Gweld y testun: Bach Canolig Mawr

Eiriolaeth gysylltiedig â iechyd  

Bob blwyddyn ers i mi gychwyn yn rôl Comisiynydd Plant Cymru rwyf wedi cyflwyno argymhellion penodol i Lywodraeth Cymru yn fy Adroddiadau Blynyddol yn galw am sicrhau bod pob plentyn neu berson ifanc sydd angen hynny yn cael mynediad at eiriolydd mewn perthynas â’u gofal iechyd.

Yng Nghymru, mae gan blant a phobl ifanc ar hyn o bryd fynediad statudol at eiriolydd proffesiynol annibynnol os ydynt:

  • Mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cymdeithasol ac mewn gofal, yn gadael gofal, neu angen cymorth ychwanegol penodol i fynegi barn ar eu gofal (o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014);
  • Mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ac yn bodloni trothwyon penodol o ran difrifoldeb salwch meddwl o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
  • Dros 16, os bernir nad oes ganddynt y gallu i wneud rhai penderfyniadau o dan Ddeddf Gallu Meddyliol 2005.

Yn y gwasanaethau cymdeithasol, mae dull cenedlaethol cytunedig bellach o gomisiynu a darparu eiriolaeth statudol ar gyfer plant. Dylai’r plant hynny sy’n gallu cael mynediad i’r gwasanaeth hwn dderbyn cynnig gweithredol i wneud hynny.

Rwyf fi am weld estyn cynnig gweithredol o eiriolaeth broffesiynol i blant a phobl ifanc sy’n cael mynediad at wasanaethau iechyd yn fwy cyffredinol.

Beth yw ystyr eiriolaeth?

Nid dim ond mater o gyflwyno cwyn am eich gofal yw eiriolaeth.  Rwy’n pryderu bod rhai pobl, wrth feddwl am ‘eiriolaeth’, yn meddwl yn awtomatig am ‘gwynion’. Mae eiriolaeth yn golygu llawer mwy na chwynion yn unig, yn wir os caiff plentyn neu berson ifanc gyfle i fynegi barn trwy eiriolydd, mae’r angen am gyflwyno cwyn ffurfiol yn debygol o gael ei osgoi.

Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gallai fod angen eiriolydd ar blant neu bobl ifanc:

  • Wrth wneud penderfyniadau am bontio i wasanaethau oedolion
  • Wrth wynebu penderfyniad ynghylch triniaeth bosibl
  • Pan fydd eu cynllun gofal yn cael ei ddatblygu
  • Pan fydd ganddyn nhw farn wahanol i’w rhieni neu eu gofalwyr
  • Pan fydd eu rhieni neu eu gofalwyr yn methu neu’n anfodlon hwyluso eu hymwneud â phenderfyniadau

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn diffinio gwasanaethau eiriolaeth fel:

…gwasanaethau sy’n darparu cymorth (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a’u cefnogaeth…

Mae Eiriolaeth yn:

  • diogelu unigolion sy’n agored i niwed ac yn dioddef camwahaniaethu, neu y mae gwasanaethau’n cael anhawster darparu ar eu cyfer
  • codi llais ar ran unigolion sy’n methu gwneud hynny eu hunain
  • grymuso unigolion sydd angen llais cryfach trwy eu galluogi i fynegi eu hanghenion eu hunain a gwneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain
  • galluogi unigolion i gael mynediad at wybodaeth, i archwilio a deall yr opsiynau sydd ganddynt, ac i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau, yn ogystal â chefnogi pobl yn weithredol i wneud dewisiadau gwybodus.

Cyfleu safbwyntiau unigolion yn gywir

Yn bwysig, mae’n rhaid i eiriolwyr proffesiynol annibynnol ‘…sicrhau bod barn unigolion yn cael ei chyfleu’n gywir, beth bynnag yw barn yr eiriolydd neu eraill ynghylch lles pennaf yr unigolion dan sylw’.

Yn aml iawn mae’n rhaid i’r swyddogion yn fy nhîm Ymchwiliadau a Chyngor weithredu fel cyfryngwyr rhwng gwahanol wasanaethau er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ac adeiladol i blant, ac ystyried beth sydd er lles pennaf y plentyn, yn unol ag Erthygl 3 o CCUHP. Mewn llawer o achosion bydd hyn yn adlewyrchu barn y plentyn, a bydd y swyddogion bob amser yn dymuno cymryd barn y plentyn i ystyriaeth mewn unrhyw achos sy’n derbyn sylw ganddynt, ond mae eu rôl yn un wahanol i un eiriolydd proffesiynol annibynnol sy’n cael ei benodi dim ond er mwyn helpu’r plentyn i gyfleu barn bersonol.

Sut olwg sydd ar eiriolaeth i blant a phobl ifanc?

 Ym mis Gorffennaf 2019, fe gynhaliais i Seminar Iechyd Plant lle bu pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn cyfranogi. Yn y seminar honno, buom ni’n coladu cyfres o egwyddorion craidd ar gyfer eiriolaeth gysylltiedig â iechyd.

Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys:

  • Pethau cyson, dichonadwy a hygyrch y gellir eu hawlio
    • Cynnig gweithredol, yn hytrach nag aros am gais am eiriolaeth
    • Esboniad ar sut mae eiriolaeth yn gweithio y gall pobl ifanc ei ddeall
    • Staff yn ymwybodol ei fod ar gael, a sut gallai fod yn ddefnyddiol
    • Hygyrch a hollgynhwysol – e.e. gwasanaethau eiriolaeth ddieiriau neu heb gyfathrebu
    • Cysondeb trwy ganllawiau statudol a chôd ymddygiad
  • Eiriolaeth sydd ar gael y tu hwnt i gwynion ac eiriolwyr statudol iechyd meddwl
  • Dylai grwpiau bregus sydd heb fynediad statudol at eiriolaeth (cyflyrau Iechyd Meddwl a Niwroddatblygiadol lefel is, er enghraifft) gael help i gael mynediad at gefnogaeth.
  • Dewis rhwng gweithredu fel eiriolydd dros blant a phobl ifanc, a deall yr opsiynau
  • Gwasanaeth annibynnol
  • Gwasanaeth penodol ar wahân ar gyfer pobl ifanc
  • Deall sgiliau a rôl eiriolydd
    • Nid yw eiriolaeth bob amser yn gweithio o bersbectif lles pennaf
    • Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol ddeall rôl eiriolwyr a’r posibiliadau o ran gwrthdaro rhwng dulliau gweithredu eiriolwyr

Byddwn i’n disgwyl i eiriolaeth fodloni’r canlynol:

  • Gwasanaeth sy’n cynnig eiriolaeth wyneb yn wyneb i unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd angen hynny er mwyn cyfranogi mewn penderfyniadau am eu hachos eu hunain, a deall y driniaeth sy’n cael ei chynnig iddynt
  • Gwasanaeth sy’n cynnig eiriolaeth wyneb yn wyneb, gan gydnabod y rhwystrau ychwanegol mae pobl ifanc yn eu hwynebu, megis iaith neu anabledd
  • Hysbysebu gwasanaethau eiriolaeth ar draws lleoliadau iechyd mae plant a phobl ifanc yn neu defnyddio, mewn fformat hwylus i blant
  • Gwasanaeth sy’n glynu at egwyddorion eiriolaeth broffesiynol annibynnol
  • Gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd am gyflwyno cwynion
  • Gwasanaeth sy’n atebol. Dylai’r gwasanaeth gael ei fonitro a’i asesu o ran sut mae’n cael ei hysbysebu a’i ddefnyddio

Dull Gweithredu Hawliau Plant

Mae fy nhîm a minnau’n gweithio’n galed i annog pob gwasanaeth iechyd i ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn eu gwaith. Bydd hynny’n galluogi plant a phobl ifanc i weithio ochr yn ochr â darparwyr iechyd i sicrhau bod gwasanaethau’n dod yn fwy plentyn-ganolog, gyda gwybodaeth o ansawdd uwch ar gyfer plant a llwybrau cliriach at wasanaethau fel pontio i ofal oedolion. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn dileu’r angen am eiriolaeth. Bydd angen cefnogaeth annibynnol ar rai plant o hyd er mwyn cyfranogi mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal neu wneud cwyn.

Beth ddylai ddigwydd nesaf?

 Yn fy marn i y ffordd orau ymlaen fyddai bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a byrddau iechyd er mwyn sefydlu safonau cenedlaethol y mae’n rhaid i bob bwrdd iechyd weithio tuag atynt. Mae’n bleser gen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau trwy weithio i sefydlu grŵp sy’n cynnwys holl Fyrddau Iechyd Cymru, er mwyn ystyried pa ffurf bosibl fyddai i safonau cenedlaethol.

Roeddwn i’n siomedig nad oedd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i egluro sut olwg ddylai fod ar eiriolaeth gysylltiedig â iechyd I blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac nad aeth ati i amlinellu’n fanwl sut bydd Corff newydd Llais y Dinesydd yn cefnogi ac yn hybu barn plant a phobl ifanc.

Heb gyfres o safonau cenedlaethol cytunedig ar gyfer eiriolaeth gysylltiedig â iechyd, rwy’n pryderu y bydd plant a phobl ifanc ledled Cymru yn dal i golli cyfle i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yng nghyswllt eu gofal iechyd. Dyma pam mae gen i argymhelliad, yn Adroddiad Blynyddol eleni, y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth gysylltiedig â iechyd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sydd angen hynny, monitro cynnydd byrddau iechyd tuag at gomisiynu eiriolaeth ddigonol, a hyrwyddo hynny. Rwy’n gobeithio gweld cynnydd go iawn ar yr argymhelliad hwn eleni, a bod y gwaith hwn yn cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain, byrddau iechyd a darparwyr eiriolaeth.