Hawliau Plant – Cyflwyniad i rieni

Hawliau plant

Mae gan eich plentyn hawliau.

Yn wir, mae gan bob plentyn yn y byd sy’n iau na 18 oed ei gyfres ei hun o hawliau, ar ben yr hawliau dynol sydd gan bobl o bob oed.

Yr enw ar y rhain yw hawliau plant, ac maen nhw wedi’u hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Maen nhw’n amlinellu yr hyn sydd angen ar blant i dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Mae gan oedolion fel rhieni, ysgolion, cynghorau a llywodraethau dyletswydd i sicrhau bod plant yn derbyn eu hawliau.

Darllenwch grynodeb llawn o hawliau eich plentyn

Hawliau plant yng Nghymru

Yng Nghymru, mae ein llywodraeth wedi cytuno y dylai pob plentyn gael yr hawliau hyn.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  • Bod rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl am sut mae unrhyw ddeddfau newydd yn effeithio ar hawliau plant
  • Y dylai pob corff cyhoeddus sicrhau bod eich plant yn cael eu hawliau. Mae hyn yn cynnwys:
    • Yn yr ysgol
    • Pan fyddant yn cael cymorth meddygol
    • Yn eu clwb ieuenctid
    • Eich cyngor lleol

Pam mae hawliau’n bwysig?

Diben yr hawliau yw rhoi’r cyfle gorau i blant dyfu’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel.

Yn y canllaw hwn, rydym wedi eu rhannu’n dri phrif faes:

Aros yn ddiogel

Lleisio barn

Cyrraedd eu potensial

Mae pob maes yn esbonio mwy am hawliau eich plentyn, ac yn cynnwys adnoddau a dolenni defnyddiol i’ch helpu chi a’ch plentyn i ddeall hawliau plant.

Comisiynydd Plant Cymru

Rydym ni yma i hyrwyddo a gwarchod hawliau plant yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud y pethau hyn:

  • Gallwn roi cyngor i chi os ydych yn credu nad yw hawliau eich plentyn wedi cael eu parchu wrth ddefnyddio gwasanaeth.
  • Rydym yn gwrando ar filoedd o blant bob blwyddyn am eu profiadau pob dydd o’u hawliau
  • Rydym yn helpu sefydliadau i ddeall pam mae hawliau mor bwysig, ac i barchu hawliau’r plant maen nhw’n gweithio gyda nhw
  • Rydym yn ceisio newid deddfau – rhai newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, fel eu bod yn well i blant, ac yn parchu eu hawliau.

Lawrlwythwch ein poster hawliau i bobl ifanc

Nôl i ddechrau’r canllaw