Cyngor i Rieni a Gofalwyr

PWYSIG: Os ydych yn ffonio mewn argyfwng, neu os yw plentyn, person ifanc neu unrhyw un arall mewn perygl, ffoniwch 999

Manylion Cyswllt

Cysyllyta gyda ni’n RHAD AC AM DDIM

Ffôn: 01792 765600

Rhadffôn: 0808 801 1000

Ebost

Mae’r tîm cyngor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 4yp

Rhai materion y gallwn ni helpu eich gyda   

Er ein bod yn ceisio eich helpu gydag unrhyw faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, mae meysydd rydym yn aml yn helpu gyda nhw yn cynnwys: 

  • Hawliau addysgol  
  • Gwasanaethau cymdeithasol  
  • Mynediad iechyd  
  • Cwynion

Er bod llawer o bethau y gallwn ni eich helpu chi gyda, ni allwn eich helpu gyda popeth.   

Ni allwn:  

  • Ymyrryd ag unrhyw achosion cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys a phenderfyniadau a wneir gan CAFCASS Cymru  
  • Ymyrryd â materion yr heddlu  
  • Cynnig gwasanaeth brys  
  • Cynnig gwasanaeth cwnsela ein hunain  
  • Cymryd rhan mewn materion eraill sydd heb eu datganoli

Pwy gallwn ni helpu

Rydyn ni’n gallu cynnig help sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed, neu hyd at 21 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal, neu hyd at 25 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal ac maen nhw’n dal ym myd addysg.

Ein pwerau cyfreithiol

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ein pwerau cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma.

Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydych yn rhoi i ni

Byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod beth rydyn ni’n ei glywed yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael niwed – os felly, byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn. 

Darllenwch fwy am beth rydyn ni’n gwneud gyda’ch wybodaeth bersonol

Gwneud cwyn amdanom ni

Mae modd gwneud cwyn amdanom ni ar y dudalen yma.