Darlith y Comisiynydd ar ddatganoli

Beth mae datganoli wedi cyflawni i blant yng Nghymru?

I nodi mis olaf yr Athro Sally Holland fel comisiynydd plant Cymru, rydyn ni’n cynnal darlith lle bydd Sally’n trafod beth mae datganoli wedi cyflawni i blant a phobl ifanc Cymru.

Ar ôl gwario saith mlynedd yn y swydd, wedi gweithio gyda degau o filoedd o blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod a wedi llwyddo llywio newid ar lefel leol a chenedlaethol, fe fydd Sally’n archwilio’r rwystrau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru a rôl y comisiynydd plant yn ystod adeg lle bod angen, mwy nag erioed, sicrhau fod plant wrth wraidd pob penderfyniad.

Fe fydd yn ddiwgyddiad rhithiol, hygyrch, dwyieithog, gyda chyflwyniad oddi wrth Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru. Aelodau o banel ymghynghorol o bobl ifanc y comisiynydd fydd yn cadeirio’r digwyddiad ac yn hwyluso sesiwn o holi ac ateb i gloi.

I gofrestri’ch diddorddeb i fynychu ar 4 Ebrill 2022 am 4.30pm, dilynwch y cyfarwyddiadau gan glicio ar y linc isod.

Darlith y Comisiynydd ar ddatganoli