Cyfranogiad yng Nghymru: O Egwyddorion i Ymarfer   

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau ond pa mor effeithiol mae’ hawl honno’n cael ei gwireddu ledled Cymru?

Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar drefniadau cyfranogiad ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Gan dynnu ar ymgysylltu ag awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol a phlant a phobl ifanc, mae’n darparu darlun cenedlaethol o sut mae dyletswyddau cyfranogiad yn cael eu cyflawni’n ymarferol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer rhagorol ac arloesol, tra hefyd yn nodi heriau allweddol o amgylch cysondeb, cynhwysiant, atebolrwydd ac adnoddau. Mae’n dod i’r casgliad, er bod gan Gymru fframwaith deddfwriaethol cryf ar gyfer cyfranogiad, bod angen gwaith sylweddol i sicrhau y gall pob plentyn a pherson ifanc ddylanwadu’n ystyrlon ar benderfyniadau, dim ots ble maen nhw’n byw.

Mae’r adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid i gryfhau cyfranogiad a sicrhau bod lleisiau plant yn arwain at newid gwirioneddol.

Darllenwch yr adroddiad llawn i ddysgu mwy am y canfyddiadau, enghreifftiau arfer da ac argymhellion ar gyfer cryfhau cyfranogiad plant a phobl ifanc ledled Cymru.