Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Trafnidiaeth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol ‘ddim yn ddigon da’

Mae rhai pobl ifanc ledled Cymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hatal rhag cael mynediad i’w haddysg oherwydd diffyg trafnidiaeth addas, hygyrch a diogel, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (04 Hydref 2019), mae’r Athro Sally Holland yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’n llawn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), sydd bellach yn 11 oed, er mwyn sicrhau bod pob person ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael trafnidiaeth addas i’w lleoliad addysg. Ar hyn o bryd gall awdurdodau lleol roi’r gorau i ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion pan fyddan nhw’n cyrraedd 16 oed, a gall disgyblion o bob oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wynebu heriau trafnidiaeth.

Dywedodd yr Athro Holland:

“Mae hawl gan bob person ifanc i gael addysg. Yn achos pobl ifanc ag anghenion ychwanegol, gall cyrraedd lleoliad yr addysg honno achosi straen wirioneddol. Maen nhw’n aml yn cael cludiant sydd ddim yn addas ar gyfer eu hanghenion, neu gallan nhw fynd trwy newidiadau yn eu darpariaeth sy’n achosi pryder go iawn iddyn nhw.

“Rwyf hefyd yn pryderu bod y gyfraith bresennol yn methu â gwarantu trafnidiaeth i unrhyw berson ifanc dros 16 gael mynediad i’w lleoliad addysg. Er bod hyn yn effeithio ar lawer o bobl ifanc, mae’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn wynebu risg uwch o fethu cael beth ddylen nhw. Dyw’r sefyllfa bresennol ddim yn ddigon da.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol uchelgeisiol – cyfraith newydd a ddylai, mewn egwyddor, ddarparu cyfleoedd dysgu ychwanegol addas ar gyfer y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol nes eu bod yn 25 oed. Ond os byddan nhw’n methu teithio neu gyrraedd y cyfleoedd hynny, fel sy’n wir ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o Gymru, rwy’n galw ar y Llywodraeth heddiw i wneud hyn: Rhaid i chi sicrhau bod dyletswydd statudol sy’n gofyn bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n cael eu cwmpasu gan y Ddeddf, gan gynnwys rhai dros 16, yn cael cludiant diogel i’w lleoliad addysg.”

Dywedodd Jane Owen, y mae ei mab Jesse yn 14 oed ac wedi cael diagnosis o ADHD, Awtistiaeth ac Anhwylder Heriol Gwrthwynebol, nad oedd yr awdurdod lleol wedi ystyried anghenion ei mab wrth newid ei drefniadau trafnidiaeth, a bod hynny’n cael effaith wirioneddol ar ei lesiant.

“Aeth i deimlo’n isel a gwrthod mynd i’r ysgol. Hefyd, fe welson ni effaith negyddol ar ei ymddygiad, oedd wedi sefydlogi a gwella ar ôl misoedd lawer o waith. Aeth i’w gragen yn gymdeithasol, ac ar brydiau fyddai e ddim yn cysgu o gwbl am sawl noson ar y tro, ac o ganlyniad roedd yn colli ysgol.

“Roedd yn gyfnod llawn rhwystredigaeth a straen. Dyw’r naill na’r llall ohonon ni’n gweithio, mae fy ngŵr wedi ymddeol, a fi sy’n gofalu am y cartref, felly roedd modd i ni fynd â’n mab a bachgen arall i’r ysgol am rai wythnosau. Ond tasen ni wedi bod yn gweithio, bydden ni wedi cael problemau mawr, ac mae’n bosib iawn y byddai fy ngŵr wedi gorfod gweithio’n rhan amser neu hyd yn oed gymryd gwyliau heb dâl am ychydig.

“Rhiant, gofalwr ac athro’r plentyn dan sylw sy’n gorfod delio gyda’r colli limpyn a’r ymddygiad heriol sy’n dilyn newid rwtîn. Mae cyfathrebu (neu ddiffyg cyfathrebu) yn broblem enfawr hefyd: mae angen i’n plant gael sicrwydd beunyddiol i fedru ymdopi, felly mae’n rhaid rhoi digon o rybudd/cyfle i baratoi os bydd newidiadau. Mae llythyron yn rhoi gwybod i rieni am ddarparwr trafnidiaeth eu plentyn yn cael eu hanfon allan rai dyddiau’n unig cyn dechrau’r tymor, felly does dim amser i baratoi plentyn ar gyfer newid.”

Yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd heddiw (4 Hydref 2019) mae’r Comisiynydd yn cydnabod meysydd lle bu gwelliant, gan gynnwys cyflwyno Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) Cymru – Bil y mae’r Comisiynydd wedi bod yn ymgyrchu drosto ers ei diwrnod cyntaf yn y swydd, gwaith Senedd Ieuenctid Cymru, sydd newydd ei sefydlu, a’r camau mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd tuag at ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant – galwad allweddol arall gan y Comisiynydd. Mae’r adroddiad yn symud ymlaen at feysydd allweddol eraill lle mae angen gwelliant, gan gynnwys:

Bwlio

Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hunanwerthuso ysgolion yn ymgorffori cofnod o’r holl achosion a mathau o fwlio yr adroddwyd amdanynt. Dylai fod disgwyl i ysgolion ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio, monitro a gwerthuso’u gwaith gwrthfwlio ataliol, ymatebol.

Tlodi Plant

Ceir galwad hefyd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cyflawni, yn nodi’n fanwl sut bydd adrannau ar draws y Llywodraeth yn cymryd camau ymarferol i liniaru a mynd i’r afael ag effaith tlodi plant.

Iechyd Meddwl

Mae un arall o’r prif argymhellion yn ymwneud â iechyd meddwl a’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a sefydlwyd yn 2015 er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar frys i sefydlu trefniadau dilyniant ar gyfer y gwaith pwysig a gyflawnwyd trwy’r Rhaglen, gan ei bod i ddod i ben ym mis Hydref, ac ni chafwyd manylion eto am unrhyw beth i gymryd ei lle.

Uchafbwyntiau gwaith y Comisiynydd eleni

  • Ymgynghori â mwy na 10,000 o blant a phobl ifanc i lywio cynllun tair blynedd newydd y tîm
  • Cynnal yr arolwg hawliau addysg cyntaf erioed, gan sicrhau 391 o ymatebion gan athrawon a 6392 o ymatebion gan ddisgyblion
  • Rheoli 671 o ymholiadau ynghylch torri hawliau plant trwy wasanaeth annibynnol Ymchwiliadau a Chyngor y Comisiynydd
  • Bu’r Comisiynydd yn bersonol yn cwrdd â rhyw 100 o grwpiau o blant a phobl ifanc
  • Cefnogi cyrff cyhoeddus pwysig i fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, gan gynnwys Heddlu De Cymru
  • Ennill gwobr o fri yn y diwydiant am ein gwaith yn mynd i’r afael ag Islamoffobia