‘Angen newid mawr’ yn y gofal iechyd meddwl a llesiant i blant agored i niwed

Mae rhai o blant mwyaf bregus Cymru yn cael eu gyrru yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau sy’n methu cytuno pwy sy’n gyfrifol am eu gofal, yn ôl adroddiad newydd manwl a gyhoeddwyd heddiw (23 Mehefin) gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Darllenwch mwy am yr adroddiad

Yn ôl y Comisiynydd, yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru dyw plant sy’n profi trallod o ran iechyd meddwl, llesiant emosiynol a materion ymddygiad ddim yn cael yr help angenrheidiol. Dywedodd ei fod yn bwysicach nag erioed, wrth i’r genedl ddechrau cynllunio adferiad wedi’r pandemig yn araf a gofalus, sicrhau bod gwasanaethau’n dod at ei gilydd i ddarparu help wedi’i deilwra sy’n ymateb i’w hanghenion unigol, fel bod dim rhaid iddyn nhw gael hyd i ffordd trwy systemau cymhleth a ffynonellau help lluosog.

Dywedodd y Comisiynydd y dylai cael cefnogaeth fod yn broses syml, ddi-rwystr, ac na ddylai unrhyw blentyn glywed eu bod wedi dod at y ‘drws anghywir’ wrth ofyn am help. Mae’r Comisiynydd eisiau i bob rhan o Gymru gymryd camau tuag at ddull gweithredu ‘dim drws anghywir’, gan ddysgu o’r enghreifftiau ymarferol ledled Cymru sy’n cael eu hamlygu yn ei hadroddiad ac o’r newidiadau cadarnhaol sydd wedi dod i’r gan wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig.

Astudiaethau Achos

Stori Jane

Pan ddechreuodd Jane (nid ei henw go iawn) bryderu am iechyd meddwl ei mab, trodd ei hymdrechion i chwilio am help yn gyfnod hir o oedi a chael ei throsglwyddo rhwng gwasanaethau.

“Dechreuodd ein mab ddangos arwyddion o iechyd meddwl gwael yn 10 oed – cafodd atgyfeiriad i’r tîm iechyd meddwl sylfaenol gan y Meddyg Teulu ym mis Mai 2017.  Oherwydd diagnosis posibl o ASD (Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth) cafodd ei symud i’r llwybr niwroddatblygiadol ar gyfer hynny a’i dynnu oddi ar y rhestr aros ar gyfer iechyd meddwl sylfaenol, ond chawson ni ddim gwybod am y rhan yma o’r broses, a dim ond 6 mis yn ddiweddarach y dywedon nhw wrthyn ni, pan wnes i ffonio i wirio statws yr atgyfeiriad.

“Yn dilyn diagnosis o ASD ym mis Ebrill 2018, cafodd ein mab atgyfeiriad i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Yn y pen draw cafodd ei weld unwaith ym mis Awst 2018, gan ymgynghorydd oedd â gallu cyfyngedig i gyfathrebu â’n mab oherwydd ei awtistiaeth, ac a ryddhaodd ef ar ôl yr apwyntiad cyntaf, yr unig un, gan ddweud wrthyn ni “mae iselder arno fe oherwydd yr ASD, mae’n gyffredin iawn”.

“Cawson ni ddwy daflen ar gyfer asiantaethau gwirfoddol i ni gysylltu â nhw, un roedden ni eisoes wedi troi atyn nhw am help, a’r llall yn un roedden ni’n methu cael mynediad atyn nhw oherwydd ble roedden ni’n byw. Ers hynny mae fy mab wedi cael atgyfeiriad arall i’r gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol gan y pediatregydd ASD, ond gwrthodwyd yr atgyfeiriad hwnnw oherwydd bod angen iddo gael ei wneud gan Feddyg Teulu. O ganlyniad, dyw fy mab erioed wedi cael unrhyw fewnbwn ar gyfer ei iechyd meddwl.

“Dim ond un plentyn ac un stori sydd yma, ond yn llythrennol mae cannoedd o blant yn ne Cymru mewn sefyllfa debyg, â’u hiechyd meddwl yn dirywio oherwydd eu bod yn methu cael mynediad i’r gwasanaethau a’r gefnogaeth angenrheidiol.”

Stori Deborah

Mae Deborah (nid ei henw go iawn) wedi bod yn gofalu am Catrin ers mis Chwefror 2019 oherwydd bod ei mam yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Roedd Catrin wedi bod yn hunan-niweidio, ac roedd arwyddion corfforol o gamdriniaeth yn ei gorffennol. Bellach mae Deborah wrthi yn cyflwyno cais i gael bod yn warcheidwad arbennig Catrin.

Ar hyd ei chyfnod yn gofalu am Catrin mae wedi teimlo rhwystredigaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael ar gyfer ei materion iechyd meddwl.

Dywedodd Deborah:

“Mae Catrin yn hunan-niweidio ac wedi bod yn gwneud hynny ers 18 mis.

“Yn y diwedd fe gawson ni atgyfeiriad i Iechyd Meddwl Sylfaenol oherwydd bod Catrin wedi hunan-niweidio ei hwyneb. Roedd hi’n anobeithio am help. Bu’n rhaid aros am ryw dri mis cyn iddi gael asesiad ac aros eto am ddau fis, pryd y cawson ni glywed bod Catrin wedi’i rhoi ar restr aros.

“Yn ystod y cyfnod yma bu Catrin yn hunan-niweidio i’r fath raddau nes bod rhaid mynd â hi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys i gael pwythau. Fe ddes i o hyd iddi yn y stafell molchi, yn waed i gyd, ac yn aros yno’n disgwyl ei thynged. Fe aethon ni i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys i gael help meddygol. Bellach mae hi yng ngofal tîm argyfwng CAMHS. Cymerodd 10 diwrnod rhwng yr adeg pan aeth Catrin i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, a chael ei gweld gan rywun o dîm argyfwng CAMHS. Mae hi’n dal yn eu gofal nhw nawr, a hynny ar ôl 12 mis o frwydro gyda iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch pwy sy’n mynd i dalu am therapi.

“Mae’n dal heb fod yn eglur pwy fydd yn gwneud hynny, gan fod rhaid i CAMHS gael cyfarfod i drafod. Mae’r nyrs a welodd Catrin wedi dweud bod ei phroblemau uwchlaw beth gall nyrs yn CAMHS ddelio gyda nhw, a bod angen yn ddelfrydol iddi weld seicolegydd. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn dweud mai mater i iechyd yw codi ei hachos, ac mae iechyd yn dweud dylsai’r gwasanaethau cymdeithasol ddelio gyda hyn ar unwaith.

“Bellach mae gennym ni weithiwr cymdeithasol sydd i weld yn cysylltu’n dda â Catrin, ond mae hynny wedi cymryd dros 12 mis. Y rhan dristaf o hyn i gyd yw mai arian sy’n ganolog i’r cwbl. Yng nghanol y cyfan mae plentyn sydd wedi cael plentyndod trawmatig, ond dyw gwasanaethau ddim wedi cael eu darparu, ac i bob pwrpas mae hynny’n dal yn wir. Dyw iechyd a gofal cymdeithasol ddim wedi bod yn cyfathrebu â’i gilydd, ac mae’r ferch hon, sy’n 12 oed, yn sgrechian am help. Mae’n fy arswydo i feddwl ble mae Catrin yn gorfod cyrraedd a pha niwed mae’n rhaid iddi ei wneud i’w hunan cyn i gynllun cymorth strwythuredig gael ei roi ar waith.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Gwaith Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cymru (BPRhau) yw dod â iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd yn rhanbarthol i ymateb i anghenion eu poblogaeth leol.

Yn ystod cyfnod o sawl mis cyn y cyfyngiadau symud, bu’r Athro Sally Holland yn treulio amser yn ymweld â phob un o’r Byrddau. Dywedodd:

“Cyn y pandemig hwn roeddwn i’n sicr bod angen i ni fod yn symud yn gyflym tuag at ddull gweithredu ‘dim drws anghywir’ i blant a’u teuluoedd.  Bellach rwy’n fwy sicr nag erioed mai dyma’r unig ateb, ac y dylai fod yn elfen hanfodol o’n hymateb cenedlaethol i anghenion iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn dilyn y cyfnod yma o gyfyngiadau symud.

“Mae plant yn aros yn rhy hir i gael mynediad i wasanaethau, yn cael eu trosglwyddo o un lle i’r llall, ac yn aml yn cael eu hunain ar goll mewn drysfa o fiwrocratiaeth. Mae ambell lygedyn o obaith sy’n cadarnhau i mi nad yw’r hyn rwy’n galw amdano yn amhosib ei sicrhau. Rwyf wedi gweld rhai ardaloedd yn defnyddio dull dim drws anghywir, lle gall plant fynd i’r system o unrhyw bwynt, a lle mae gweithwyr proffesiynol yn dod ynghyd i ganfod pa help gall pawb ohonyn nhw ei gynnig, fel bod gofal hyblyg yn cael ei gyflwyno i ymateb i anghenion yr unigolyn.

“Mae angen uchelgais a chynlluniau arnon ni i roi mentrau fel y rhain ar waith ym mhob man, a hynny ar fyrder; dyw cilfachau o arfer da, sydd heb ei hefelychu mewn mannau eraill, ddim yn ddigon da, ac ni ddylai fod yn opsiwn i ni ddychwelyd at yr hen ffyrdd; doedd yr hen ffyrdd hynny ddim yn gweithio i blant a’u teuluoedd, a fyddan nhw’n sicr ddim yn gweithio nawr.”

