Cyd-destun a diffiniadau
Yng Nghymru, mae gennym ni ganllawiau i gefnogi diogelu plant a phobl ifanc, fel y nodwyd yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Adolygiadau Ymarfer Plant (CPRs): Cynhelir yr adolygiadau hyn o dan amgylchiadau lle ceir digwyddiad sylweddol, ac mae amheuon neu wybodaeth ynghylch cam-drin neu esgeuluso plentyn.
Byrddau Diogelu Rhanbarthol (RSBs): Mae chwe bwrdd yng Nghymru. Mae gan y Byrddau hyn gyfrifoldeb statudol i gynnal Adolygiadau Ymarfer Plant amlasiantaeth, a sbarduno SUSRs.
Bwrdd Diogelu Cenedlaethol (NISB): Disgrifir hwn fel bwrdd cynghorol, sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch diogelu pobl yng Nghymru, ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol i sicrhau gwelliannau cyson i bolisi ac ymarfer diogelu ledled Cymru.
Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig (SUSRs): daeth hyn i rym ar 1 Hydref 2024; dyma’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae’r broses hon yn cyfuno Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Llofruddiaeth Ddomestig ac Adolygiadau Llofruddiaeth Iechyd Meddwl o dan un ymbarél.
Llinellau Amser
Ein swyddfa ni oedd y gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, ac fe’i sefydlwyd i ddiogelu a hybu hawliau a lles plant yng Nghymru. O ganlyniad, mae diogelu plant wedi bod yn ffocws canolog i’n gwaith dylanwadu ers i’r sefydliad ddod i fodolaeth yn 2001. Dyma grynodeb o’r prif gerrig milltir (nid yw’r rhestr yn hollgynhwysol):
Mehefin 2004: Cyhoeddi Clywch, yr Ymchwiliad cyntaf a gynhaliwyd yn unol â phwerau’r Comisiynydd. Roedd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad yn cynnwys 31 o argymhellion; 16 ohonynt yn gyfrifoldeb uniongyrchol i Lywodraeth Cynulliad Cymru (fel y’i gelwid ar y pryd), ynghyd â chwech arall lle roeddent yn ymwneud yn sylweddol â datblygu canllawiau cysylltiedig neu’n cyflawni rôl noddwr. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhellion hyn a’u rhoi ar waith.
2012: Yn dilyn adroddiad cyd-arolygu damniol ynghylch gweithdrefnau amddiffyn plant Sir Benfro, cynhaliodd y Comisiynydd Plant ar y pryd archwiliad o weithrediad argymhellion Clywch gan awdurdodau lleol, gan nodi lefel dda neu resymol o gydymffurfiaeth â llawer o’r argymhellion.
2020: Cynhaliodd y Comisiynydd ar y pryd adolygiad o ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011 a’r Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd yn 2016. Amlygodd ddiffygion yn y gweithdrefnau ar gyfer rhannu a dysgu yn sgîl Adolygiadau Ymarfer Plant, ac argymell diweddariad sylweddol o’r canllawiau ar eu cyfer.
2020: Cyflwynodd y Comisiynydd ar y pryd dystiolaeth i’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA).
Isod rydym wedi amlinellu cerrig milltir allweddol yn ystod cyfnod Rocio Cifuentes fel Comisiynydd Plant. Nid rhestr hollgynhwysol yw hon, ond mae’n rhoi cipolwg ar sylfeini’r gwaith sy’n ymwneud â diogelu plant.
- Hydref 2022: Galwodd y Comisiynydd ar Lywodraeth Cymru i gydlynu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu i Gymru, yn dangos sut bydd y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn rhoi argymhellion Adroddiad Ymchwiliad IICSA ar waith. Roedd Adroddiad yr Ymchwiliad hwn yn cynnwys argymhelliad y dylid sefydlu corff newydd yng Nghymru – Awdurdod Amddiffyn Plant – i edrych ar sut mae grwpiau gweithgaredd, clybiau a sefydliadau crefyddol yn cadw plant yn ddiogel.
