Beth yw hawliau plant?
Mae gan blant a phobl ifanc 42 hawl dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r 42 hawl yma yn cynnwys y pethau mae angen ar blant i dyfu yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Os hoffech chi ddarllen mwy am hawliau unigol plant a phobl ifanc:
Dull Hawliau Plant
Mae nifer o gyrff cyhoeddus ar draws Cymru wedi dechrau defnyddio Dull Hawliau Plant yn eu gwaith i’w helpu i integreiddio hawliau plant i bob agwedd ar lunio penderfyniadau, polisi ac ymarfer.
Mae Dull Hawliau Plant yn helpu sefydliadau i:
- flaenoriaethu hawliau plant yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd i wella bywydau plant
- sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd i wneud yn fawr o’u doniau a’u potensial
- roi gwybodaeth ac adnoddau i blant i’w galluogi i fanteisio’n llawn ar eu hawliau
- roi yfleoedd ystyrlon i blant ddylanwadu ar benderfyniadau am eu
bywydau - fod yn atebol i blant am eu penderfyniadau, ac am ganlyniadau sy’n effeithio ar fywydau plant
Dechreuwch ddefnyddio Dull Hawliau Plant yn eich gwaith
Dysgwch fwy am hawliau ac am Ddull Hawliau Plant
Mae ein tîm cyfranogiad yn cynnig hyfforddiant am ddim i sefyliadau yng Nghymru.
Os oes diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am hawliau plant a sut gall Dull Hawliau Plant eich helpu yn eich gwaith, anfonwch neges i ni!
Cyngor hawliau plant
Os rydych chi’n teimlo bod plentyn rydych chi’n gweithio gyda nhw ddim yn derbyn eu hawliau, cysylltwch gyda’n tîm Cyngor.
Mwy o wybodaeth