“Mae’r pandemig yma wedi’n gorfodi i ailwampio gwasanaethau’n gyflym. Er fy mod i’n cydnabod y bydd penderfyniadau anodd o’n blaenau, wrth i ni symud allan o’r cyfyngiadau symud, rwy’n gobeithio bod y cyfnod yma wedi rhoi i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sbardun a hyder i ailystyried sut rydyn ni’n darparu rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobl ifanc.”

Mae’r adroddiad yn amlygu’r canlynol:

  • Paneli cymorth cynnar SPACE-Wellbeing rhanbarth Gwent yw’r enghraifft fwyaf datblygedig a welwyd o ddull amserol, ‘dim drws anghywir’ i gefnogi teuluoedd pan fydd plant yn profi trafferthion o ran iechyd meddwl neu emosiynol neu anawsterau ymddygiad. Gwelodd y Comisiynydd hefyd arwyddion addawol o ddatblygiadau tebyg mewn rhai rhanbarthau eraill.
  • Mae angen i ranbarthau wneud mwy i ddysgu oddi wrth ei gilydd lle mae enghreifftiau o arfer da yn bodoli, a bod yn fwy uchelgeisiol wrth anelu am brofiad ‘dim drws anghywir’ ar draws y rhanbarth
  • Mae angen i ranbarthau weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt i ailwampio sut mae gwasanaethau’n gweithio. Mae hyn yn cynnwys bod yn fwy hygyrch a thryloyw ynghylch eu gwaith.
  • Yn rhy aml mae plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yn wynebu profiad cymhleth, straenus wrth symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • Mae modd gweld cyllid ac adnoddau fel eiddo i awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd lleol yn hytrach na chyllid ac adnoddau ‘rhanbarth cyfan’ – sydd yno i wasanaethu plant y rhanbarth dan sylw gyda’i gilydd.

Paneli cymorth cynnar SPACE-Wellbeing Gwent

Ym 5 ardal awdurdod lleol Gwent, mae paneli o weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o wahanol wasanaethau yn cwrdd bob wythnos i drafod atgyfeiriadau newydd o sawl ffynhonnell: Meddygon Teulu, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd rhieni a theuluoedd.

Derbynnir yr atgyfeiriadau ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth a allai gynnwys hanes o drawma, problemau teuluol, anhwylderau iechyd meddwl, anghenion gofal cymdeithasol, ac anabledd.

Mae’r gwasanaethau o amgylch y bwrdd yn gallu cynnig gwahanol fathau o help, fel bod pob plentyn yn derbyn ymyriad wedi’i deilwra gan amrywiaeth o wasanaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran paneli cymorth cynnar SPACE-Wellbeing yng Ngwent:

“Datblygwyd model un pwynt mynediad Gwent ar gyfer llesiant emosiynol plant er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth cywir, y tro cyntaf, ar yr adeg gywir o ran eu hanghenion iechyd meddwl a llesiant emosiynol.

“Cyn rhoi hyn ar waith, roedd teuluoedd yn cael trafferth canfod ffordd trwy systemau oedd yn ddryslyd ac yn ddarniog, gyda gormod o ddrysau ffrynt ‘anghywir’ a theuluoedd yn aml yn ‘bownsio’ rhwng gwasanaethau.

“Mae’r gwerthuso hyd yma wedi amlygu gwerth y dull SPACE-Wellbeing i deuluoedd a hefyd y manteision i weithwyr proffesiynol, sy’n teimlo eu bod yn gallu gweithio ar y cyd mewn ffyrdd mwy cydweithredol a chydlynus, gyda gwell dealltwriaeth o waith ei gilydd.

“Rydyn ni ar daith yng Ngwent, ac er ein bod ni heb gyrraedd y cyrchfan eto, mae SPACE-Wellbeing yn sicr yn garreg filltir allweddol ar y ffordd at system integredig sy’n cyflawni’r canlyniadau gorau posibl o safbwynt iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant.”

Y Camau Nesaf

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer yr holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yng nghyswllt eu dyletswyddau, ac ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr angen am systemau atebolrwydd cadarn a sicrhau cyllid, cefnogaeth a monitro gwaith tuag at strategaethau tymor hir. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i gwrdd â phob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol eto yn 2021-22 i wirio’u cynnydd a’i werthuso yn erbyn ei hargymhellion. Bydd pobl ifanc yn cael gwahoddiad i fynd gyda’r Comisiynydd i’r cyfarfodydd hyn.

Ychwanegodd yr Athro Holland:

“Fe allwn ni, ac mae’n rhaid i ni, newid yn llwyr yr ymateb i anghenion rhai o’n plant mwyaf agored i niwed. Yn rhy aml, rwy’n clywed am sefyllfaoedd lle mae iechyd, gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn dadlau, weithiau’n llythrennol, dros bennau plant ag anghenion cymhleth; yn methu cytuno pwy sy’n gyfrifol am eu gofal. Fel y dywedodd un person ifanc wrthyf fi yn ystod y gwaith yma: Mae angen i ni ddod at ein gilydd i ddileu’r cymhlethdod.”