- Yn dilyn marwolaeth drasig Logan Mwangi yn 2021, cyflwynwyd argymhellion mewn Adolygiad Ymarfer Plant ynghylch sut dylai diogelu gael ei gryfhau ar lefel genedlaethol er mwyn rhoi gwell amddiffyniad i blant sydd mewn perygl o ddioddef niwed a chamdriniaeth.
- Mai 2022: fe wnaethon ni ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog ar y pryd yn nodi’n pryderon ynghylch y trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â dysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant, a gofyn barn Llywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd strwythurau a dulliau llywodraethu Cymru. Bu’r Comisiynydd hefyd yn cwrdd â Chadeirydd annibynnol Adolygiad Logan Mwangi a bwrdd diogelu CYSUR Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghylch Adolygiad Kaylea Titford.
- Wedi i Adolygiad Ymarfer Plant Cwm Taf Morgannwg gael ei gyhoeddi, cododd y Comisiynydd ei llais ynghylch pryderon parhaus. Ysgrifennwyd at Lywodraeth Cymru eto i rannu’r pryderon hyn, ac annog cynnwys y maes diogelu hwn mewn unrhyw adolygiad bydd LlC yn ei gynnal i feithrin hyder bod gennym ni strwythur atebolrwydd a llywodraethiant cadarn ar waith. Bu swyddogion hefyd yn cwrdd ag Arolygiaeth Gofal Cymru i helpu i lunio’u Hadolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant.
- Rhagfyr 2022: cwrdd â swyddogion LlC i ddysgu rhagor am broses yr Adolygiad Diogelu Sengl Unedig (SUSR)
- Mai 2023: cyflwynodd LlC broses yr SUSR ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; fe wnaethon ni ymateb a nodi’n eglur, er y bydd y cynigion yn golygu bod gwell trosolwg o’r argymhellion sy’n deillio o adolygiadau, bod lledaenu’r dysgu a monitro gweithrediad yr argymhellion yn dal i ddibynnu ar y strwythurau presennol. Doedden ni ddim yn hyderus y bydd SUSR yn mynd yn ddigon pell i ymateb i’n pryderon.
- 2023: cyhoeddwyd darnau allweddol o waith, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cenedlaethol wedi’i adnewyddu ar Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol; ymateb Llywodraeth Cymru i SUSR; adolygiad thematig o CPRs, a gomisiynwyd gan y Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol
- Cododd 81% o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau SUSR arfaethedig bryderon ynghylch llywodraethiant.
- Buon ni’n mynd ar ôl pryderon gyda Gweinidogion a swyddogion ar hyd y flwyddyn, yn ogystal â thrafod y mater gyda’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol ac mewn amrywiol weithgorau a gweithdai. Dyma oedd natur ein pryderon:
- Bod gwersi o Adolygiadau yn cael eu rhannu a chamau’n cael eu nodi ar sail Cymru gyfan, a phwy fydd yn gyfrifol am gyflawni hynny;
- Bod cynlluniau gweithredu a fwriadwyd i roi argymhellion Adolygiadau ar waith yn cael eu symud ymlaen a’u cyflawni, a phwy fydd â throsolwg ar hynny; a
- Bod argymhellion Adolygiadau yn cael eu llunio fel eu bod yn berthnasol i fwy na’r ardal ranbarthol sy’n cynnal yr Adolygiad; a all/sut gall byrddau unigol roi arweiniad i eraill ledled Cymru yn hyn o beth.
- 2024: cyhoeddwyd amrywiol CPRs, yn cynnwys Kaylea Titford a Lola James – mewn ymateb i’r Adolygiadau damniol hynny, buon ni’n codi droeon, yn gyhoeddus ac mewn cyfarfodydd, ein pryderon ynghylch digonolrwydd strwythurau llywodraethiant.
