Rydyn ni’n recriwtio! Dau Aelod newydd Annibynnol (anweithredol) i eistedd ar Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiynydd Plant

Dyma ein cenhadaeth: rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais ar eu rhan fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, ac rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant.

Bydden ni wrth ein bodd yn cael hyd i aelodau ar gyfer ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sy’n teimlo mor angerddol â ni ynghylch cyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru a’u gallu i gael mynediad i’w hawliau.

Rydyn ni’n chwilio am ddau aelod newydd annibynnol i eistedd ar ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Bydd disgwyl i’r Aelodau graffu, herio, a darparu cyngor annibynnol i’r comisiynydd plant, Rocio Cifuentes MBE, ynghylch sut mae ei swyddfa’n cael ei llywodraethu, sut mae’n rheoli risg, a pha mor effeithiol ac effeithlon yw defnydd y tîm o arian cyhoeddus.

Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl â sgiliau ariannol a chefndir ym maes rheolaeth ariannol, p’un a yw hynny yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector, neu bobl sydd â phrofiad o adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd yng nghyswllt llywodraethu a rheoli risg, naill ai yn y sector cyhoeddus, sector preifat neu’r trydydd sector. Mae profiad o arwain, cynnal neu adolygu gweithgarwch archwilio i’w ddymuno’n fawr, fel y mae profiad a/neu wybodaeth am hawliau plant.

Penodiad am gyfnod o dair blynedd yw hwn, a gwahoddir yr aelodau i gychwyn yn eu swydd ym mis Gorffennaf 2024 (mi fydd eich cyfarfod cyntaf ar 23ain o Orffennaf). Disgwylir ymrwymiad amser o 6 diwrnod y flwyddyn i’r rôl hon, ac ni roddir tâl. Cynigir cyfradd diwrnod am ymrwymiadau achlysurol ychwanegol. Ceir manylion pellach yn y disgrifiad o’r rôl.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, gofynnir i chi gyflwyno CV a datganiad cefnogi, yn nodi sut rydych chi’n addas i fod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, beth sydd gennych i’w gyfrannu i’r rôl, a beth byddech chi’n ei ychwanegu at y Pwyllgor petaech chi’n llwyddiannus. Dylai eich datganiad cefnogi nodi sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf ym mhroffil y rôl, ynghyd â manylion unrhyw wybodaeth, sgiliau a phrofiad arall sydd gennych.

Dylid anfon y CV a’r datganiad cefnogi trwy e-bost i recriwtio@complantcymru.org.uk cyn 0900yb ar 10fed o Fai 2024.

Rydyn ni am ehangu ein dealltwriaeth o’r byd, gan gyflwyno persbectif pobl â nodweddion sydd wedi’u tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n adeiladu gweithle lle gwerthfawrogir amrywiaeth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl o gefndir Du, Asiaidd neu gefndir ethnig amrywiol arall, a cheisiadau gan bobl anabl.

Cliciwch yma i ddarllen ‘Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) – Proffil o’r Rôl’ (Agor fel PDF)