Adolygiad o sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymarfer ei swyddogaethau: Addysgu gartref ac Ysgolion Annibynnol

Darllenwch yr adroddiad (PDF)

Darllenwch y fersiwn i bobl ifanc (PDF)

Crynodeb Gweithredol

Yr Adolygiad hwn yw’r tro cyntaf i’r swyddfa ddefnyddio’r pŵer i adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymarfer ei swyddogaethau o dan Adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Cynhaliwyd yr Adolygiad mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Ymarfer Plant Dylan Seabridge, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016, gweithredu eu hymrwymiadau cyhoeddus yn dilyn hynny, y sail ar gyfer penderfyniadau cysylltiedig â meysydd polisi addysgu gartref ac ysgolion annibynnol yn Llywodraeth Cymru, ac ystyried hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar draws y gwaith hwn i gyd.

Mae fy nhîm a minnau wedi adolygu dogfennau sydd yn y parth cyhoeddus ac ym meddiant fy swyddfa, yn bennaf yn dyddio nôl i 2015, er bod rhai dogfennau cynharach hefyd wedi cael eu hystyried yn berthnasol.

Er gwaethaf nifer o gamau a gymerwyd gan y Llywodraeth, rwyf wedi dod i’r casgliad mai ychydig iawn o gynnydd sylweddol a wnaed, os o gwbl, yn y naill na’r llall o’r ddau faes polisi sy’n cael eu hystyried (addysgu gartref ac ysgolion annibynnol).

Addysgu Gartref

Mae ymgyngoriadau ar ddiwygio’r canllawiau ar gyfer addysgu gartref yng Nghymru wedi bod yn cael eu hystyried ar hyd fy nghyfnod fel Comisiynydd. Mae llawer o waith wedi digwydd yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r maes polisi hwn, ond effeithiwyd ar y gwaith hwn gan oedi, diffyg eglurder o ran bwriad y polisi, a mynd ar ôl dull gweithredu oedd yn defnyddio pwerau deddfwriaethol presennol, sydd wedi cyfyngu ar allu’r Llywodraeth i gyflawni eu nodau polisi yn llawn. Yn ein barn ni, bu hefyd ddiffyg eglurder o ran y nodau polisi hynny. Y rheswm am hynny yw nad yw’r gwaith polisi bob amser wedi cyfeirio’n ôl yn benodol at argymhellion adolygiad ymarfer plant Dylan Seabridge, oedd yn argymell y dylai pob plentyn y dewisir eu haddysgu gartref gael eu gweld, ac y dylid siarad â nhw a chofnodi eu dymuniadau yn flynyddol.

Amlygodd adroddiadau pellach ac ymatebion ymgynghori yr un materion, felly bu gan y Llywodraeth fap clir o’r llwybr a’r newidiadau angenrheidiol sy’n ofynnol. Ar y cychwyn, dewisodd y Llywodraeth wneud newidiadau o dan bwerau yn y ddeddfwriaeth bresennol; mae’r Adolygiad hwn wedi dangos y diffygion yn y dull gweithredu hwnnw. Bwriad arall y dull gweithredu oedd cyflawni newidiadau yn gyflymach na thrwy greu deddfwriaeth sylfaenol newydd.

Gwaetha’r modd, y canlyniad net mewn gwirionedd yw na chyflawnwyd newid sylweddol mewn unrhyw fodd. Bydd y mater hwn yn symud ymlaen i drydydd tymor olynol y Llywodraeth, ac yn cael ei ystyried eto.

Wrth benderfynu peidio â symud ymlaen gyda newidiadau i’r canllawiau a’r rheoliadau yn 2020, methodd y Llywodraeth ag ystyried hawliau plant fel rhan o’r penderfyniad hwnnw. Nid ymddengys eu bod chwaith wedi ystyried sut roedd y penderfyniad hwn yn effeithio ar waith polisi arall, fel canllawiau diwygiedig ar gyfer ymgysylltiad arferol plant â gwasanaethau cyffredinol.

