Gwrth-fwlio – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Cyflwyniad

Yn ystod mis Mehefin 2025, gofynnwyd i blant a phobl ifanc am ddrafft newydd o ganllawiau gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau.

Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol. Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel os mae gan eu hysgol bolisi gwrth-fwlio, os mae fersiwn i blant a phobl ifanc a sut fyddent am ddysgu am bolisi gwrth-fwlio eu hysgol. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.

Atebodd 583 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 269 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 17 awdurdod lleol.

Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc

Oes gan dy ysgol bolisi gwrth-fwlio?

Oes (371) – 67%

Dwi ddim yn gwybod (151) – 27%

Nac oes (36) – 7%

Oes fersiwn i blant/bobl ifanc?

Dwi ddim yn gwybod (262) – 47%

Oes (225) – 41%

Nac oes (69) – 12%

Sut fyddet ti eisiau dysgu am bolisi gwrthfwlio dy ysgol? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Gwylio fideo amdano fe (317)

Gwasanaeth (287)

Chwarae gêm i helpu ti ddeall e (248)

Athro/athrawes yn esbonio fe (216)

Darllen e (190)

Trafod e gyda ffrindiau (160)

Trafod e gyda theulu (132)

Gwybodaeth ar wefan neu blatfformau digidol yr ysgol (121)

Nid oes gen i ddiddordeb yn hyn (67)

Rhywbeth arall (66)

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i rannu barn ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Wyt ti wedi rhannu dy farn o’r blaen ar bolisi gwrthfwlio yr ysgol, neu wedi cymryd rhan mewn ysgrifennu rheolau iddo?

Nac ydw (193) – 35%

Dwi ddim yn gwybod (185) – 34%

Ydw (173) – 31%

Beth wyt ti’n meddwl ddylai fod mewn polisi gwrth-fwlio sy’n gyfeillgar i blant? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Beth i wneud os rwyt ti’n cael dy fwlio (386) – 70%

Beth yw bwlio (309) – 56%

Beth dylai yr ysgol wneud os rwyt ti’n cael dy fwlio (300) – 55%

Beth i wneud os wyt ti ddim yn hapus gyda’r ffordd mae’r ysgol wedi delio gyda bwlio (295) – 54%

Beth i wneud os rwyt ti’n meddwl bod ti’n fwli (255) – 46%

Beth i wneud os mae dy ffrind yn cael eu bwlio (191) – 35%

Beth i wneud os rwyt ti’n cael dy fwlio arlein (186) – 34%

Pwy i siarad gyda yn yr ysgol os rwyt ti’n cael dy fwlio (183) – 33%

Gwybodaeth ar sut i gael help e.e. llinellau cymorth (183) – 33%

Rhywbeth arall (90) – 16%

Oes gen ti rywun yn dy ysgol y gallet ti siarad gyda nhw am fwlio?

Oes (409) – 73%

Dwi ddim yn gwybod (110) – 20%

Nac oes (39) – 7%

Pwy byset ti’n siarad gyda?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Athro / Athrawes
  • Ffrind / Ffrindiau
  • Athro / Athrawes wedi’i enwi’n benodol

Os oedd plentyn yn yr ysgol yn cael ei fwlio, beth fyddai’n helpu nhw fwyaf?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Dweud arnyn nhw / dweud wrth athro / dweud wrth oedolyn dibynadwy / dweud wrth ffrind / cysylltu gyda’r heddlu / dweud wrth riant / siarad â rhywun
  • Helpu nhw / bod yna iddyn nhw / gwneud yn siwr eu bod nhw’n iawn / cefnogaeth emosiynol / dweud wrth athro ar eu rhan / siarad â nhw
  • Dweud wrth y person i stopio bwlio’r person arall

Cwestiynau i athrawon

Sut fyddech chi eisiau dysgu am bolisi gwrth-fwlio eich ysgol?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Gwasanaethau
  • Gwersi
  • Mae plant eisiau helpu ni gyda’r polisi

Oes yna unrhyw help ychwanegol rydych chi’n meddwl bod angen ar athrawon o ran bwlio?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Na (mae’r ysgol eisoes yn gwneud llawer o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o fwlio a sut i ddelio ag ef)
  • Mae staff yn anghyson gyda’u hymatebion i wybodaeth am fwlio
  • Mae athrawon yn dda am ddelio â bwlio/problemau

Casgliadau

Roedd nifer sylweddol o blant (27%) yn amymwybodol o bolisi gwrth-fwlio eu hysgol ac doedd bron i hanner (47%) ddim yn gwybod a oedd fersiwn i blant.

Sgoriodd fformatau rhyngweithiol yn uchel gan blant pan ofynnwyd iddynt sut hoffen nhw ddysgu am bolisi gwrth-fwlio eu hysgol, gyda 56% yn galw am fideos esboniadol, dros hanner (51%) eisiau cyflwyniadau mewn gwasanaeth a 44% yn awgrymu gemau sy’n eu helpu i ddeall y polisi.

Dywedodd ein data hefyd fod nifer o bobl ifanc (35%) yn meddwl t dylai polisi gwrth-fwlio gynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n fwli. Mae’n amlwg bod y wybodaeth ar gyfer y math hwn o gefnogaeth ar goll o’r canllawiau diweddaraf.

Yn ogystal â’n holiadur, rydyn ni hefyd wedi cyfarfod â grwpiau o bobl ifanc i glywed eu barn ar y canllawiau newydd ac ar fesurau gwrth-fwlio cyfredol. Mae themâu trafod wedi cynnwys:

  • sicrhau bod y canllawiau’n rhoi sylw cyfartal i bob dysgwr
  • sicrhau cefnogaeth gyson mewn ysgolion
  • cymryd bwlio o ddifrif
  • cymorth i rieni ar gefnogi pobl ifanc
  • rôl rhieni

Bydd y Comisiynydd yn rhannu barn plant gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o’u hymgynghoriad ar ganllawiau newydd.