Lleisio barn

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i leisio’u barn am y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae hyn yn golygu pryd bynnag y bydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, dylent roi cyfle go iawn iddynt rannu eu barn, ac ystyried eu safbwyntiau’n ofalus.

Dyma rai o’r hawliau sydd gan eich plentyn i lleisio eu barn.

Mae holl hawliau plant wedi’u hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Erthygl 12

Yr hawl i gael gwrandawiad ac i gael ei ystyried o ddifrif

Erthygl 13

Yr hawl i ganfod a rhannu gwybodaeth a lleisio’i farn (rhyddid mynegiant)

Sut bynnag y bydd eich plentyn yn ymwneud â chorff cyhoeddus – boed hynny’r cyngor, yr ysgol, neu unrhyw un arall – dylech ddisgwyl i’ch plentyn gael ei drin mewn rhai ffyrdd sylfaenol a chael cyfle i leisio’i farn, yn unol â’i hawliau:

  • Dylid ceisio barn eich plentyn yn rheolaidd; nid unwaith yn unig. Meddyliwch amdano fel hyn: dylai oedolion wneud penderfyniadau gyda phlant, nid drostynt.
  • Os rhoddir gwybodaeth iddo, dylai fod mewn iaith neu fformat sy’n briodol i’w oedran a’i aeddfedrwydd, ei ddiwylliant, neu ei anabledd.

Mae rhai sefydliadau ledled Cymru yn dda iawn am barchu hawliau plant, gwrando ar bobl ifanc, a’u cynnwys yn eu gwaith.
Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu gwneud:

  • Ysgrifennu fersiynau i blant o adroddiadau a dogfennau eraill y gellid tybio fel arfer eu bod ar gyfer oedolion
  • Rhoi gwybodaeth i blant am sut y bydd y gwasanaeth yn parchu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Rhoi cyfleoedd i blant holi arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn uniongyrchol, efallai yn rhan o sesiwn holi ac ateb
  • Creu fforwm ieuenctid sy’n gweithio gyda nhw’n rheolaidd i gynnig syniadau iddynt, rhoi adborth ar eu gwaith, a’u hatgoffa o’r addewidion a wnaethant yn flaenorol, o bosibl
  • Cynnwys plant wrth ffurfio’r gwasanaethau eu hunain

Siarter Hawliau Plant

Crewyd panel Ieuenctid y Bae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r panel yn rhoi cymorth i bobl ifanc i roi eu barn wrth ddefnyddio’r gwasanaethau iechyd. Yn y fideo mae’r bobl ifanc yn esbonio:

  • Beth mae’n olygu iddynt i fod yn rhan o banel, yn rhan o benderfyniad a chael rhywun i wrando arnynt
  • Sut mae fod yn rhan o banel yn rhoi’r cyfle iddynt gwrdd â phobl newydd, gweithio fel tîm, dysgu pethau newydd ac i ddilyn gyrfa o fewn y sector iechyd
  • Sut mae’r panel yn helpu holl blant a phobl ifanc i ddeall ac i gyflawni eu hawliau

Amgueddfa Cenedlaethol Cymru

Mae Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn parhau i osod hawliau plant a phobl ifanc wrth rhoi’r cyfle iddynt i greu gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer pobl o’r un oedran. Yn y fideo yma mae aelod o staff ac aelod o’r grwp ieuenctid yn esbonio:

  • Sut mae’r grwp wedi helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fyddai’n rhoi mwynhad iddynt yn ystod amser eu hunain gan ychwanegu elfen addysgiadol yn ogystal
  • Hoffi eu gweld yn adolygu pa elfennau sut allent eu gwella ac i gynrychioli grwpiau sydd ar hyn o bryd heb unrhyw gynrychiolaeth
  • Sut mae nhw angen clywed lleisiau newydd ac i alluogi plant a phobl ifanc i fod yn fwy awdurdodedig

Pan fydd eich cyngor lleol yn gwneud penderfyniad sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, bydd angen iddo ofyn i bobl ifanc am eu barn. Os ydych eisiau darllen y wybodaeth dechnegol ynglŷn â hyn, mae wedi’i hysgrifennu ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Nôl i ddechrau’r canllaw