Adroddiad Blynyddol 16-17

Gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol yma.

Mae fersiwn gweledol sy’n dangos rhai o’n prif gyflawniadau ar gael yma.

Argymhellion

Mae gan yr adroddiad 19 argymhelliad i Lywodraeth ar sawl mater.

Dyma rhai ohynynt:

  • Trwy beilot y cynnig gofal plant newydd ac unrhyw gynllun dilynol dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw plant rhieni sydd ddim yn gweithio yn colli cyfle i gael y gofal plant cynyddol sy’n cael ei gynnig i blant rhieni sy’n gweithio.
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i sicrhau bod hawliau siblingiaid i gadw mewn cysylltiad yn cael eu hystyried yn llawn wrth gynllunio gofal mabwysiadu.
  • Dylai Lywodraeth Cymru newid y canllawiau cyfredol addysgu gartref i roi grym statudol iddyn nhw a chynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei addysgu gartref i sicrhau nad ydyn nhw’n syrthio “oddi ar y radar” yn achos hyd yn oed y gwasanaethau cyffredinol. Mae’n bwysig fod y newdiadau yn rhoi pwer clir i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gweld y plant a siarad gyda nhw’n uniongyrchol am eu haddysg.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau cefnogaeth wladol briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc Byddar a rhai â nam ar eu clyw a’u teuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hygyrch a fforddiadwy ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar amrywiaeth o lefelau, a chyflogi staff mewn ysgolion sy’n cyfathrebu’n rhugl mewn BSL, i ymateb i anghenion unigolion.

Blas o’n gwaith eleni

  • Fe wnaethon ni ymgynghori â mwy na 2000 o blant a bron 300 o weithwyr proffesiynol ynghylch eu teimladau a’u profiadau o fwlio yng Nghymru.
  • Fe wnaethon ni lansio adroddiad ‘Breuddwydion Cudd’ ynghylch ymrwymiadau cymdeithas i ymadawyr gofal Cymru. Arweiniodd hynny at fuddsoddiad o £1m gan Lywodraeth Cymru tuag at fwrsariaeth ymadawyr gofal.
  • Fe wnaethon ni greu adnodd i hybu a dathlu perthnasoedd rhwng y cenedlaethau gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac edrychwyd arno 9000 o weithiau o fewn y misoedd cyntaf ar Facebook.
  • Fe wnaethon ni ymgysylltu â 10,550 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru.
  • Fe wnaethon ni gyhoeddi ‘Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru’. Mae sefydliadau sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Fe wnaethon ni gynorthwyo 528 o achosion trwy wasanaethau cyngor a chymorth annibynnol y Comisiynydd, gan fynd i’r afael â materion sy’n amrywio o anghenion addysgol arbennig i gau canolfan chwaraeon.

Panel Ymgynghorol Ifanc

Eleni rydyn ni wedi sefydlu dau banel ymghynghorol newydd: un panel oedolion ac un panel ieuenctid.

Dyma Lois, aelod o’n panel ymgynghorol ieuenctid, yn trafod ei gwaith eleni: