Bwyd – Hydref 2025

Yn ystod mis Hydref, bwyd oedd pwnc ein Mater y Mis.
- Gofynnon ni gwestiynau i blant mewn ysgolion cynradd am eu hoff lysiau a sut maen nhw’n hoffi eu bwyta. Rhannon ni eu hatebion gyda Synnwyr Bwyd Cymru i’w helpu yn eu gwaith o gael mwy o lysiau lleol a thymhorol mewn ciniawau ysgol.
- Gofynnon ni gwestiynau i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd am gost prydau ysgol.
Roedd y holiaduron yn rhan o gyfres o gwestiynau amserol rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc yn fisol i glywed eu barn ar amrywiaeth o faterion, o’r enw Mater y Mis. Rhannon ni’r holiaduron yn uniongyrchol gyda phob ysgol sydd wedi cofrestru ar gyfer ein cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o’r pecyn dosbarth, roedd fideo i blant a phobl ifanc yn cyflwyno’r pwnc. Roedd gan ysgolion a grwpiau ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc naill ai ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro neu arweinydd grŵp gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp trwy ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
- Atebodd 558 o blant yr holiadur ysgol gynradd yn unigol, a 638 fel rhan o grŵp.
- Atebodd 409 o bobl ifanc yr holiadur ysgol uwchradd yn unigol, a 370 fel rhan o grŵp.
Holiadur ysgol gynradd
Dim ond un cwestiwn a ofynnwyd i blant ysgol gynradd:
Beth yw eich hoff lysieuyn, a sut ydych chi’n hoffi ei fwyta? (Er enghraifft sut rydych chi’n ei hoffi wedi’i goginio (neu efallai eich bod chi’n ei hoffi’n amrwd!) neu unrhyw beth arall rydych chi am ei ddweud wrthym am sut rydych chi’n hoffi bwyta eich hoff lysieuyn)
Yr atebion mwyaf poblogaidd oedd:
- Moron, fel arfer fel yn amrwd. Roedd plant hefyd yn mwynhau moron wedi’u berwi, eu rhostio, neu gyda mêl.
- Ciwcymbr, fel arfer yn amrwd, mewn salad, neu wedi’i dorri’n ffyn.
- Tatws, gan gynnwys tatws stwnsh, sglodion, tatws rhost, wafflau, a thatws wedi’u siacio
- Brocoli, a goginio, berwi, stemio, neu rostio fel arfer.
Holiadur ysgol uwchradd
Wyt ti’n cael cinio ysgol neu frechdanau?
Ciniawau ysgol – 161 (42%)
Y ddau – 129 (33%)
Brechdanau – 98 (25%)
Wyt ti’n cael cinio ysgol am ddim?
Na – 241 (83%)
Ydw – 32 (11%)
Ddim yn siŵr – 16 (6%)
Pam wyt ti’n dod â brechdanau? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Rhatach – 137 (32%)
Ddim yn hoffi bwyd ysgol / yn well gen i ginio pecyn – 74 (18%)
Iachach – 71 (17%)
Mae rhieni’n dweud wrtha i – 39 (9%)
Rhy brysur gyda chlybiau i gael bwyd ysgol – 25 (6%)
I reoli alergeddau – 7 (2%)
I bobl ifanc sy’n cael cinio ysgol am ddim – Wyt ti’n gallu prynu bwyd pryd bynnag rwyt ti moyn? (ee. snac yn y bore)
Ydw – 11 (39%)
Na – 7 (61%)
I bobl ifanc sy’n cael cinio ysgol am ddim – Os nad wyt ti’n gwario dy holl arian mewn un diwrnod, ydy’r arian yn aros yn dy gyfrif (account) fel dy fod ti’n galu gwario fe ar ddiwrnod arall?
Na – 10 (56%)
Ydw – 8 (44%)
I bobl ifanc sy’n cael cinio ysgol am ddim – Wyt ti’n talu am fwyd yn yr un modd a phawb arall? (Wyt ti’n talu am fwyd yn yr un ffordd â phawb arall?)
Ydw – 16 (89%)
Nac ydw – 2 (11%)
I bobl ifanc sy’n cael cinio ysgol am ddim – Ydy’r arian/credyd rwyt ti’n cael am ginio ysgol am ddim yn ddigon i fwyta’n dda?
Ydw – 10 (59%)
Nac ydw – 7 (41%)
Pa mor glir yw’r prisiau yn ffreutur yr ysgol?
Aneglur iawn – 48 (27%)
Eithaf clir – 44 (27%)
Ychydig yn aneglur – 44 (27%)
Eglir iawn – 13 (8%)
Ddim yn gwybod – 12 (8%)
Pa mor aml ydych chi’n llwglyd yn yr ysgol?
Weithiau – 89 (56%)
Llawer – 44 (28%)
Bob amser – 15 (10%)
Byth – 10 (6%)
Wyt ti’n gwybod faint sydd gennyt ti i wario pob wythnos ar fwyd?
Ydw – 69 (35%)
Nac ydw – 45 (23%)
Weithiau – 16 (12%)
Faint o arian ydych chi’n meddwl y byddai ei angen ar rywun bob dydd i gael prydau bwyd iach a boddhaol yn yr ysgol?
Cwestiwn agored oedd hwn gydag ymateb cyfartalog o £5.50
Oes gennyt ti ddigon o arian i fwyta popeth rwyt ti eisiau bwyta pob dydd yn yr ysgol?
Ydw – 99 (77%)
Nac ydw – 30 (23%)
Wyt ti wedi cael dy wrthod bwyd o’r blaen achos bod dy gyfrif (account) mewn dylid (debt)?
Nac ydw – 70 (54%)
Ydw – 45 (35%)
Ddim yn gwybod – 15 (12%)
Oes gennyt ti ddigon o amser i fwyta yn yr ysgol?
Ydw – 262 (68%)
Nac ydw – 81 (21%)
Ddim yn gwybod – 44 (11%)
Wyt ti’n gallu llenwi potel o ddwr am ddim yn yr ysgol?
Ydw – 348 (90%)
Ddim yn gwybod – 29 (8%)
Na – 8 (2%)
Cwestiwn i athrawon
Ydy staff yn yr ysgol erioed wedi dod â bwyd i’r ysgol i fwydo disgyblion sydd methu fforddio bwyd?
Ddim yn gwybod – 12 (57%)
Ydw – 8 (38%)
Na – 1 (5%)
Ymatebion grŵp
A oedd y grŵp yn teimlo bod prisiau’n glir yn y ffreutur?
Adlewyrchodd yr atebion:
- Prisiau yn aml ddim yn glir, neu ddim yn cael eu harddangos o gwbl
- Profiadau’n amrywio rhwng ysgolion
- Diffyg eglurder ar brisio yn effeithio ar allu disgyblion i benderfynu
Faint oedd y grŵp yn meddwl y byddai ei angen arnynt i fwyta’n dda yn yr ysgol, y dydd?
Adlewyrchodd yr atebion:
- Angen o leiaf £5 y dydd i fwyta’n dda
- Bwyd yn ddrud yn gyffredinol