Sut mae siarad â’ch plant am wrthdaro a rhyfel

Mae cynnwys y isod wedi ei chyfieithu o adnodd gan UNICEF. 

 

Sut mae siarad â’ch plant am wrthdaro a rhyfel

8 awgrym i gefnogi a chysuro eich plant.

 

Pan fydd gwrthdaro neu ryfel yn y penawdau, gall hynny achosi teimladau fel ofn, tristwch, dicter a phryder, ble bynnag rydych chi’n byw.

Mae plant bob amser yn troi at eu rhieni am ymdeimlad o ddiogelwch a sicrwydd – ac mae hynny’n fwy gwir fyth mewn adeg o argyfwng.

 Dyma rai awgrymiadau ynghylch sut mae mynd ati i sgwrsio gyda’ch plentyn a rhoi cefnogaeth a chysur iddyn nhw.

 

1. Canfod beth maen nhw’n gwybod a sut maen nhw’n teimlo

Dewiswch amser a lle sy’n golygu eich bod yn gallu codi’r pwnc yn naturiol, a bod eich plentyn yn fwy tebygol o deimlo’n gyfforddus yn siarad yn rhydd, er enghraifft, yn ystod pryd teuluol. Ceisiwch osgoi siarad am y pwnc yn union cyn mynd i’r gwely.

Man cychwyn da yw gofyn i’ch plentyn beth maen nhw’n gwybod a sut maen nhw’n teimlo. Efallai na fydd rhai plant yn gwybod llawer am beth sy’n digwydd, a bydd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn siarad amdano fe, ond gallai eraill fod yn pryderu’n ddistaw. Gyda phlant iau, gall tynnu lluniau, storïau a gweithgareddau eraill helpu i agor trafodaeth.

Gall plant ddarganfod y newyddion mewn llawer o ffyrdd, felly mae’n bwysig gwirio beth maen nhw’n ei weld a’i glywed. Mae’n gyfle i dawelu eu meddwl ac o bosib gywiro unrhyw wybodaeth anghywir y gallen nhw fod wedi dod ar ei thraws, p’un a yw hynny ar-lein, ar y teledu, yn yr ysgol neu gan eu ffrindiau.

Gall llif parhaus o ddelweddau a phenawdau sy’n peri trallod olygu eu bod yn teimlo bod yr argyfwng ym mhobman o’n cwmpas. Efallai na fydd plant iau yn gwahaniaethu rhwng delweddau ar y sgrîn a’u realiti personol eu hunain, a gallen nhw gredu eu bod mewn perygl uniongyrchol, hyd yn oed os yw’r gwrthdaro’n digwydd yn bell i ffwrdd. Efallai bydd plant hŷn wedi gweld pethau sy’n peri pryder ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ofni sut gallai digwyddiadau waethygu.

Mae’n bwysig peidio â bychanu neu ddiystyru eu pryderon. Os byddan nhw’n gofyn cwestiwn sy’n ymddangos yn eithafol i chi, fel “Ydyn ni i gyd yn mynd i farw?”, tawelwch eu meddwl fod hynny ddim yn mynd i ddigwydd, ond ceisiwch ddarganfod hefyd beth maen nhw wedi clywed a pham maen nhw’n pryderu y gallai hynny ddigwydd. Os gallwch chi ddeall o ble mae’r pryder yn dod, rydych chi’n fwy tebygol o fedru tawelu eu meddwl.

Gofalwch eich bod yn cydnabod eu teimladau ac yn eu sicrhau bod beth bynnag maen nhw’n ei deimlo yn naturiol. Dangoswch eich bod yn gwrando trwy roi eich holl sylw iddyn nhw a’u hatgoffa eu bod nhw’n gallu siarad â chi neu oedolyn arall maen nhw’n eu trystio pryd bynnag maen nhw eisiau.

2. Cadw’r cyfan yn ddigynnwrf ac yn oed-briodol

Mae gan blant hawl i wybod beth sy’n digwydd yn y byd, ond mae cyfrifoldeb ar oedolion hefyd i’w cadw nhw’n ddiogel rhag trallod. Chi sy’n nabod eich plentyn orau. Defnyddiwch iaith oed-briodol, gwyliwch eu hymateb, a byddwch yn sensitif i’w lefel o bryder.

