Negeseuon E-bost a Gopïwyd i Gomisiynydd Plant Cymru

Negeseuon E-bost a Gopïwyd i Gomisiynydd Plant Cymru

O bryd i’w gilydd, rydym yn derbyn negeseuon e-bost yr ydym wedi cael copi ohonynt, er nad oes gennym unrhyw ran flaenorol yn y mater.

Bydd unrhyw ohebiaeth o’r fath yn cael ei hadolygu i benderfynu a yw’n codi pryder diogelu neu unrhyw fater arall sy’n gofyn am gamau gweithredu gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Os na nodir unrhyw bryder diogelu, ni fyddwn yn ymateb i’r ohebiaeth a bydd yr e-bost yn cael ei ddileu yn unol â’n rhwymedigaethau diogelu data.

Lle nodir pryder diogelu, efallai y byddwn yn cadw’r wybodaeth a chysylltu â’r anfonwr neu asiantaethau perthnasol yn ôl yr angen.