- 2024: roedd y broses SUSR newydd i fod i ddod i rym ym mis Ebrill 2024 – ni ddigwyddodd hynny. Ni wnaed y newidiadau a awgrymwyd gennym i Lywodraeth Cymru i gryfhau’r llywodraethiant a’r prosesau er mwyn sicrhau bod gwersi CPR yn cael eu dysgu’n ddigonol, er gwaethaf ein hymateb i’r ymgynghoriad, cyfarfodydd dilynol, a gohebiaeth gyda’r Dirprwy Weinidog. Bydd yn rhaid aros i weld pa mor effeithiol yw’r rolau a’r strwythurau newydd o dan yr SUSR, ond ni chawsom sicrwydd y byddai’r system yn addas i sicrhau y byddai pob ymarferydd ar draws ystod o asiantaethau yn clywed am faterion ymarfer oedd yn deillio o Adolygiadau ac yn rhoi sylw iddyn nhw. Roedden ni hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg mecanwaith y tu allan i’r Llywodraeth fel rhan o’r trefniadau llywodraethiant newydd.
- Hydref 2024: daeth y broses SUSR i rym. Ni dderbyniodd LlC y newidiadau a awgrymwyd gennym i’r broses. Bydd yn rhaid aros i weld pa mor effeithiol yw’r rolau a’r strwythurau newydd o dan yr SUSR, ond ni chawsom sicrwydd priodol y bydd y system yn addas; nid oedd mecanwaith y tu allan i’r Llywodraeth yn rhan o’r trefniadau llywodraethiant newydd, ac ni allem gyrchu’r Storfa newydd, fydd yn gartref i’r holl adroddiadau a chynlluniau gweithredu, er ein bod yn rhan o’r Grŵp Strategaeth a gynullwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Tachwedd 2024: Fe wnaethon ni ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch Canllawiau Gweithdrefnau Cwynion Ysgol y Llywodraeth, yn dilyn cais gan ein swyddfa am wybodaeth gan bob un o’r 22 awdurdod lleol ynghylch sut mae’r canllawiau hynny’n cael eu rhoi ar waith. Cychwynnwyd y gwaith hwn ar sail ein pryderon, oedd yn deillio o’n gwaith achosion, ynghylch cwynion addysg, rôl llywodraethwyr ysgol yn y broses honno, ac annigonolrwydd y canllawiau cyfredol. Yn dilyn y sylwadau hyn, cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau.
- Gorffennaf 2024: Dedfrydu’r prifathro, Neil Foden, am droseddau rhywiol lluosog yn Ysgol Friars, Gwynedd.
- Ionawr 2025: cynnal sesiwn bord gron gydag arolygiaethau Cymru a Llywodraeth Cymru i drafod pryderon diogelu parhaus yn deillio o achos Foden (Ysgrifennodd y Comisiynydd at ALl Gwynedd pan arestiwyd Foden ym mis Medi 2023 a gofyn am gyfarfod, ond gwrthodwyd hynny nes bod y treial wedi dod i ben. Ers mis Gorffennaf 2024, bu’r Comisiynydd mewn cyswllt rheolaidd â swyddogion uwch yr awdurdod lleol, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, i drafod eu Cynllun Ymateb.)
- Mawrth 2025: Derbyniodd y Comisiynydd a’i thîm wahoddiad gan Gyngor Gwynedd i fod yn arsylwyr gweithredol ar Fwrdd Rhaglen eu Cynllun Ymateb, a sefydlwyd i lywio cynllun ymateb yr awdurdod, a fabwysiadwyd gan Gyngor Gwynedd ym mis Ionawr 2025 i goladu’r holl gefnogaeth, adolygiadau, archwiliadau a llifoedd gwaith eraill oedd yn ymateb i droseddau Foden.
- 2025: Cyhoeddwyd blog yn edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn y chwe argymhelliad IICSA sy’n berthnasol i’r llywodraeth ddatganoledig. Buon ni’n cwrdd ag aelodau’r Senedd, Gweinidogion y Llywodraeth a swyddogion oedd yn ymwneud â’r pwnc, yn ogystal â rhai sefydliadau ffydd, byrddau diogelu a’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol.
