Adroddiad Blynyddol 19-20

Lawrlwythwch ein Hadroddiad Blynyddol 2019-20

Lawrlwythwch ein Cyfrifon 2019-20

Rhai uchafbwyntiau

Dyma rhai o’r gwaith rydyn ni wedi cyflawni rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020:

Gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac athrawon

  • Gwrando ar, gweithio a siarad gyda 15,504 o blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd
  • Mae 606 o ysgolion cynradd ledled Cymru nawr yn rhan o’n cynllun Llysgenhadon Gwych
  • Hyfforddi 475 o blant a 219 o staff addysgu i ddod yn llysgenhadon hawliau
  • Sicrhau 7,404 o ymatebion gan blant a phobl ifanc a 360 o ymatebion gan athrawon i’r ail arolwg hawliau addysg gynhalion ni

Adnoddau

  • Creu adnoddau newydd i ysgolion a sefydliadau, gan gynnwys her hawliau i Sgowtiaid a Geidiau, adnoddau hawliau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gwersi hawliau a chân newydd ar gyfer plant 3-7 oed, adnodd actifyddiaeth a Hwb Gwybodaeth Coronafeirws.

Hawliau mewn polisi

  • Ymateb i o leiaf 28 o ymgyngoriadau’r Cynulliad, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, gan greu newid amlwg mewn nifer o bolisïau newydd a deddfwriaeth.

Helpu plant a theuluoedd

  • Cafodd ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor ei defnyddio 627 o weithiau

Hyfforddi hawliau plant

  • Hyfforddi 200 o weithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol ar ein cynnig newydd i leoliadau blynyddoedd cynnar, Bitw Bach

Cyflawniadau

Dyma rhai o’n cyflawniadau rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:

Gwrthfwlio

Cafodd canllaw newydd i ysgolion ei greu gyda help ein gwaith ar wrthfwlio.

Dylai ysgolion nawr recordio pob tro mae bwlio yn digwydd, sy’n eu gwneud nhw’n fwy atebol i blant a rhieni, ac yn eu helpu i fonitro eu gwaith ar wrthfwlio yn fwy manwl.

Amddiffyniad Cyfartal

Rhoddwyd amddiffyniad cyfartal i blant yn y gyfraith yn erbyn  cosb corfforol. Rydyn ni wedi mynnu y newid hwn ers blynyddoedd.

Mae’n golygu bod dim hawl gan oedolyn sydd yn yn llys oherwydd ei fod wedi ymosod ar blentyn i ddweud bod yr ymosodiad yn ‘gosb rhesymol’.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Ymwelon ni â phob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru i’w herio ar y ffordd y mae plant yn derbyn y cymorth sydd angen arnyn nhw yn eu hardaloedd.

Hawliau plant mewn sefydliadau

Cefnogi mwy o gyrff cyhoeddus blaenllaw i fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau plant, gan gynnwys holl fyrddau iechyd Cymru

Hyfforddi hawliau plant\

  • Cynnal sesiynau hyfforddiant arloesol ar hawliau gyda thadau a’u plant yng Ngharchar Ei Mawrhydi Berwyn
  • Cynnal hyfforddiant hawliau plant ledled Cymru, gan gynnwys 200 o weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar