Diweddariad Prosiect Cynghorau Ysgol

Cynghorau Ysgol

Diweddariad i’r holl bobl ifanc a fu’n cymryd rhan yn ein gwaith ymchwil ar gynghorau ysgol (2019/2020)

Yn 2019 a 2020 fe fuon ni’n ymgynghori â phobl ifanc ac athrawon ynghylch sut mae pobl ifanc yn cael gwrandawiad mewn ysgolion uwchradd. Roedden ni eisiau gwybod beth oedd yn gwneud cyngor ysgol da, a pha heriau sy’n golygu bod sicrhau gwrandawiad yn fwy anodd i rai pobl ifanc.

Bu pobl ifanc ar ein Panel Ymgynghorol yn helpu i ddylunio’r prosiect hwn, a bu dros 7000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Efallai eich bod chi wedi cymryd rhan yn y ffyrdd canlynol:

  • trwy ateb ein Harolwg Addysg ar y Ffordd Gywir yn 2019;
  • mewn trafodaethau yn ein digwyddiadau i Lysgenhadon Myfyrwyr yn 2020;
  • trwy gael ymweliad ymgynghori o’n swyddfa;
  • trwy rannu astudiaeth achos am eich cyngor ysgol;
  • trwy ateb ein harolwg i gynghorau ysgol.

Bu gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr ysgol hefyd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Roedden ni’n bwriadu cyhoeddi ein canfyddiadau ddiwedd mis Mawrth 2020.  Ond wnaethon ni ddim cyhoeddi ein hadroddiad oherwydd bod ysgolion yn canolbwyntio ar y pandemig. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gwrando’n fanwl ar bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol am eu profiadau mewn ysgolion, i weld a allai fod yna amser da i gyhoeddi’r adroddiad. Ond oherwydd y pwysau mawr ar ysgolion yn ystod y flwyddyn hon, does yna ddim adeg dda i gyhoeddi wedi bod.

Fodd bynnag, rydyn ni’n bwriadu diweddaru ein hadroddiad yn 2021, a’i gyhoeddi eleni. Os hoffech chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau am hynny, anfonwch e-bost aton ni.

Yn y cyfamser, gallwch chi ddefnyddio’r pecyn offer y gwnaethon ni ei greu gyda phobl ifanc fel rhan o’r prosiect yma, Gwneud Gwahaniaeth – Canllaw Person Ifanc i Greu Newid

Fe wnaethon ni greu’r pecyn offer yma mewn ymateb i’r blaenoriaethau bu pobl ifanc yn eu rhannu gyda ni yn ein hymgynghoriad. Mae’n cefnogi’r holl bobl ifanc i gymryd camau cadarnhaol ynghylch y materion sy’n bwysig iddyn nhw.