- Daeth y system SUSR i rym. Rydyn ni’n rhan o’r Bwrdd Gweinidogol a’r Grŵp Strategaeth ar gyfer y gwaith hwn. Gwelwyd rhai datblygiadau i’w croesawu mewn perthynas â dechrau coladu ac adolygu adroddiadau ac argymhellion CPR blaenorol, ac olrhain themâu yn yr SUSRs newydd a gomisiynwyd.
- Mae angen rhoi sylw o hyd i rai meysydd llywodraethiant ehangach er mwyn sicrhau bod argymhellion yn rhai CAMPUS, ac yn cael eu gweithredu’n llawn yn brydlon, a hynny yn yr ardal ranbarthol a’u cyflwynodd, ond hefyd ar draws Cymru’n fwy cyffredinol.
- Mae potensial i ddatrysiadau technolegol sy’n cefnogi’r prosesau hyn, megis Storfa Ddiogelu Cymru o adroddiadau a’r traciwr Dangosfwrdd, sy’n monitro argymhellion, helpu gyda hyn, ond hyd nes bod mynediad priodol i’r darpariaethau newydd hyn, ni fydd eu manteision yn cael eu gwireddu, gan eu bod yn parhau’n gysyniadau yn hytrach nag offer hygyrch i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau perthnasol yng Nghymru.
- Medi 2025: Yn ein ‘Maniffesto i Blant a Phobl Ifanc’, fe wnaethon ni gyflwyno’r ymrwymiadau rydyn ni am eu gweld gan bleidiau gwleidyddol sy’n sefyll yn etholiadau’r Senedd 2026 dros blant a phobl ifanc. Yn y ddogfen honno amlygwyd unwaith yn rhagor, fel blaenoriaeth allweddol, ein pryder na fydd neb yn gwybod a gyflawnwyd argymhellion CPR neu SUSR i gadw plant yn ddiogel, oni bai bod mwy o drosolwg. Dyma oedd ein gofynion o ran y pleidiau gwleidyddol:
- Bod angen cyflawni argymhelliad IICSA i sefydlu Awdurdod Amddiffyn Plant
- Bod angen deddfwriaeth newydd i gau bylchau diogelu, fel bod modd bwrw golwg annibynnol ar sefydliadau crefyddol, a chlybiau chwaraeon digyswllt.
- Hydref 2025: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o fecanweithiau llywodraethiant ac atebolrwydd ar gyfer diogelu plant ac oedolion yng Nghymru, fydd yn archwilio:
- Rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol
- Ymwneud y cyrff hynny â’r arolygiaethau
- Effeithiolrwydd cyffredinol y trefniadau hynny i amddiffyn pobl rhag niwed
- Argymhellion i gryfhau llywodraethiant diogelu ymhellach yng Nghymru
- Hydref 2025: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion, fydd yn edrych ar: strwythur a rolau, effeithiolrwydd ac effaith, cefnogaeth a hyfforddiant, atebolrwydd a throsolwg, recriwtio a chadw, arfer gorau ac arloesi.
- Tachwedd 2025: Ymatebodd y Comisiynydd i gyhoeddi CPR Foden. Roedd yr adroddiad poenus yn pwysleisio’r nifer aruthrol o gyfleoedd a gollwyd i atal Foden rhag cam-drin plant. Droeon a thro, ni wrandawyd ar blant; methodd pobl â gweithredu pan ddylen nhw fod wedi gwneud, ac ni chawson nhw eu hamddiffyn gan y sefydliadau ddylai fod wedi gwneud hynny. Nid themâu newydd yw’r rhain. Themâu ydynt sy’n cyfateb i’r hyn rydyn ni, ac eraill, wedi’i amlygu ac wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru ac eraill i’w newid.
