Strategaeth Tair Blynedd Comisiynydd Plant Cymru (2026-2029)
Gwireddu Hawliau Plant
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Croeso
Yn ystod y tair blynedd diwethaf rwyf wedi cael y fraint o deithio ledled Cymru yn gwrando ar blant a phobl ifanc. Mae’r strategaeth hon wedi’i seilio ar y lleisiau, y cipolygon a’r dystiolaeth mae plant wedi’u rhannu’n uniongyrchol â mi a’m cydweithwyr. Fel tîm, rwy’n falch o ddweud ein bod, yn ystod y tair blynedd diwethaf, wedi cyrraedd dros 36,000 o blant a phobl ifanc ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Rwyf hefyd yn bersonol wedi ymgysylltu â phlant trwy ymweld â 67 o ysgolion a 44 o leoliadau ieuenctid eraill, yn cynnwys grwpiau ieuenctid, cartrefi preswyl i blant, ac ysbytai. Mae 20,000 o blant a phobl ifanc eraill wedi rhannu eu barn gyda ni trwy ein menter Materion Misol, a bu mwy na 3,500 yn cymryd rhan yn ein Harolwg Y Ffordd Gywir yn ddiweddar, gan ddweud wrthyn ni faint roedden nhw’n ei wybod am hawliau plant, a pha faterion sy’n dal i achosi’r pryder mwyaf iddyn nhw. Mae o leiaf 1,982 o blant wedi cael eu cefnogi gan fy Nhîm arbenigol Cyngor a Chymorth i Blant. Rwyf am ddiolch o galon i bob plentyn, person ifanc, oedolyn a gweithiwr proffesiynol sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu barn a’u profiadau gyda mi, ac sydd wedi ymddiried ynof fi a’r tîm i weithredu ar sail yr wybodaeth honno.
Rwyf wedi gweld a chlywed yr effaith ar blant pan na fydd hawliau plant yn cael blaenoriaeth na’u rhoi ar waith. O’r herwydd, yn ystod y tair blynedd nesaf, rydyn ni’n addo gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni’r canlynol:
- Estyn allan ymhellach at holl Blant Cymru – fel bod pob plentyn yn gwybod bod pencampwr cryf, annibynnol ar gael i sefyll dros eu hawliau.
- Cefnogi Hawliau Plant yn Ymarferol – fel bod pob plentyn yn gwybod sut mae gofyn am help, codi pryderon a chael mynediad at gefnogaeth briodol os na fydd eu hawliau’n cael eu parchu.
- Defnyddio Lleisiau a Phrofiadau Plant i Sbarduno Gwelliant mewn Ymarfer Lleol a Rhanbarthol – fel bod yr hyn mae plant yn ei ddweud wrthyn ni yn arwain yn uniongyrchol at welliannau i ymarfer.
- Gwneud Hawliau a Lleisiau Plant yn Flaenoriaeth Genedlaethol – fel bod anghenion plant yn ganolog ym mhob sgwrs a phenderfyniad cenedlaethol, yn hytrach na bod ar y cyrion.
Gyda’ch cefnogaeth chi, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflawni’r strategaeth hon a gwireddu hawliau plant.
Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru
Ebrill 2026
Amdanom Ni
Ein Pwrpas
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn bodoli er mwyn hybu a diogelu hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, fel y nodwyd yng Nghonfensiwn y Deyrnas Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), ac mae hynny wedi’i wreiddio yn y gyfraith yng Nghymru.
Ein Gweledigaeth
Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau, yn gwybod bod y Comisiynydd Plant yno i sefyll dros yr hawliau hynny, ac yn gallu cyrchu cefnogaeth er mwyn i’r hawliau hynny gael eu gwireddu.
Ein Cenhadaeth
Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais ar eu rhan fel bod eu hawliau’n cael eu diogelu, ac rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol ymarferol i hawliau plant, gan chwyddo lleisiau plant, a galw Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif, fel bod pob plentyn yng Nghymru yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Ein Pwrpas
Mae pedair swyddogaeth i’m swyddfa, ac rydyn ni’n eu defnyddio i gyflawni ein cylch gorchwyl, sef diogelu a hybu hawliau plant. Y swyddogaethau hynny yw ein bod:
- Yma i Bob Plentyn – rydyn ni’n gwrando ar bob plentyn, ac yn sicrhau ein bod ni ar gael i bob plentyn
- Arwr Hawliau – rydyn ni’n helpu plant i gael mynediad ymarferol i’w hawliau
- Goleuo’r Gwir – rydyn ni’n codi llais ar ran plant ac yn bwrw goleuni ar eu profiadau
- Heriwr – rydyn ni’n herio llunwyr penderfyniadau a chyrff cyhoeddus i wella bywydau plant
Y Cyd-destun Strategol
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn wynebu heriau cynyddol sy’n gorgyffwrdd, yn cynnwys:
- Pwysau costau byw a thlodi
- Pryderon iechyd meddwl, iechyd a llesiant
- Anghydraddoldeb o ran mynediad at addysg, a chefnogaeth
- Risgiau diogelu, gan gynnwys niwed ar-lein
- Profiadau parhaus o fwlio a gwahaniaethu yn eu herbyn
- Y Newid yn yr Hinsawdd ac ansicrwydd geo-wleidyddol ar draws y byd
Wrth i’m swyddfa gychwyn ar flwyddyn ein 25 mlwyddiant, does dim lle i laesu dwylo, ac fe ellid dadlau bod mwy o berygl i hawliau plant nag ers cenhedlaeth. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd byd-eang, ond hefyd ar lefel leol a chenedlaethol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarbwyllo calonnau a meddyliau bod blaenoriaethau plant a’u hawliau yn sylfaenol bwysig.
