Gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd 2022

Gweithgareddau ar faes yr Eisteddfod

Dewch draw i’n gweld ni yn ein tipi drws nesaf i bentref Mr Urdd. Fe fyddwn ni ar y maes o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae gyda ni llwyth o weithgareddau hwyl a sbri i blant a phobl ifanc – o greu gwaith celf, chwarae yn ein cornel chwarae, adeiladu ty a chymryd rhan mewn gemau adloniant tu allan i’n tipi.

Mae’r gweithgareddau yma’n gyfle i blant a phobl ifanc ddod i adnabod eu hawliau.

Byddwn yn cynnal gwahanol gweithgareddau yn ystod yr wythnos ac ar Ddydd Mawrth a Ddydd Mercher fe fydd cyfle i blant Cymru gwrdd a’r Comisiynydd – Rocio Cifuentes.

 *Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal bob dydd*

Gweithgareddau i blant o dan 7 oed:

Y Tri Mochyn Bach – Fe fyddwn yn adrodd stori’r Tri Mochyn Bach a fel gweithgaredd i’r stori fe fydd cyfle i blant adeiladu ty i’r moch bach.

Gweithgaredd Cyfatebol – Ar gyfer y gweithgaredd hwn mae angen i blant baru rhannau o gorff y plismon a’r parafeddyg. Mae’r gweithgaredd hwn yn dangos sut mae’r plismon a’r parafeddyg yn cadw plant yn ddiogel.

Tŷ Hapus – Mae’r gweithgaredd hwn yn gyfle i blant feddwl am y pethau sy’n gwneud iddynt i deimlo’n hapus. Byddant yn ysgrifennu neu yn tynnu llun o’r pethau sydd yn gwneud iddynt i deimlo’n hapus ar ddarn o bapur ac yna’n pegio’u hatebion ar y tŷ.

Picnic Tedi – Mae Tedi eisiau mynd am bicnic. Tasg y plant yw i greu picnic iach i Tedi drwy ddefnyddio toes neu i dynnu llun o’r picnic ar blat papur.

Gweithgareddau i blant rhwng 7-11 oed ac i fobl ifanc rhwng 11-16 oed:

Corff Hawliau – Mae’r gweithgaredd hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc feddwl am pethau sydd angen arnynt i dyfu fyny i deimlo’n hapus, iach a diogel ac ychwanegu eu rhestr at y corff sydd wedi’i dylunio ar eu cyfer.

Hunaniaeth – Ar gyfer y gweithgaredd hwn mae angen i blant a phobl ifanc dynnu llun o’i hunain a chynnwys pethau sy’n cynrychioli eu hunaniaeth.

Stori’r Crys-t – Tasg y plant a phobl ifanc yw rhoi trefn ar sut mae crys-t cotwm yn cael ei wneud.  Bydd angen iddynt osod y lluniau yn y drefn cywir a’u pegio ar y lein ddillad.

Adnoddau ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)

O fewn ein tipi mae gyda ni loches synhwyraidd i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.