Cyflwyniad

Pwrpas yr adnodd yma yw helpu pobl ifanc i greu newid.

Mae’r adnodd yma i’ch helpu i godi ymwybyddiaeth am yr hyn sy’n bwysig i chi, i newid rhywbeth yn eich cymuned leol, ac i feddwl am bwy sydd yna i’ch helpu a sut gallwch chi weithio gyda nhw er mwyn creu newid positif.

Gwybodaeth i oedolion sy’n cefnogi pobl ifanc

Os ydych chi’n oedolyn sy’n cefnogi person ifanc i ddefnyddio’r adnodd yma, rydyn ni wedi paratoi’r wybodaeth yma i’ch helpu.

Darllenwch ein gwybodaeth ar gyfer oedolion sy’n cenfogi pobl ifanc i ddefnyddio’r adnodd

Rydyn ni wedi rhannu’r adnodd i bedair rhan gwahanol:

Creu grwp

Cael gwybodaeth

Byddwch yn greadigol

Codi llais

GYDA’N GILYDD: Creu cyngor ysgol uwchradd gryf sy’n cynrychioli pawb

Rydyn ni wedi creu’r adnodd hwn i helpu pob grŵp o bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd gan gynnwys cyngor ysgol.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi gwestiwn am yr adnodd, neu unrhywbeth arall sy’n ymwneud â’n gwaith, croeso i chi gysylltu gyda ni.