Hawliau Plant yng Nghwricwlwm Cymru 2022

Beth yw addysg hawliau dynol?

Thema drawsbynciol yn ein cwricwlwm newydd yng Nghymru yw addysg hawliau dynol. Mae addysg hawliau dynol yn golygu bod oedolion a phlant yn:

  • dysgu am hawliau plant
  • dysgu trwy hawliau plant
  • dysgu er mwyn defnyddio hawliau plant

Mae hyn yn golygu bod plant ac oedolion yn gwybod ac yn deall eu hawliau dynol, yn profi eu hawliau dynol o fewn eu haddysg, ac yn cael eu grymuso â’r sgiliau i bleidio dros eu hawliau nhw a hawliau pobl eraill.

Sut maw hawliau plant yn cyd-fynd â’r cwricwlwm?

Mae datblygu dealltwriaeth o hawliau wedi cael ei integreiddio yn nisgrifiadau Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau ac Iechyd, ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Mae anghenion ehangach y cwricwlwm yn gosod addysg hawliau dynol fel thema drawsbynciol, ac yn nodi sut dylai dysgwyr profi eu hawliau cyfranogol mewn dylunio’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon.

Mae’n bwysig i nodi bod hawliau dynol plant ar wyneb y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, sy’n dweud bod angen i bob aelod o staff sydd â rôl mewn cyflawni nodau’r cwricwlwm i ddatblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol plant o dan ddau gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig:

– Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP/UNCRC)

– Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA/UNCRPD)

Mae’r CCUHP yn cyflwyno hawliau dynol plant. Mae’r CCUHPA yn cyflwyno beth mae hawliau yn eu golygu i bobl gydag anableddau, yn cynnwys plant gydag anableddau. Mae’r ddau gonfensiwn yma hefyd yn hanfodol i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Bydd ein hadnoddau a chanllaw yn helpu arweinwyr a staff addysg i gyflawni’r nodau yma:

Darllenwch Fap Hawliau’r Cwricwlwm

Larlwythwch ein fframwaith hawliau plant ar gyfer ysgolion

Dysgwch fwy am ein cynlluniau hawliau plant