Er bod Cymru wedi gwneud ymrwymiad cryf i hawliau plant, a bod fframwaith deddfwriaethol yn dod i’r amlwg yn y cyswllt hwnnw, mae rhagor o waith i’w wneud, ac nid yw CCUHP wedi’i ymgorffori’n llawn eto i ddeddfwriaeth Cymru. Ar ben hynny, gwyddom nad yw’r profiad o hawliau plant yn gyson, a bod plant o rai grwpiau yn wynebu rhwystrau sylweddol ac anghymesur wrth geisio cyrchu eu hawliau.
Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar barhau i bwyso am gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol hwnnw, lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad at hawliau, a hefyd cau’r bwlch rhwng hawliau ar bapur a phrofiadau bywyd plant.
Ein Hamcanion Strategol (2026–2029)
Amcan Strategol 1: Estyn allan ymhellach at holl Blant Cymru (Yma i Bob Plentyn)
Canlyniad: Erbyn 2029, bydd mwy o blant yn ymwybodol o Gomisiynydd Plant Cymru a’i swyddfa a beth mae’r swyddfa’n ei wneud.
Byddwn ni’n:
- Cryfhau ein cyfathrebu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’n gwahanol swyddogaethau, gan gynnwys llwybrau cyngor a chymorth
- Ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ledled Cymru, gan dargedu cymunedau lle nad oes cyswllt digonol, gan gynnwys plant â phrofiad o ofal, plant anabl, a phlant o gymunedau ethnig lleiafrifol
- Parhau i sicrhau bod ein gwaith cyfranogiad yn ddiogel, yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn ystyrlon
- Dangos i blant sut mae eu barn a’u profiadau wedi llywio a dylanwadu ar ein gwaith ninnau a pholisi ac ymarfer ehangach
Sut bydd llwyddiant i’w weld:
- Bydd plant o bob cefndir yn dweud eu bod yn gwybod pwy yw’r Comisiynydd, beth yw pwrpas ei swyddfa, ac yn teimlo’n hyderus i ymgysylltu â ni
- Bydd cyfranogiad plant a phobl ifanc wedi’i wreiddio ar draws ein holl waith, ac yn llywio ein safbwyntiau polisi yn effeithiol
- Adlewyrchir barn plant yn amlwg mewn polisi ehangach, ymarfer, a thrafodaethau cyhoeddus
Amcan Strategol 2: Cefnogi Hawliau Plant yn Ymarferol (Arwr Hawliau)
Canlyniad: Erbyn 2029, bydd mwy o blant a theuluoedd yn gallu cyrchu cymorth, cyngor a chefnogaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru pan fydd angen hynny arnyn nhw, a byddan nhw’n deall llwybrau ehangach at gyngor a chymorth.
Byddwn ni’n:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth cyngor a chymorth, gyda ffocws cryf ar hygyrchedd a chwmpas
- Gwneud defnydd effeithiol o’n tystiolaeth, data gwaith achosion, a phrofiadau bywyd plant i ganfod rhwystrau systemig i hawliau
- Herio darparwyr gwasanaeth a chyrff cyhoeddus lle bynnag mae perygl i hawliau plant
- Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys darparwyr cyngor eraill, i gynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau at gyngor a chymorth, amlygu problemau systemig, a hybu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant
Sut bydd llwyddiant i’w weld:
- Bydd plant ac oedolion yn fwy ymwybodol o’r gwasanaeth cyngor a chymorth, a bydd gwaith achosion cynyddol yn deillio o hynny.
- Bydd plant ac oedolion yn deall yn gliriach pryd dylen nhw gysylltu â ni a phryd dylen nhw gysylltu â darparwyr cyngor a chymorth eraill.
- Bydd ein hymyriadau’n arwain at well cefnogaeth i blant a pharch at hawliau plant.
Amcan Strategol 3: Defnyddio Lleisiau a Phrofiadau Plant i Sbarduno Gwelliant mewn Ymarfer Lleol a Rhanbarthol (Goleuo’r Gwir)
Canlyniad: Erbyn 2029, bydd gwasanaethau lleol a rhanbarthol yn gwella sut maen nhw’n parchu, yn diogelu ac yn gwireddu hawliau plant.
