Rydym yn recriwtio! Pennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu – llawn amser a pharhaol

  • Cyflog: (£47,676 – £56,445 pro rata – yn aros am ddyfarniad cyflog 2026/27) y flwyddyn
  • Ar sail llawn amser (35 awr yr wythnos – opsiynau hyblyg ar gael)

Mae ein cartref ysbrydoledig a chyfleus yn Abertawe, gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, yn agos iawn at orsaf dren y prif linell. Bydd gennym hefyd swyddfa loeren ym Mae Caerdydd ar gael yn fuan. Os nad ydych am fod yn swyddfa drwy’r wythnos, rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg rhagorol, gan gynnwys gweithio hybrid, o bell a chontractau rhan-amser.

Ynglŷn â Chomisiynydd Plant Cymru

Ein cenhadaeth yw: Rydym yn gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac eu cynrychioli fel bod eu hawliau’n cael eu diogelu, ac rydym yn cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Mae’r Comisiynydd yn chwarae rôl bwysig ym myd bywyd sifil Cymru, ac mae mewn sefyllfa freintiedig i allu siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, llywodraethau a’r cyfryngau cenedlaethol. Rydym eisiau gwneud y defnydd gorau posibl o’r sefyllfa hon.

Mae ein dogfen ‘Llond Gwlad o Bwrpas’ yn rhoi cipolwg ar sut beth yw gweithio i’r Comisiynydd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn chwilio am Bennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu i helpu i gyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn ei Strategaeth Tair-blynedd newydd: Gwireddu Hawliau Plant.

Yn benodol, yr ymrwymiadau i:

  • Gynyddu ein cyrhaeddiad i bob plentyn yng Nghymru – fel bod pob plentyn yn gwybod bod hyrwyddwr cryf ac annibynnol yno i’w cefnogi;
  • Defnyddio lleisiau a phrofiadau plant i yrru gwelliant mewn ymarfer lleol a rhanbarthol – fel bod yr hyn mae plant yn ei ddweud yn arwain yn uniongyrchol at newidiadau.

Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig a phrofiadol sy’n barod i fynd gam ymhellach i sicrhau ein bod yn cyflawni strategaeth y Comisiynydd ac yn cyfrannu at Gymru lle mae plant yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Bydd y rôl yn cynnwys datblygu a gweithredu strategaethau i:

  • Ehangu ein gwelededd a chodi ymwybyddiaeth o’n swyddogaethau, gan gynnwys llwybrau i gael cyngor a chymorth;
  • Cynyddu ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ar draws Cymru, gan dargedu grwpiau nad ydynt yn cael eu cyrraedd yn ddigonol;
  • Sicrhau bod ein gwaith cyfranogiad yn ddiogel, yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn arwain at newid y gall plant ei weld.

Sut mae llwyddiant yn edrych?

  • Mae plant o bob cefndir yn gwybod pwy yw’r Comisiynydd ac yn teimlo’n hyderus i ymgysylltu;
  • Mae cyfranogiad plant wedi’i wreiddio ar draws ein holl waith;
  • Mae barn plant yn weladwy mewn polisi ac mewn trafodaeth gyhoeddus.

Bydd y rôl yn goruchwylio’r swyddogaeth Gyfranogiad, gan sicrhau perfformiad cryf ar lefel unigol a thîm, a darparu cyfleoedd ymgysylltu effeithiol ac hygyrch i blant, pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill.

Bydd y Pennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu yn rhan o’r Uwch Dîm Rheoli.

Pa sgiliau a phrofiad sydd eu hangen?

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithio gyda ystod eang o randdeiliaid – o blant a phobl ifanc i arweinwyr sefydliadau – ac yn helpu i greu newid gwirioneddol.

Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o sut i gynyddu gwelededd ac ymgysylltu, ac i sicrhau bod cyfranogiad yn arwain at newid pendant.

A yw’r swydd hon i chi?

Rydym yn gwybod bod rhai pobl yn oedi cyn ymgeisio os nad ydynt yn bodloni pob gofyniad. Os ydych yn meddwl bod gennych y sgiliau, hyd yn oed os nad ydych yn bodloni popeth, rydym yn eich annog i gysylltu.

Rydym yn ymrwymedig i greu tîm cynhwysol lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi.

Byddwn yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion hanfodol ac sydd â phrofiad byw sy’n cyfrannu at amrywiaeth ein tîm.

Gellir darparu’r hysbyseb hwn mewn print bras, braille neu sain ar gais.

Gwneud cais:

Swydd Ddisgrifiad – Pennaeth Allgysylltu am Ymgysylltu

Ffuflen Gais

  • Dyddiad cau: 24 Mehefin 2026
  • Panel anffurfiol (ar-lein): 6 Gorffennaf
  • Cyfweliad ffurfiol (wyneb yn wyneb): 9 Gorffennaf 2026

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, ffoniwch 01792 765600 a byddwn yn trefnu i chi siarad â Jonathan Cox, Prif Swyddog Gweithredu.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae wedi ymrwymo i drin y Saesneg a’r Gymraeg yn gyfartal. Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.