Recriwtio Aelodau Newydd – Panel Ymgynghorol Ifanc y Comisiynydd

Ydych chi’n teimlo’n frwdfrydig am hawliau plant?

Ydych chi eisiau cefnogi Comisiynydd Plant Cymru i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei hawliau?

Yna gwnewch gais i ddod yn aelod o Banel Ymgynghorol Ieuenctid Comisiynydd Plant Cymru!

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio aelodau newydd i fod yn rhan o’n Panel Ymgynghorol Ifanc ar gyfer 2024.

Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â’r Comisiynydd a’i thîm a dweud eich dweud ar ddarnau o waith effeithiol i amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant.

Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflenni isod ac ebostiwch nhw i’r cyfeiriad yma: recriwtio@childcomwales.org.uk

Ni’n Recriwtio

Ffurflen Gais

Ffuflen Fonitro

Disgrifiad o Rôl y Pobl Ifanc

Os ydych chi am wneud cais i ymuno â’r panel, rhaid i chi anfon eich cais atom erbyn dydd Llun y 18fed o Ragfyr 2023.

Os hoffech chi siarad â rhywun am y cyfle hwn neu os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni a gofynwch am Jordan Doherty neu Rhiannon Llewelyn, neu anfonwch e-bost i post@complantcymru.org.uk