Darllenwch ein papur safbwynt ar Addysg Hawliau Dynol yn y cwricwlwm newydd
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drawsffurfio’r system addysg a gwella bywydau plant a phobl ifanc.
Er bod y cwricwlwm ysgol presennol yn cynnwys rhai elfennau sy’n adlewyrchu gwerthoedd ac egwyddorion hawliau dynol, nid yw cefnogi plant i ddysgu am eu hawliau yn orfodol.
Mae’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm yn gyfle allweddol i Gymru roi sylw i’r bwlch hwn.
Bydd sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i’r cwricwlwm yn creu man cychwyn y dylai
ein holl ymrwymiadau i blant a phobl ifanc lifo ohono; gan wireddu gwerthoedd hawliau dynol yn uniongyrchol yn ein perthynas â phlant a phobl ifanc, yn ein hymarfer a’n haddysgeg, ac yn y systemau a roddwn ar waith i gefnogi plant i fod y gorau gallan nhw fod.
Mae’r papur hwn, felly, yn cyflwyno safbwynt y Comisiynydd o ran pam dylai hawliau dynol ffurfio sylfaen orfodol, waelodol i’r Cwricwlwm newydd, ac mae hefyd yn:
- Mae’n amlinellu’r prif fanteision i blant yn sgîl cynnwys sylw dyledus i Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar wyneb y Bil Cwricwlwm ac Asesu; - Darparu diffiniad o addysg hawliau dynol;
- Nodi manteision addysg hawliau dynol;
- Mapio sut mae hawliau plant wedi eu hintegreiddio ar hyn o bryd ar draws 4 Diben a 6 Maes Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm newydd.