Blynyddoedd Cynnar

Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ein cynlluniau gwersi ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, rydyn ni wedi creu pecyn gweithgareddau ac adnodd hyfforddi ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.

Hoffen ni ddiolch i’r plant a fu’n rhan o dreialu’r adnodd am eu hadborth gonest, oedd yn help mawr.

Bydd yr adnodd yma yn eich cefnogi i gyflwyno a gwreiddio hawliau plant yn eich lleoliad. Mae’r adnodd yn cynnwys syniadau cynllunio ymatebol i chi eu defnyddio yn eich lleoliad. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys syniadau ar gyfer caneuon a llyfrau y gallwch chi eu defnyddio yn eich lleoliad:

Adnoddau

Efallai bydd yn well gan rai lleoliadau ddefnyddio cynlluniau gwersi, ac rydyn ni wedi creu 4 o gynlluniau gwersi i leoliadau eu defnyddio i archwilio hawliau plant:

Cynlluniau Gwersi

Bydd yr hyfforddiant yma’n eich helpu i feddwl sut edrychiad sydd ar ddull hawliau plant o fewn eich lleoliad. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r CCUHP arnoch i gymryd rhan yn yr hyfforddiant yma.

Gallwch gwblhau’r hyfforddiant ar eich pen eich hun neu gyda’ch tîm. Bydd angen i chi agor y Pwerbwynt a llenwi’r llyfr gwaith wrth i chi fynd trwy bob sleid. Rydym wedi cynnwys troslais ar y Pwerbwynt i’ch arwain drwy’r hyfforddiant, os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda’r hyfforddiant cysylltwch â post@complantcymru.org.uk

Os hoffech gael tystysgrif ar gyfer eich cofnodion, cwblhewch eich bwydlen newid a danfonwch y gwaith at y cyfeiriad ebost yma: post@complantcymru.org.uk

Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar – Pwerbwynt gyda throslais

Llyfryn Ymarferwyr i Flynyddoedd Cynnar

Fe welwch isod enghreifftiau o arferion diddorol o wahanol leoliadau a sefydliadau ledled Cymru. Os hoffech gyflwyno eich ymarfer diddorol eich hun anfonwch nhw i post@complantcymru.org.uk

Sylwch – nad ydym wedi ymweld â phob un o’r gosodiadau a amlygir isod.

Astudiaeth Achos – Hawliau Plant – gwasanaeth gwarchod plant cofrestredig Katie Toogood a ‘Too Good Tots’

Astudiaeth Achos – Hawliau plant – Amanda Calloway, Gwarchodwr Plant Cofrestredig

Astudiaeth Achos – Gwreiddio hawliau plant mewn ymarfer pob dydd

Astudiaeth Achos – Hawliau plant yn Meithrinfeydd Cymru – Mudiad Meithrin

“Mae gennym ni Hawliau,” mae’r gân yma’n archwilio hawliau plant ac yn siarad am y pethau sydd eu hangen ar blant i dyfu i fyny’n hapus, yn iach ac yn ddiogel. Cafodd y gân ei hysgrifennu a’i chyfansoddi gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Creigiau.

Rydyn ni’n awgrymu canu’r gân mewn cylch gyda’ch grŵp, a’ch bod chi’n arwain y rhannau actol (efallai byddwch chi am ddefnyddio Arwyddion Makaton).

DARLLENWCH Y GEIRIAU

MAE GENNYM HAWLIAU GAN COMISIYNYDD PLANT CYMRU | GWRANDAWIAD AM DDIM AR ICLOUD

Cerddoriaeth Brintiedig ar gyfer ‘Mae gennym ni Hawliau’