn aml ymyriad arbenigol i lwyddo, gan ddilyn llwybr sy’n llawer nes at hawl pob plentyn i gael cyfle cyfartal i gyflawni eu potensial.

“Rwyf wedi gweld ysgolion ar draws Cymru yn wir yn gwneud eu gorau, ond yn wynebu heriau niferus, gan gynnwys pwysau amser, problemau staffio, a dosbarthiadau mawr. A gallai ysgolion sydd â lefelau uwch o amddifadedd sosio-economaidd wynebu ystod ehangach o heriau.

“Bydd newid y darlun brawychus hwn yn galw am arweinyddiaeth a phenderfyniad gan y Llywodraeth, Awdurdodau Lleol, ac eraill fel consortia addysg a byrddau iechyd, y bydd angen i bawb ohonynt weithio gydag arweinyddion ysgol.

“I helpu gyda hyn, rwyf hefyd wedi cyhoeddi adroddiad a phecyn offer heddiw ar gyfer ysgolion, yn cynnwys rhai enghreifftiau ardderchog o astudiaethau achos ysgolion sy’n llwyddo i ddarparu amgylchedd meithringar i ddisgyblion a fu’n cael trafferth mawr ymdopi mewn ysgolion eraill”