Mae’n normal os byddwch chi’n teimlo’n drist neu’n bryderus ynghylch beth sy’n digwydd hefyd. Ond cadwch mewn cof fod plant yn cymryd eu ciwiau emosiynol oddi wrth oedolion, felly ceisiwch beidio â rhannu unrhyw ofnau yn ormodol gyda’ch plentyn. Siaradwch yn ddigynnwrf, a chadwch lygad ar iaith eich corff, fel mynegiant eich wyneb.

Defnyddiwch iaith oed-briodol, gwyliwch eu hymateb, a byddwch yn sensitif i’w lefel o bryder.

Gymaint ag y gallwch, rhowch sicrwydd i’ch plant eu bod nhw’n ddiogel rhag unrhyw berygl. Atgoffwch nhw fod llawer o bobl yn gweithio’n galed ar draws y byd i stopio’r gwrthdaro a dod o hyd i heddwch.

Cofiwch nad oes rhaid i chi fedru ateb pob cwestiwn. Gallwch chi ddweud bod angen i chi edrych i mewn i’r peth neu ddefnyddio’r cyfle i ddod o hyd i atebion gyda’ch gilydd os yw’r plant yn hŷn. Defnyddiwch wefannau newyddion o safon neu sefydliadau rhyngwladol fel UNICEF a’r Cenhedloedd Unedig (UN). Esboniwch nad yw pob gwybodaeth ar-lein yn gywir, a pha mor bwysig yw cael hyd i ffynonellau dibynadwy.

3. Lledaenu tosturi, nid stigma

Yn sgîl gwrthdaro, ceir yn aml ragfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl neu wlad. Wrth siarad â’ch plant, osgowch labeli fel “pobl ddrwg” neu “ddrygioni” a defnyddio’r sefyllfa i annog tosturi, er enghraifft at y teuluoedd sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi. Hyd yn oed os yw gwrthdaro’n digwydd mewn gwlad bell, mae’n gallu tanio gwahaniaethu yn erbyn pobl ar garreg y drws. Gwiriwch nad yw eich plant yn profi bwlio nac yn cyfrannu ato. Os yw pobl wedi galw enwau arnyn nhw neu eu bwlio yn yr ysgol, anogwch nhw i ddweud wrthych chi neu wrth oedolyn maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw.

Atgoffwch eich plant fod pawb yn haeddu bod yn ddiogel yn yr ysgol ac yn y gymdeithas. Mae bwlio a chamwahaniaethu bob amser yn beth drwg, a dylai pawb ohonon ni wneud ein rhan i ledaenu caredigrwydd a chefnogi ein gilydd.

4. Ffocws ar y rhai sy’n helpu

Mae’n bwysig i blant wybod bod pobl yn helpu ei gilydd trwy fod yn ddewr ac yn garedig. Dewch o hyd i hanesion cadarnhaol, fel yr ymatebwyr cyntaf sy’n helpu pobl, neu bobl ifanc yn galw am heddwch.

Mae’r ymdeimlad o wneud rhywbeth, pa mor fach bynnag ydyw, yn aml yn gallu bod yn gysur mawr.

Holwch eich plentyn i weld a fydden nhw’n hoffi gweithredu’n gadarnhaol. Efallai gallen nhw lunio poster neu gerdd am heddwch, neu efallai gallech chi fod yn rhan o sesiwn codi arian yn lleol neu ymuno â deiseb. Yn aml gall ymdeimlad o wneud rhywbeth, pa mor fach bynnag ydyw, fod yn gysur mawr.

 

>> Archwilio: Cerddi heddwch gan blant ar draws y byd

 

5. Gorffen sgyrsiau’n ofalus

Wrth i chi orffen eich sgwrs, mae’n bwysig sicrhau eich bod chi ddim yn gadael eich plentyn mewn trallod. Ceisiwch asesu lefel eu pryder trwy wylio iaith eu corff, ystyried a ydyn nhw’n defnyddio’u goslef arferol, a gwylio’u hanadlu.

Atgoffwch nhw eich bod chi â gofal amdanyn nhw a’ch bod chi yno i wrando a chefnogi, pryd bynnag maen nhw’n teimlo’n bryderus.

