Gwisg ysgol – Medi 2025
Cyflwyniad
Yn ystod mis Medi gofynnon ni i blant a phobl ifanc am eu gwisg ysgol.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 676 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol, a 583 fel rhan o grwp. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 20 awdurdod lleol.
Cwestiynau i bawb
Ydych chi’n meddwl bod gwisg ysgol yn bwysig?
Ydw (355) – 53%
Nac ydw (178) – 27%
Dydw i ddim yn gwybod (138) – 21%
Pam?
Roedd yr atebion yn cyfeirio’n bennaf at:
- diogelwch a gallu cael eich adnabod yn hawdd ar dripiau ysgol
- cynrychioli’r ysgol a chyfrannu at ymdeimlad o berthyn
- gwisg yn anghyfforddus
- gwisg yn cyfyngu ar hunanfynegiant
Pa un o’r rhain ydych chi’n cytuno fwyaf ag ef?
Mae fy ngwisg yn gyfforddus (272) – 41%
Mae fy ngwisg yn anghyfforddus (130) – 20%
Mae fy ngwisg yn gyfforddus iawn (116) – 18%
Mae fy ngwisg yn anghyfforddus iawn (79) – 12%
Dydw i ddim yn gwybod (62) – 9%
Pa un o’r rhain ydych chi’n meddwl sy’n wir i chi?
Mae fy rhieni/gofalwyr yn ei chael hi’n hawdd talu am bethau fel gwisg ysgol, bagiau, a phethau eraill sydd eu hangen arnaf ar gyfer yr ysgol – (269) – 40%
Dydw i ddim yn gwybod (251) – 31%
Mae fy rhieni/gofalwyr yn ei chael hi’n anodd talu am bethau fel gwisg ysgol, bagiau, a phethau eraill sydd eu hangen arnaf ar gyfer yr ysgol – (151) – 23%
Ydy disgyblion yn eich ysgol yn cael gwisgo crys-t heb fathodyn/logo’r ysgol arno?
Ydyn (458) – 68%
Nac ydyn (132) – 20%
Dydw i ddim yn gwybod (82) – 12%
Ydy disgyblion yn eich ysgol yn cael gwisgo siwmper/siaced heb fathodyn/logo’r ysgol arno?
Ydyn (352) – 54%
Nac ydyn (207) – 32%
Cwestiynau i bobl ifanc oedran uwchradd yn unig
Ydych chi erioed wedi cael stwr gan athro oherwydd yr hyn yr oeddech chi’n ei wisgo yn yr ysgol neu sut roeddech chi’n edrych?
Ie (116) – 57%
Na (86) – 43%
Pam ? (Gallwch ddewis cymaint o flychau ag y dymunwch)
Eitem o wisg ar goll (fel siaced neu dei) (70) – 60%
Gemwaith (59) – 51%
Gwisgo eitem anghywir o wisg (57) – 49%
Esgidiau (49) – 42%
Hyd sgert (40) – 34%
Côt anghywir (28) – 24%
Lliw gwallt / steil gwallt (26) – 22%
Sanau (26) – 22%
Colur / ewinedd (24) – 21%
Rhywbeth arall (9) – 8%
Pan fydd y tywydd yn wirioneddol boeth, oes gennych chi’r dewis i wisgo dillad oerach?
Ydw – pan ddywed y pennaeth ein bod ni’n cael caniatâd (149) – 74%
Na (40) – 20%
Ydw – pryd bynnag y dymunaf (8) – 4%
Dydw i ddim yn gwybod / Dw i’n newydd i’r ysgol hon (5) – 2%
Oes rheolau am esgidiau yn eich ysgol chi?
Oes (196) – 98%
Dydw i ddim yn gwybod (4) – 2%
Beth yw’r rheolau?
Dim ond esgidiau du y gallwch chi eu gwisgo (138) – 71%
Dim ond rhywbeth o’r rhestr mae’r ysgol yn ei rhoi i chi y gallwch chi ei wisgo (22) – 11%
Gallwch chi wisgo unrhyw esgidiau hyfforddi cyn belled â’u bod nhw’n ddu (19) – 10%
Dim ond esgidiau hyfforddi heb frand y gallwch chi eu gwisgo (11) – 6%
Rhywbeth arall (4) – 2%
Oes rhaid i’ch côt ysgol fod yn ddu?
Oes (108) – 53%
Nac oes (62) – 31%
Dydw i ddim yn gwybod (32) – 16%