Medi 2026 – Siarter Hawliau Plant

Y mis hwn (Medi 2026), rydym yn herio plant i greu eu Siarter Hawliau eu hunain! Mae’n gyfle i feddwl am yr holl hawliau sy’n bwysig iddyn nhw.

Felly, cychwynnwch gyda’r cwestiynau canlynol:

  1. Pa hawliau sy’n bwysig i chi?
  2. Beth fyddai’n helpu pawb i deimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel?
  3. Pa hawliau hoffech chi eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn eich ysgol, grŵp neu leoliad?

**Nodyn: Yn dilyn adborth o’n holidaur ym mis Mehefin/Gorffennaf, byddwn nawr yn rhoi gweithgaredd i chi ei wneud bob yn ail fis, yn lle holiadur misol.**

Linc i’r Sleidiau