Llythyr agored y Comisiynydd Plant at bobl ifanc

16 Awst 2020

Annwyl bobl ifanc Cymru

Doedd diwrnod canlyniadau dydd Iau diwethaf byth yn mynd i fod unrhywbeth tebyg i o’r blaen; fe wnaeth y pandemig yn siwr o hynny. Ond, roedden ni wedi gobeithio y byddai’n ddiwrnod dathlu a chyffro i nifer ohonoch. Ond dim felly y bu. Rwyf wedi clywed gan gymaint ohonoych am eich rhwytredigaeth, eich dicter, eich siom. Ac mae llawer mwy sydd wedi methu rhannu’r teimladau hynny’n gyhoeddus. Dwi wir yn mor, mor drist.

Dwi eisiau chi wybod mod i wedi clywed eich cri bod angen i rywbeth newid. A dwi’n cytuno gyda chi.

Am fisoedd, dwi wedi bod yn siarad am goblygiadau’r pandemig ar ganlyniadau arholiadau gyda’r Llywodraeth a Chymhwysterau Cymru. Tawelodd fy meddwl wrth ddeall fod gan y Llywodraeth yr amcan cywir: gwneud yn siwr na fyddech chi’n colli allan ar eich cymhwysterau a bod system teg yn cael ei osod yn ei le. Er hyn, roeddwn ni’n pryderu y byddai anomaleddau unigol a gofynnais iddynt am osod system apelio teg, hygyrch a chryf. Wedi i’r canlyniadau cael eu cyhoeddi, dwi wedi clywed wrth bobl ifanc ac ysgolion bod y teimlad o anghyfiawnder yn helaeth.

Fel mam, academydd a’ch Comisiynydd chi, dwi’n gwybod pa mor bwerus gall addysg fod. Dwi hefyd yn gwybod ein bod ni’n aml yn dweud wrthoch y dylsech chi ddysgu o’ch camgymeriadau. Dyma’r amser i’r Llywodraeth dderbyn nad yw pethau’n iawn.

Fe wna i fod yn onest gyda chi, dwi yn poeni bod newid cyflym gyda’r potensial i greu mwy o annhegwch. Am y rheswm hynny, dyma beth fyddai’n gwneud:

  • Gwrando i Senedd Ieuenctid Cymru, prifathrawon ac eraill am eu pryderon i drafod y ffordd ymlaen fyddai orau i bawb
  • Gofyn am fwy o ddata wrth Cymhwysterau Cymru a CBAC i ddarganfod pam fod rhai disgyblion wedi cael eu diraddio cymaint o gymharu â asesiadau eu hathrawon
  • Gweithio gyda Chomisiynwyr Plant arall y DU i ofyn ar i Brifysgolion ledled y DU i anrhydeddu’r cynigion amodol
  • Cefnogi pwyllgor addysg y Senedd i ddal Llywodraeth yn atebol
  • Gwneud yn siwr bod unrhyw newidiadau i’r system yn gadael neb ar ol
  • Gofyn i’r Llywodraeth am ei cynllun o sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd I ddisgyblion TGAU wythnos ‘ma

Dwi ddim am i chi feddwl bod hwn yn frwydr sy’n rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun. Rydyn ni’n gwranod, fe wnewn ni eich cefnogi ac fe wnewn ni popeth yn ein gallu i amddiffyn eich hawliau.

Sally Holland,

Comisiynydd Plant Cymru