Llythyr agored at bobl ifanc Cymru – Arholiadau 2021

9 Tachwedd 2020

Annwyl bobl ifanc Cymru

Yr haf yma, fe wnes i ysgrifennu atoch chi i gyd i fynegi fy nheimladau am ddiwrnod canlyniadau arholiadau eleni. Fe wnes i rannu gyda chi fy siom eithriadol ynghylch eich sefyllfa, y ffaith y dylai’r Llywodraeth dderbyn eu bod wedi gwneud camgymeriad, ac na ddylech chi geisio ennill y frwydr yma ar eich pennau eich hunain. Fe nodais i hefyd yn y llythyr hwnnw beth ddylai ddigwydd nesaf.

Fe wnaeth y Llywodraeth wrando a derbyn bod pethau ddim yn iawn. Fe wnaethon nhw ymrwymo i ddysgu gwersi o’r broses ac yn y diwedd fe wnaethon nhw’n siŵr bod y cymwysterau’n adlewyrchu’r graddau roedd eich athrawon wedi’u rhoi i chi.

Ers hynny, mae’r tîm a minnau wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd eto yn achos y rhai ohonoch chi sy’n sefyll arholiadau yn y flwyddyn ysgol hon. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn gwneud:

  • Rhoi tystiolaeth i’r adolygiad annibynnol o’r arholiadau, a sefydlwyd gan y Llywodraeth i ddysgu gwersi eleni. Yn ystod y sesiwn honno fe wnes i rannu gyda thîm yr adolygiad beth roeddwn i wedi’i glywed gan filoedd ohonoch chi yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.
  • Cwrdd â rhai undebau athrawon i glywed persbectif yr athrawon.
  • Trafod ein meddyliau gyda Cymwysterau Cymru – y corff sy’n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru.
  • Rhannu ein barn gyda’r Gweinidog ac eraill yn Llywodraeth Cymru.
  • Trefnu bod y Gweinidog Addysg yn clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc i helpu i lywio ei phenderfyniad.

Yn ystod yr holl drafodaethau hyn, rydw i wedi pwysleisio wrth bawb sy’n ymwneud â nhw y dylai hawliau plant fod yn ganolog i’r penderfyniadau a’r camau nesaf. Rydw i hefyd wedi rhannu gyda’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, chwe pheth allweddol byddwn i’n disgwyl iddi hi ac eraill eu diogelu:

  • dylai llesiant a iechyd meddwl pobl ifanc fod yn brif ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad;
  • mae angen i ni fwyafu’r amser mae pobl ifanc yn ei dreulio’n dysgu;
  • tegwch i bob dysgwr;
  • dylai pobl ifanc sydd eisoes o dan anfantais wrth sefyll eu cymwysterau, er enghraifft oherwydd eu bod wedi gorfod hunanynysu am gyfnod, ddim cael eu rhoi dan anfantais bellach;
  • dylai fod yn hawdd i bobl ifanc apelio yn erbyn eu gradd. Dylai’r wybodaeth i’w helpu i wneud hynny fod yn glir;
  • gall pobl ifanc fod yn rhan o’r penderfyniad ynghylch arholiadau a’r gwaith o ddatblygu’r system sy’n cael ei rhoi yn ei lle.

Yr wythnos hon, ddydd Mawrth 10 Tachwedd, bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad ynghylch beth ddylai ddigwydd gydag arholiadau eleni. Beth bynnag fydd y penderfyniad, byddaf finnau’n brwydro i gynnal yr egwyddorion hyn, ac i sicrhau eich bod chi a’ch athrawon yn cael gwybodaeth am y camau nesaf yn ddi-oed.

Rydw i eisiau i’r flwyddyn yma fod yn flwyddyn o ddysgu i chi, nid blwyddyn o bryderu.

Bydda i’n ailadrodd eto beth wnes i addo yn ystod yr haf: Rydyn ni’n gwrando, byddwn ni’n eich cefnogi chi, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn eich hawliau.