Cyngor i Weithwyr Proffesiynol

PWYSIG: Os ydych yn ffonio mewn argyfwng, neu os yw plentyn, person ifanc neu unrhyw un arall mewn perygl, ffoniwch 999

Gwybodaeth am ein Gwasanaeth Cyngor

Mae ein Tîm Cyngor a Chymorth Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim sydd yno i gynghori a chynorthwyo plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Manylion Cyswllt

Cysyllyta gyda ni’n RHAD AC AM DDIM

Ffôn: 01792 765600

Rhadffôn: 0808 801 1000

Ebost

Mae’r tîm cyngor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 4yp

Pwy allwn ni helpu

Gallwn ddarparu cymorth neu gyngor yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed, neu 21 os ydynt wedi cael profiad o ofal, neu hyd at 25 os ydynt wedi cael profiad o ofal a dal mewn addysg.

Rhai materion y gallwn ni eich helpu gyda   

Er ein bod yn ceisio eich helpu gydag unrhyw faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, mae meysydd rydym yn aml yn helpu gyda nhw yn cynnwys: 

  • Hawliau addysgol  
  • Gwasanaethau cymdeithasol  
  • Mynediad iechyd  
  • Cwynion

Beth na allwn ni eich helpu gyda

  • Ymyrryd ag unrhyw achosion cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys a phenderfyniadau a wneir gan CAFCASS Cymru  
  • Ymyrryd â materion yr heddlu  
  • Cynnig gwasanaeth brys  
  • Cynnig gwasanaeth cwnsela ein hunain  
  • Cymryd rhan mewn materion eraill sydd heb eu datganoli

Datgelu Camymarfer

Datgelu Camarfer yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth ynghylch rhywbeth drwg sy’n digwydd. Yn nodweddiadol (er nad o reidrwydd) bydd hyn yn rhywbeth maen nhw wedi’i weld yn y gwaith.

I gael ei gynnwys o dan gyfraith datgelu camarfer, rhaid i’r datgeliad fod yn ‘ddatgeliad cymwys’, sef yn enghraifft o ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd, ym marn rhesymol y gweithiwr sy’n gwneud y datgeliad, yn digwydd er lles y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu oherwydd bod gennych chi amheuon ynghylch camarfer, perygl neu risg yn eich gweithle (neu eich gweithle blaenorol) sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i Gomisiynydd Plant Cymru, sy’n ‘berson rhagnodedig’. Does dim rhaid i chi fod wedi sôn wrth eich cyflogwr cyn cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.

Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o fwy na 60 o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr droi atynt y tu allan i’w gweithle i roi gwybod am gamarfer sy’n digwydd neu amheuon ynghylch camarfer. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn un o’r sefydliadau ar y rhestr honno.

Darllenwch ein canllaw Camymarfer

Cyfrinachedd

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o niwed – rydyn ni wedyn yn rhannu’r wybodaeth â sefydliadau eraill gall helpu i amddiffyn y plentyn.

Cysylltiad â phwerau cyfreithiol

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ein pwerau cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma.

Rhai deddfwriaeth allweddol

Gwneud cwyn amdanom ni

Os hoffech chi wneud cwyn amdanom, ewch i’n tudalen gwynion.