Cymwysterau a’r Camau Nesaf 2021

Mae cymwysterau’n cael eu dyfarnu’n wahanol yn haf 2021.  Mae’r dudalen yma’n rhoi gwybodaeth i chi am wahanol gymwysterau. Hefyd gallwch chi ddysgu sut mae cael cefnogaeth os ydych chi’n teimlo’n ansicr neu’n bryderus.

Cael cefnogaeth

Os rydych chi’n teimlo’n ansicr, yn anhapus, neu angen help ar gamau nesaf, mae llawer o bobl a sefydliadau sy’n gallu eich helpu a’ch cefnogi.

Meic

Gall Meic wrando arnoch chi os ydych chi’n pryderu, a’ch helpu i deimlo’n well.

Gallwch chi ffonio nhw neu sgwrsio â nhw ar-lein.

Dyma sut mae eu gwasanaeth yn gweithio.

CYSYLLTU Â MEIC

Childline

Gall Childline wrando ar eich pryderon a’ch helpu i ymdopi â nhw.

Dyma sut mae eu gwasanaeth yn gweithio.

CYSYLLTU Â CHILDLINE

Papyrus

Elusen genedlaethol yw Papyrus sy’n atal pobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig rhag lladd eu hunain. Maen nhw’n rhoi cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n brwydro gyda meddyliau am ladd eu hunain, ac i unrhyw un sy’n pryderu am berson ifanc.

MYND I’W TUDALEN

Mind

Mae’r elusen iechyd meddwl, Mind, wedi creu tudalen ar gyfer pobl ifanc sy’n pryderu am y coronafeirws ac sydd eisiau gwybod sut i ymdopi â newidiadau i’w bywydau.

MYND I’W TUDALEN

Iechyd Meddwl – Gwasanaethau Cwnsela Lleol

Os oes angen help arnoch chi gyda’ch iechyd meddwl, dyma restr o wasanaethau cwnsela pob awdurdod lleol.

Diolch i Lywodraeth Cymru am greu’r rhestr yma.

MAE’R RHESTR I’W GWELD YMA

Mynd i’r Brifysgol

Os ydych chi’n gwneud Safon Uwch (Lefel A) eleni, efallai eich bod chi wedi gwneud cais i fynd i’r brifysgol flwyddyn nesa. Ar ddiwrnod y canlyniadau, 10 Awst, byddwch chi’n cael gwybod ydych chi wedi cael eich derbyn ar gwrs. Os na chewch chi le yn un o’r prifysgolion ddewisoch chi, mae yna broses o’r enw ‘clirio’. Mae hynny’n golygu bod cyfle i chi ystyried cyrsiau prifysgol eraill a allai fod yn addas i chi.

Ewch i’r dudalen clirio

Paratoi ar gyfer y Brifysgol

Mynd i’r Brifysgol?

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer y cam nesaf yn eich addysg.

EWCH I DUDALEN PAROD Y BRIFYSGOL

Apeliadau ynghylch TGAU a Safon Uwch (Lefel A)

Ewch at wefan CBAC am wybodaeth apeliadau.

Cymwysterau Galwedigaethol

Os yw eich cymhwyster yn debyg i Safon Uwch (Lefel A) neu TGAU, eich ysgol neu eich coleg fydd yn penderfynu ar eich graddau. Mae’r math yma o gymwysterau’n cynnwys BTEC, Dyfarniadau Galwedigaethol CBAC a Thystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol neu gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau.

Bydd eich ysgol neu eich coleg yn sicrhau bod yr asesiad ar bynciau rydych chi wedi gallu rhoi sylw iddyn nhw.

Ddylech chi ddim derbyn eich canlyniad yn hwyrach na dysgwyr sy’n astudio ar gyfer Safon Uwch (lefel A) a TGAU. Bydd canlyniadau Safon Uwch (Lefel A) yn cael eu cyhoeddi ar 10 Awst a chanlyniadau TGAU ar 12 Awst.

Dyw rhai cymwysterau ddim yn debyg i Safon Uwch (Lefel A) neu TGAU. Er enghraifft, gall fod angen i chi arddangos sgiliau ymarferol fel plymio, adeiladu, trin gwallt neu gelfyddydau perfformio. Yn achos y cymwysterau hyn mae gwahanol drefniadau ar gyfer gwahanol gymwysterau. Dylech chi ofyn i’ch ysgol neu eich coleg roi gwybodaeth i chi am eich asesiad. Gallwch chi wirio hefyd gyda’r sefydliad sy’n dyfarnu eich cymhwyster neu chwilio am sut mae eich cymhwyster yn cael ei ddyfarnu yma:

Teclyn Eglurydd Cymhwyster Haf 2021

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf a rhagor am gymwysterau galwedigaethol ar gael yma:

Cymwysterau Cymru / Gwybodaeth i ddysgwyr

Canllawiau Adolygu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw adolygu ar Hwb i helpu pobl ifanc.

Lefel A

Mae’r canllawiau adolygu yn ymdrin â’r canllawiau canlynol:

  • Mathemateg
  • Hanes
  • Cymdeithaseg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Astudiaethau Cyfryngau
  • Addysg Gorfforol
  • Celf & Dylunio
  •  Cymraeg
  • Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol
  • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

EWCH I’R CANLLAWIAU ADOLYGU LEFEL A

Ar ôl Blwyddyn 11

Os ydych chi ym mlwyddyn 11 rydych yn debygol i feddwl beth i’w wneud ym mis Medi. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i feddwl am gam nesaf eich dysgu.

EWCH I DUDALEN BLWYDDYN 11