Ysgolion Annibynnol

O ran diogelu mewn ysgolion annibynnol, mae’r Adolygiad yn darparu tystiolaeth bod y Llywodraeth yn ymwybodol, ers hyd at 18 mlynedd, o’r angen am wneud newidiadau i gryfhau’r darpariaethau rheoliadol a diogelu y mae angen iddynt gydymffurfio â nhw. Hysbysodd Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) ni fod y corff oedd yn rhagflaenydd iddynt wedi codi’r mater hwn 18 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi methu â gwneud unrhyw newidiadau o’r fath, a hynny er gwaethaf achos difrifol a gododd yn 2019 mewn ysgol annibynnol yn Sir Ddinbych. Amlygodd gweithwyr proffesiynol a fu’n ymwneud â’r achos hwnnw pa mor wahanol byddai’r achos wedi cael ei drin petai ymddygiad y pennaeth wedi digwydd mewn ysgol a gynhelid.

Fel cofrestrydd a chorff rheoleiddio, y Llywodraeth yn unig sydd â’r gallu i weithredu mewn perthynas â diffygion mewn ysgolion annibynnol, yn ogystal â dysgu gwersi a chryfhau’r safonau cyfreithiol y mae’n rhaid i’r cyfryw ysgolion gydymffurfio â nhw.

Cefnogwyd y cynigion i gofrestru athrawon o ysgolion annibynnol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg mewn adolygiad a gynhaliwyd ychydig cyn diwedd pedwerydd Tymor y Senedd yn 2016. Fodd bynnag, ni symudodd y Llywodraeth newydd y cynigion hyn ymlaen, a bellach rydym yn cyrraedd diwedd pumed Tymor y Senedd heb i unrhyw gynnydd gael ei gyflawni.

Nid yw’r Llywodraeth eto wedi datrys y cwestiwn ynghylch ai deddfwriaeth sylfaenol neu eilaidd sy’n angenrheidiol i wneud y newidiadau hyn, felly nid oes cynnig clir yn barod i Lywodraeth newydd symud ymlaen gydag ef, er gwaethaf y ffaith bod cyfnod arall o bum mlynedd wedi mynd heibio.

Canfyddiadau

Rwyf wedi gwneud canfyddiadau mewn perthynas â’r canlynol:

  • Ystyriaeth annigonol o hawliau plant
  • Atebolrwydd proses ymgyngoriadau’r Llywodraeth
  • Diffyg ffocws ar y canlyniadau i blant wrth ddewis y llwybr deddfwriaethol mwyaf priodol ar gyfer newid polisi
  • Rheoleiddio ysgolion annibynnol gan Lywodraeth Cymru
  • Diffygion yn y gweithdrefnau ar gyfer rhannu a dysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant
  • Pryderon parhaus ynghylch gweithio ar draws y llywodraeth
  • Bylchau yn y fframwaith cyfreithiol sy’n cynnal pwerau deddfwriaethol fy sefydliad fy hun i adolygu camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Rwyf wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth bresennol Cymru wedi methu ymateb yn ddigonol i’r canlynol:

  • Y dysgu a nodwyd yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge yn 2011
  • Y pryderon diogelu yng nghyswllt ysgolion annibynnol y buont yn eu hadolygu rhwng 2014 a 2016.

Drwy wneud hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol yn unol â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’n ofynnol bod y Llywodraeth, o dan Erthygl 4 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn “cyflawni pob mesur deddfwriaethol, gweinyddol ac arall priodol i weithredu’r hawliau a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol” a’m canfyddiad innau yw nad yw hynny wedi digwydd.

Ymateb y Llywodraeth

Mae ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad statudol yn y PDF yma.

Mae’r ymateb yn derbyn yr argymhelliad ‘mewn egwyddor’ ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ar addysg yn y cartref. Ond bwriad y Llywodraeth yw cyflwyno is-ddeddfwriaeth, er y problemau am y cynlluniau yma a chafodd eu hamlinellu gan ein hadolygiad. Felly, nid yw cynlluniau Llywodraeth Cymru am is-ddeddfwriaeth yn ddigonol i sicrhau bod plant Cymru yn derbyn eu hawliau.

Mae’r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion ynglŷn ag ysgolion annibynnol. Mae disgwyl y bydd newid rheoliadol yn y maes yma yn  trwy’r Senedd yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth hon.

Camau nesaf i’r Comisiynydd Plant

Mae’r Comisiynydd yn parhau i alw ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i wneud yn siŵr bod pob plentyn sy’n derbyn ei addysg adref yn derbyn ei hawliau.

Bydd y Comisiynydd yn craffu ar y newidiadau disgwyliedig ar ysgolion annibynnol i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd pob cam i sicrhau eu bod yn diogelu hawliau pob plentyn mewn lleoliadau addysg annibynnol.