Byddwn ni’n:
- Defnyddio profiadau bywyd plant, gwaith achosion, a thystiolaeth i nodi patrymau a phroblemau systemig.
- Cryfhau ymgysylltiad ag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, a chyrff cyhoeddus eraill.
- Rhannu tystiolaeth berthnasol yn rheolaidd gyda chyrff cyhoeddus ynghylch beth sy’n gweithio i blant a beth sydd ddim.
- Datblygu ein pecyn offer hunanasesu ar gyfer hawliau plant er mwyn helpu sefydliadau i fonitro eu cynnydd tuag at roi dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant ar waith.
- Cefnogi gwasanaethau i ddeall hawliau plant yn well a’u cymhwyso yn eu harferion rheolaidd.
Sut bydd llwyddiant i’w weld:
- Bydd cyrff cyhoeddus yn arddangos arferion gwell, wedi’u llywio gan brofiadau plant.
- Bydd gwasanaethau lleol yn gwneud newidiadau mewn ymateb i’n canfyddiadau ac argymhellion cenedlaethol.
- Bydd plant yn profi gwasanaethau mwy cyson, sy’n parchu hawliau, ledled Cymru.
Amcan Strategol 4: Gwneud Hawliau a Lleisiau Plant yn Flaenoriaeth (Heriwr)
Canlyniad: Erbyn 2029, bydd yn amlwg bod hawliau plant yn cael blaenoriaeth a bydd penderfyniadau ar lefel genedlaethol yn cael eu llywio’n briodol gan gyfranogiad plant a phobl ifanc.
Byddwn ni’n:
- Parhau i alw am ymgorffori CCUHP yn llawn yn neddfwriaeth Cymru, a chryfhau annibyniaeth ein swyddfa.
- Monitro a dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru trwy lens hawliau plant, gan gynnwys monitro cydymffurfiaeth â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a’r Cynllun Hawliau Plant, a defnydd o Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant (CRIAs).
- Eiriol o blaid ffocws manylach ar blant a phobl ifanc gan gyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a glynu’n nes at CCUHP.
- Canolbwyntio’n benodol ar ddyletswydd Awdurdodau Lleol i gefnogi cyfranogiad plant mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
- Canolbwyntio ar bump o flaenoriaethau thematig:
- Tlodi plant
- Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
- Diogelu a Rhianta Corfforaethol
- Mynediad at addysg
- Taclo gwahaniaethu a bwlio
- Cyhoeddi argymhellion clir, seiliedig ar dystiolaeth, ac olrhain cynnydd yn eu herbyn.
Sut bydd llwyddiant i’w weld:
- Bydd hawliau a lleisiau plant yn weladwy mewn cyfreithiau, polisïau, trafodaethau cyhoeddus a phenderfyniadau strategol.
- Bydd cyrff cyhoeddus yn arddangos mwy o ffocws ar blant a phobl ifanc a gwell ystyriaeth a chydnawsedd yng nghyswllt CCUHP a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
- Bydd llwybr clir wedi’i fapio at ymgorffori CCUHP yn llawn.
- Bydd ein hargymhellion yn arwain at newid parhaus, mesuradwy.
Ein Sbardunau Sefydliadol
Ar draws pob blaenoriaeth, byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn cryfhau ein:
- Gwelededd – sicrhau bod plant a’r oedolion sy’n eu cefnogi yn gwybod pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a sut i’n cyrraedd.
- Hygyrchedd – dileu rhwystrau i ymgysylltiad, cyngor neu gymorth.
- Amrywiaeth a chynhwysiant – adlewyrchu profiadau holl blant Cymru.
- Cysylltiad â’n pwrpas ac â’n gilydd – cynnal ein cysylltiad fel tîm a’n seiliau, sef hawliau plant a’u profiadau bywyd.
- Defnydd o dystiolaeth – gwneud y defnydd gorau posibl o’n data gwaith achosion, cipolygon yn sgîl ymgysylltu, a lleisiau plant.
Ein Hymrwymiad
Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd Comisiynydd Plant Cymru yn eiriolydd cryf, gweladwy ac annibynnol dros hawliau plant — gan herio lle bydd angen, a chydweithio lle bydd modd, a bydd yn dilyn arweiniad lleisiau, profiadau a lles pennaf plant a phobl ifanc bob amser.
Ein Hatebolrwydd
Er mwyn bod yn atebol ac yn dryloyw ynghylch ein cynnydd, byddwn ni’n:
- Cyhoeddi diweddariadau blynyddol ar sail y strategaeth hon
- Olrhain cynnydd yn erbyn canlyniadau ac argymhellion clir
- Adrodd yn gyhoeddus am newidiadau a gyflawnwyd a heriau sy’n parhau
- Defnyddio adborth gan blant, pobl ifanc, a rhanddeiliaid i wella ein gwaith yn barhaus