 

>> Darllen: Sut mae adnabod arwyddion trallod mewn plant

6. Parhau i wirio

Wrth i newyddion am y gwrthdaro barhau, dylech chi barhau i wirio gyda’ch plentyn i weld sut maen nhw’n teimlo. Ydyn nhw’n iawn? Oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau newydd neu bethau hoffen nhw eu trafod gyda chi?

Os bydd eich plentyn i weld yn bryderus ynghylch beth sy’n digwydd, cadwch lygad ar agor am unrhyw newidiadau yn eu hymddygiad neu eu teimladau, fel poen bol, pen tost, hunllefau neu anawsterau’n cysgu.

Mae plant yn ymateb yn wahanol i ddigwyddiadau niweidiol, ac efallai na fydd rhai arwyddion trallod mor amlwg. Gall plant iau lynu atoch yn fwy na’r arfer, tra gallai arddegwyr fod mewn galar neu ddicter dwys. Dim ond am gyfnod byr mae llawer o’r ymatebion hyn yn parhau, ac maen nhw’n ymatebion normal i ddigwyddiadau straenus. Os bydd yr ymatebion yn parhau am gyfnod estynedig, efallai bydd angen cymorth arbenigol ar eich plentyn.

Gallwch eu helpu i leihau straen trwy wneud gweithgareddau fel anadlu o’r bol gyda’ch gilydd:

  • Cymerwch 5 anadl ddofn, treuliwch 5 eiliad yn anadlu i mewn, a 5 eiliad yn anadlu allan, gan anadlu i mewn drwy eich trwyn ac allan drwy eich ceg
  • Esboniwch wrth eich plentyn, pan fyddan nhw’n anadlu i mewn, eu bod yn llenwi eu bol yn raddol fel balŵn, ac yna bod yr aer yn mynd allan o’r balŵn eto yn araf wrth iddyn nhw anadlu allan.

Byddwch yn barod i siarad â’ch plentyn os byddan nhw’n codi’r pwnc. Os bydd hynny’n digwydd yn agos at amser gwely, ewch at rywbeth cadarnhaol i orffen, er enghraifft darllen hoff stori i’w helpu i gysgu’n dda.

 

>>Darllen: Sut mae adnabod arwyddion trallod mewn plant
>> Darllen: Gweithgareddau i leihau straen a chynnal eich llesiant chi a’ch plentyn

7. Cyfyngu ar lif y newyddion

Byddwch yn ymwybodol i ba raddau mae eich plant yn dod i gysylltiad â’r newyddion sy’n llawn penawdau brawychus a lluniau sy’n peri trallod. Ystyriwch ddiffodd y newyddion o amgylch plant iau. Yn achos plant hŷn, gallech chi ddefnyddio’r cyfle i drafod faint o amser maen nhw’n ei dreulio yn edrych ar newyddion, a pha ffynonellau newyddion maen nhw’n eu trystio. Hefyd ystyriwch sut rydych chi’n siarad am y gwrthdaro gydag oedolion eraill os bydd eich plant yn ddigon agos i glywed.

Gymaint â phosibl, ceisiwch dynnu eu sylw mewn ffordd gadarnhaol fel chwarae gêm neu fynd am dro gyda’ch gilydd.

8. Gofalu amdanoch eich hunan

Byddwch chi’n gallu helpu eich plant yn well os ydych chi’n ymdopi hefyd. Bydd plant yn sylwi ar eich ymateb chithau i’r newyddion, felly mae’n help iddyn nhw wybod eich bod chi’n ddigynnwrf ac yn rheoli’r sefyllfa.

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu’n drallodus, neilltuwch amser i estyn allan at aelodau eraill o’r teulu, ffrindiau a phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw. Byddwch yn ymwybodol faint o newyddion rydych chi’n ei weld. Ceisiwch nodi adegau allweddol yn ystod y dydd i wirio beth sy’n digwydd yn hytrach na bod ar-lein ar hyd yr amser. Gymaint ag y gallwch chi, neilltuwch amser i wneud pethau sy’n eich helpu i ymlacio ac ymadfer.

 

>> Darllen: Gweithgareddau i leihau straen a chynnal eich llesiant chi a’ch plentyn