Argymhellion gennym ni ac eraill
Yn 2023, cyhoeddodd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn sylwadau terfynol ar weithrediad y Deyrnas Unedig o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan gyflwyno bron 200 o argymhellion ar gyfer gwella. Isod ceir crynodeb o’r argymhellion hynny sy’n ymwneud â’r gwaith hwn, ac sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru, sydd wedi datganoli:
- Cryfhau mesurau a luniwyd i daclo trais yn erbyn plant, gan gynnwys gweithredu argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol (IICSA)
- Sicrhau bod data yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi’n systematig ynghylch materion amddiffyn plant a thrais yn erbyn plant, i lywio gweithrediad strategaethau cenedlaethol ar drais a cham-drin plant yn rhywiol
- Yr angen am sicrhau bod systemau amddiffyn plant yn mynd ati i atal a rhoi sylw i achosion o gam-drin ac esgeuluso mewn modd a seiliwyd ar hawliau plant
Dyma grynodeb o’r argymhellion perthnasol rydyn ni wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn adroddiadau blynyddol olynol:
Adroddiad Blynyddol 2022/23
- Dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau sut bydd y cynigion SUSR yn sicrhau’n ddigonol bod yr hyn a ddysgir o adolygiadau ymarfer plant yn cael ei weithredu a’i fonitro
Adroddiad Blynyddol 2023/24
- Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y canllawiau SUSR yn rhoi sylw i’r pryderon sylweddol rydyn ni wedi’u codi ynghylch gweithredu argymhellion Adolygiadau yn gynhwysfawr ledled Cymru. Mae hynny’n cynnwys:
-
-
- Nodi’n benodol sut bydd gwersi o bob Adolygiad yn cael eu rhannu ar draws yr holl Fyrddau ac asiantaethau perthnasol yng Nghymru, a rôl pwy fydd gwneud hynny’n rhagweithiol
- Egluro pwy yn LlC fydd â throsolwg o’r cynlluniau gweithredu a fwriadwyd i roi argymhellion Adolygiadau ar waith, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu symud ymlaen a’u cyflawni, nid yn ardal y Bwrdd sy’n gyfrifol am yr Adolygiad yn unig, ond ledled Cymru, lle bo hynny’n berthnasol, a
- Nodi ai swyddogion LlC a/neu’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol Annibynnol fydd yn cynghori ar eiriad argymhellion Adolygiadau, er mwyn sicrhau eu bod wedi’u llunio’n briodol i sicrhau eu bod yn targedu’r corff neu’r cyrff cywir, heb fod yn berthnasol i ardal ranbarthol yr Adolygiad dan sylw yn unig. Mae hynny’n cynnwys argymhellion sy’n berthnasol yn genedlaethol, felly mae’n debygol y bydd angen rhywfaint o fewnbwn neu drosolwg annibynnol pellach.
-
Adroddiad Blynyddol 2024/25
-
- Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar frys i gynnal adolygiad o’r tirlun diogelu cyfredol, a’i fecanwaith atebolrwydd a llywodraethiant yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod bylchau a nodwyd yn derbyn sylw trwy gamau gweithredu newydd, gyda newid deddfwriaethol yn sylfaen i hynny yn ôl y galw
- Mae angen gweithredu adolygiad Blwyddyn Un o’r broses SUSR yn fuan, fel bod y canfyddiadau ar gael i’w derbyn a’u gweithredu cyn etholiad y Senedd yn 2026
- Mae angen gwaith pellach i wella atebolrwydd a llywodraethiant yng nghyswllt adolygiadau diogelu, er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru yn ymwybodol o’r gwersi a ddysgwyd trwy Adolygiadau ac yn eu rhoi ar waith. Mae’n rhaid i hynny ddechrau gyda mynediad ehangach i’r offer Storfa a Dangosfwrdd, a hynny fel mater o flaenoriaeth.
Y ffordd ymlaen
Mae hon yn adeg dyngedfennol i ddiogelu plant yng Nghymru.
Mae CPR Neil Foden yn dangos yn eglur, er gwaethaf y newidiadau i ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ar y cychwyn mewn ymateb i Ymchwiliad Clywch, bod y sefydliadau oedd yno i wneud hynny wedi methu ag amddiffyn plant. Nid yw rhoi rhai o’r canllawiau a’r gweithdrefnau hyn ar waith yn lleol yn ddigon da; nid yw’r trosolwg o weithredu’r canllawiau a’r gweithdrefnau hyn yn ddigon da.
Allwn ni ddim colli rhagor o gyfleoedd. Rhaid i’r adolygiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fynd rhagddynt