Aros yn ddiogel

Mae gan eich plentyn hawl i fod yn ddiogel.

Os bydd yn teimlo’n anniogel unrhyw bryd, mae’n bwysig ei fod yn gallu dweud wrth oedolyn y mae’n ymddiried ynddo, ac mae llawn mor bwysig bod yr oedolyn yn cymryd yr hyn mae’n ei ddweud o ddifrif.

Dyma rai o’r hawliau sydd gan eich plentyn i’w gadw’n ddiogel.
Mae holl hawliau plant wedi’u hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

  • Erthygl 2 – Dylai pob plentyn gael ei drin yn gyfartal
  • Erthygl 3 – Dylai oedolion bob amser wneud beth sydd orau i blant
  • Erthygl 12 – mae gan blant yr hawl i gael gwrandawiad ac i gael eu hystyried o ddifrif
  • Erthygl 19 – mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag cael eu niweidio neu eu trin yn wael
  • Erthygl 34 – mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol
  • Erthygl 36 – mae gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag pethau a allai niweidio eu datblygiad

Beth alla’ i ei wneud?

  • Dywedwch wrth eich plentyn fod ganddo’r hawl i fod yn ddiogel, ac na fydd unrhyw beth gwael yn digwydd os bydd yn dweud wrthych fod rhywun arall, gan gynnwys aelod o’r teulu, wedi gwneud iddo deimlo’n anniogel.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod bod ei gorff yn eiddo iddo ef. Edrychwch ar reolau PANTS yr NPSCC – gall y rhain eich helpu i siarad â’ch plentyn ynglŷn ag aros yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol.
  • Dylai eich plentyn wybod bod ganddo’r hawl i ddweud ‘na’ bob amser os gofynnir iddo wneud rhywbeth sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

 

Beth ddylai pobl eraill ei wneud?

  • Dylai ysgol eich plentyn hefyd ddweud wrth eich plentyn am ei hawl i fod yn ddiogel, a’i annog i siarad ag oedolyn y mae’n ymddiried ynddo os yw’n teimlo’n anniogel.
  • Dylai clybiau yn y gymuned, fel chwaraeon, dawns, brownis a chybiaid, a grwpiau ffyrdd, fod â pholisi Diogelu cyfredol. Weithiau, gelwir hwn yn bolisi Amddiffyn Plant.
  • Os ydych yn pryderu am blentyn, cysylltwch â ni, yr NSPCC, neu’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol.

Cysylltwch â ni

NSPCC

 

Beth alla’ i ei wneud?

  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod bod ganddo’r hawl i fod yn ddiogel ar-lein, yn ogystal ag all-lein.
  • Bydd hyn yn rhoi’r hyder iddo ddweud wrthych os bydd rhywbeth yn gwneud iddo deimlo’n anniogel.
  • Dylech greu amgylchedd gartref lle rydych yn siarad yn agored am bob agwedd ar fywyd eich plentyn. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i drafod unrhyw bryderon gyda chi; p’un a ydynt yn ymwneud â’i fywyd ar-lein neu all-lein.
  • Dylech ddysgu am y platfformau y mae’n eu defnyddio a beth mae’n hoffi ei wneud arnynt, a siarad am unrhyw bryderon sydd gennych. Efallai bydd gwefan NSPCC o gymorth i chi.
  • Dylech gynnwys eich plentyn wrth wneud unrhyw reolau newydd ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd – bydd yn fwy tebygol o lynu wrthynt os oedd wedi helpu i’w llunio.
  • Mae seiberfwlio yn fater o bwys i blant. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd ar fwlio yn yr ysgol, sy’n cynnwys seiberfwlio. Mae’n cynnwys cyngor i rieni a phobl ifanc, yn ogystal ag ysgolion.

 

Beth ddylai pobl eraill ei wneud?

Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fod yn gwneud llawer mwy i amddiffyn hawliau plant ar-lein.
Ym mis Chwefror 2020, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’r cwmni Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud mwy i amddiffyn plant ar-lein.
Nid ydym yn gwybod eto beth fydd Ofcom yn ei wneud i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol sy’n methu â chadw plant yn ddiogel. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar hyn yn ddiweddarach eleni.

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ysgolion ar ddelio â bwlio, gan gynnwys seiberfwlio. Maen nhw’n dweud y dylai ysgolion gofnodi pob achos o fwlio yr adroddir amdano i’w helpu i weld pa mor dda mae eu strategaethau gwrthfwlio’n gweithio.
  • Dylai eich darparwr rhyngrwyd eich helpu i ddeall y rheolaethau rhieni y gallech eu defnyddio i helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel.
  • Mae sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant wedi creu llawer o adnoddau i helpu rhieni a phlant i aros yn ddiogel ar-lein. Dyma rai ohonynt:

NSPCC

SAFER INTERNET DAY

CHILDNET

 

Mae gan ardal ddiogelwch ar-lein Hwb llawer o adnoddau defnyddiol i rieni ac athrawon am ddiogelwch plant ar-lein.

Ar ddolen rhaglen addysg ‘thinkuknow CEOP’ gweler adnoddau defnyddiol i bobl ifanc a rhieni ar sut i gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio ffôn, dabled neu gyfrifiadur.

Mae gennym ni hefyd adnoddau seiber-fwlio defnyddiol ein hunain i blant oedran cynradd ac uwchradd.

 

Dolenau Cyswllt Defnyddiol

ARDAL DIOGELWCH AR-LEIN HWB

RHAGLEN ADDYSG THINKUKNOW CEOP

Ein Adnoddau i’n Gwrth-Seiberfwlio

I BLANT OEDRAN CYNRADD

I BLANT OEDRAN UWCHRADD

EIN HADNODD HYGYRCH GWRTH-SEIBERFWLIO

 

Beth alla’ i ei wneud i gefnogi hyn?

  • Dywedwch wrthynt fod ganddynt yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu cymuned, ac anogwch nhw i drafod unrhyw beth maen nhw’n credu sy’n ymyrryd â’r hawl hon.
  • Dewch o hyd i bwy yw’ch Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol. Gall eich helpu os bydd arnoch angen cyngor ynglŷn â phryder sydd gennych am ddiogelwch eich cymuned leol. Edrychwch am eich PCSO lleol wrth ymweld a gwefan heddlu lleol.
  • Cysylltwch â’ch cynghorydd lleol os ydych yn poeni am rywbeth y mae’r cyngor yn gyfrifol amdano. Mae eich cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw pethau fel ffyrdd, goleuadau stryd, glendid cymunedol, a pharciau.
  • Rydym wedi creu pecyn cymorth yn ddiweddar i helpu pobl ifanc i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
  • Mae’n eu helpu i wybod at bwy i droi a sut i leisio’u barn. Mae’n cynnwys cymorth i lunio deisebau, trefnu cyfarfodydd, a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion fel bod pobl eraill yn gallu mynegi pryderon ynglŷn â nhw hefyd.

 

Beth ddylai pobl eraill ei wneud?

  • Mae llawer o faterion yn eich cymuned a allai achosi pryder i chi neu’ch plentyn. Os ydych yn ansicr ynghylch at bwy i droi, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

 

Nôl i ddechrau’r canllaw